Mae cynigion dadleuol, fyddai’n ymestyn amseroedd aros i gleifion ym Mhowys sy’n cael triniaeth mewn ysbytai yn Lloegr, yn rhai “cwbl annerbyniol”, yn ôl Aelod Seneddol Rhyddfrydol.

Wrth feirniadu’r cynigion yn hallt, mae David Chadwick, sy’n cynrychioli etholaeth Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe, yn dadlau eu bod nhw’n tanseilio ymrwymiadau llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i leihau amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae’n rhybuddio hefyd y gallen nhw dorri’r Datganiad Gwerthoedd ar gyfer gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr.

Ychwanega nad yw’n barod i eistedd yn ôl tra bo cleifion yn cael eu “gorfodi’n artiffisial i aros yn hirach am driniaeth” yn sgil “rheolau cyfrifyddu sydd wedi’u camreoli”.

Cafodd y mater ei grybwyll yn uniongyrchol gan David Chadwick gyda’r Fonesig Nia Griffith, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, yn ystod sesiwn y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig oedd yn canolbwyntio ar Swyddfa Cymru.

Cynlluniau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

O dan y newidiadau arfaethedig, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried ymestyn amseroedd aros ar gyfer cleifion Powys sy’n aros am driniaethau wedi’u trefnu o flaen llaw, ac apwyntiadau cleifion allanol yn Swydd Amwythig a Swydd Henffordd.

Byddai’r mesur hwn, fyddai’n torri costau, yn golygu bod cleifion o Gymru yn aros yn hirach am driniaeth mewn ysbytai yn Lloegr o gymharu â phobol sy’n byw yn Lloegr, gan fod Bwrdd Iechyd Powys yn honni na all fforddio cyflymder y driniaeth bresennol.

Tynnodd David Chadwick sylw at wrth-ddweud ac addewid Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ym mis Medi i flaenoriaethu cleifion o Gymru sy’n cael triniaeth yn Lloegr er mwyn lleihau’r amseroedd aros uchel yng Nghymru.

Mae 800,000 o gleifion ar y rhestr ar hyn o bryd, sef y nifer uchaf erioed.

Pwysleisia David Chadwick fod y sefyllfa ym Mhowys yn gwrthdaro’n uniongyrchol â’r amcan yma.

Wnaeth y Fonesig Nia Griffith ddim cyfeirio’n uniongyrchol at y pryderon gafodd eu codi am yr amseroedd aros estynedig ar gyfer cleifion Powys, a wnaeth hi ddim ymrwymo chwaith i ddarparu manylion clir am sut y byddai ysbytai Lloegr yn cael eu defnyddio i leihau rhestrau aros yng Nghymru.

‘Cwbl annerbyniol’

Dywed David Chadwick ei bod yn “gwbl annerbyniol” y gallai cleifion Powys gael eu gorfodi i aros yn hirach mewn ysbytai yn siroedd Henffordd ac Amwythig na chleifion o Loegr.

Ychwanega fod y sefyllfa’n “gwrthddweud yn uniongyrchol” yr hyn mae Ysgrifennydd Cymru wedi’i addo yn y gorffennol.

“Mae trigolion ym Mhowys eisoes yn teimlo eu bod nhw’n cael eu hesgeuluso, gan nad oes gennym ni ein hysbyty cyffredinol ein hunain, mae gwasanaethau’n brin, ac rydym eisoes wedi wynebu toriadau enfawr fel y newidiadau diweddar i’n Hunedau Mân Anafiadau.

“Ni fyddaf yn sefyll o’r neilltu tra bod cleifion yn cael eu gorfodi’n artiffisial i aros yn hirach am driniaeth oherwydd rheolau cyfrifyddu wedi’u camreoli gafodd eu gosod gan Lywodraeth Cymru, a byddaf yn gwrthwynebu’r cynlluniau hyn yr holl ffordd.”