Mae un o arweinwyr Clymblaid Atal y Rhyfel (Stop the War Coalition) yng Nghymru yn dweud ei fod yn “obeithiol” y bydd y cadoediad yn Gaza rhwng Hamas ac Israel yn arwain at “ddod â dinistr Israel o Gaza i ben”.

Daeth cadarnhad yn Qatar ddoe (dydd Mercher, Ionawr 15) fod yna gytundeb rhwng Israel ac Hamas ym Mhalesteina ynghylch cadoediad yn y rhyfel sydd wedi bod yn digwydd ers ymosodiad Hamas ar Israel ar Hydref 7, 2023.

Cafodd 1,200 o drigolion Israel eu lladd ar y diwrnod, gyda 251 yn cael eu cymryd yn wystlon.

Ers i’r rhyfel gychwyn, mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod dros 64,000 o bobol wedi marw yn Gaza.

Yn ôl amodau’r cadoediad, sydd i fod i gychwyn ddydd Sul (Ionawr 19), bydd yna gyfnod cychwynnol o 84 diwrnod heb ymladd.

Mae disgwyl i Israel dynnu eu lluoedd arfog, yr IDF, allan o Gaza a chaniatáu i fwy o gymorth fynd i mewn.

Bydd Hamas yn cychwyn y broses o ryddhau gwystlon gafodd eu caethiwo ar Hydref 7, 2023.

Er bod yna gytundeb rhwng Hamas ac Israel, mae Benjamin Netenyahu, Prif Weinidog Israel, wedi gohirio cyfarfod ei Gabinet i ffurfioli’r cytundeb, gan ei fod yn cyhuddo Hamas o “dynnu’n ôl” ar amodau – rhywbeth mae Hamas wedi gwadu.

‘Cam cyntaf yn unig’

Yn ôl Dominic MacAskill, mae grŵp Atal y Rhyfel, sydd wedi cynnal nifer o brotestiadau drwy wledydd Prydain ers i’r rhyfel gychwyn, yn dweud eu bod nhw’n gweld y sefyllfa fel “seibiant mewn hil-laddiad” yn hytrach na “chadoediad yn nhermau cysylltiadau pŵer rhwng y ddwy ochr”.

Wrth siarad â golwg360, dywed fod y cadoediad yn cynnig “gobaith” i deuluoedd ym Mhalesteina sydd wedi dioddef yn ofnadwy dros y pymtheg mis diwethaf.

Ychwanega fod yn rhaid i unrhyw gytundeb ddod â “sefydlogrwydd hirdymor yn y Dwyrain Canol” – rhywbeth sy’n edrych yn annhebygol ar hyn o bryd.

“Cam cyntaf yn unig yw e,” meddai am y cadoediad.

“Mae’n rhaid i [ymgyrchwyr] gadw’r pwysau i fyny ar y Llywodraeth Israelaidd, oherwydd maen nhw’n parhau i roi pwysau ar bobol tu allan i Gaza, fel yn y Lan Orllewinol, lle mae ymgartrefwyr wedi bod yn ehangu eu gweithrediadau.”

Mae disgwyl protest genedlaethol o blaid Palesteina, fydd yn cynnwys Ymgyrch Undod Palestina, yn Llundain ddydd Sadwrn (Ionawr 18).

‘Angen cydnabyddiaeth o Balestina fel cenedl’

Ers i’r cadoediad gael ei gyhoeddi, mae lluoedd Israel wedi parhau i ymosod ar Gaza, gydag 81 yn rhagor o bobol wedi marw ac 188 wedi cael eu hanafu heddiw (dydd Iau, Ionawr 16).

“Mae’n rhaid i ni sylweddoli bod bwriad Israel [i ymosod ar Gaza] yn parhau,” meddai Dominic MacAskill.

“Dydy’r cadoediad yma ddim yn ateb i bob problem.”

Ychwanega ei fod yn “amau” y bydd Donald Trump, Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau, yn “parhau efo’r agenda” o gefnogi Israel waeth pa drywydd maen nhw’n ei gymryd.

“Dw i’n credu bod rhaid cynnal trafodaeth a dadl ehangach am ddyfodol Palesteina, a chael cydnabyddiaeth i Balesteina fel cenedl ar y bwrdd hefyd.

“Ond yn anffodus, dydy hi ddim yn ymddangos bod Llywodraeth Israel yn ystyried hynny ar hyn o bryd.”

‘Economi filwrol ddim yn economi gynaliadwy’

Dywed Dominic MacAskill ei fod yn “cydnabod” fod Llywodraeth Cymru wedi “galw am gadoediad yn gyson”, ond mai dyma’r “isafswm” mae pobol yn ei ddisgwyl gan wleidyddion.

“Dydy’r holl fusnes o filwreiddio economi Cymru drwy annog cynhyrchu adnoddau milwrol ddim yn ffordd dda o greu economi gynaliadwy,” meddai.

“Felly, mi fydden ni’n sicr yn hoffi pe bai Llywodraeth Cymru yn cymryd safbwynt mwy moesol a hirdymor pan ddaw i’r diwydiant arfau yng Nghymru.”