Mae llawer o gleifion canser yn aros yn rhy hir am ddiagnosis a thriniaeth, yn ôl Archwilio Cymru.

Mae adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 14) yn datgan bod angen arweinyddiaeth genedlaethol gryfach a chliriach ar frys er mwyn gwella gwasanaethau canser, ynghyd â mwy o bwyslais ar atal achosion.

Gyda nifer y rhai sy’n cael diagnosis wedi cynyddu 22% rhwng 2021 a 2022, mae’r galw cynyddol yn her sylweddol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Dywed Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol, fod “gormod o bobol yn wynebu amseroedd aros annerbyniol o hir am ddiagnosis a thriniaeth canser”.

Ychwanega fod angen ystyried egluro a chryfhau trefniadau ar gyfer arweinyddiaeth genedlaethol a goruchwylio gwasanaethau canser yng Nghymru fel “mater brys”.

Methiant cyrraedd y targed perfformiad cenedlaethol

Yn ôl y targed perfformiad cenedlaethol, dylai 75% o gleifion canser ddechrau eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod.

Ond, er gwaetha’r cynnydd mewn buddsoddiadau, mae’r adroddiad yn dangos bod methiant parhaus wrth geisio bwrw’r targed hwn, gyda rhai cleifion yn aros dros 100 diwrnod i ddechrau eu triniaeth.

Dydy’r targed erioed wedi’i fwrw drwy Gymru gyfan, a dydy’r un o’r byrddau iechyd wedi ei fwrw ers mis Awst 2020.

Fe waethygodd y perfformiad wedi’r pandemig, ac mae wedi aros yn sefydlog ers dechrau 2022, gyda 52%-61% o gleifion yn unig yn dechrau ar eu triniaeth o fewn yr amser targed.

Er bod cyfraddau goroesi canser wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru, maen nhw dal yn wael o’u cymharu â gwledydd eraill.

Cymru sydd â’r gyfradd uchaf ond un o farwolaethau canser yn y Deyrnas Unedig ar ôl yr Alban, ac mae cyfraddau goroesi’n waeth i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig o gymharu ag ardaloedd mwy cefnog.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd yn wynebu heriau sy’n gysylltiedig â bylchau mewn capasiti staffio.

Galw am fwy o eglurder

Nod Llywodraeth Cymru yw i’r rhestrau aros ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig, ond heb gynnydd sylweddol mewn diagnosis a thriniaeth, mae’r adroddiad yn dangos bod hyn yn annhebygol.

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at ddiffyg eglurder ynghylch statws Cynllun Gwella Canser Cymru, gafodd ei lansio yn 2023.

Mae hefyd yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch priod rolau Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wrth oruchwylio a chefnogi gwelliant.

Mae modd atal tua phedwar ym mhob deg canser yn flynyddol yng Nghymru, ac mae cyfleoedd sylweddol ar gael i achub bywydau a lleihau’r pwysau ar adnoddau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ymdrin â ffactorau ffordd o fyw sy’n cynyddu’r risg y bydd rhai mathau o ganser yn digwydd yn y lle cyntaf.

Mater brys

Dywed yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton fod Datganiad Ansawdd Llywodraeth Cymru, yn ogystal â nodi llwybrau sydd wedi’u hoptimeiddio’n genedlaethol a chyhoeddi Cynllun Gwella Canser, “i gyd yn enghreifftiau o ymrwymiad clir i sicrhau gofal canser o ansawdd uchel i bobol Cymru”.

Serch hynny, mae’n cydnabod fod “gormod o bobol yn wynebu amseroedd aros annerbyniol o hir am ddiagnosis a thriniaeth canser”.

“Mae amrywiadau o ran perfformiad a chanlyniadau yn parhau o fewn cyrff iechyd yng Nghymru a rhwng cyrff iechyd yng Nghymru, ac nid oes digon o sylw yn cael ei roi i atal y ffactorau ffordd o fyw all achosi canser a chyflyrau iechyd mawr eraill,” meddai.

“Mae angen egluro a chryfhau’r trefniadau ar gyfer arweinyddiaeth genedlaethol a goruchwylio gwasanaethau canser yng Nghymru fel mater brys.

“Mae’n rhaid i hyn gynnwys datganiad clir ar statws Cynllun Gwella Canser Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a sut mae Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn disgwyl iddo gael ei ddefnyddio, ochr yn ochr â rhaglenni a mentrau eraill, i lunio’r gwelliannau sydd eu hangen arnom mewn gwasanaethau canser yng Nghymru.”

‘All hyn ddim parhau’

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi ymateb i’r ffigurau, dim ond trwy newid y llywodraeth mae modd mynd i’r afael â’r sefyllfa.

“O dan Lafur, prin hanner y cleifion canser yng Nghymru sy’n derbyn triniaeth o fewn yr amser targed,” meddai James Evans, llefarydd iechyd y blaid.

“All hyn ddim parhau.

“Mae Archwilio Cymru’n glir na fydd taflu arian at y broblem yn cyflawni unrhyw beth.

“Dim ond trwy newid llywodraeth y gwelwn ni’r ‘arweinyddiaeth genedlaethol gryfach a chliriach’ sydd ei hangen er mwyn gyrru’r gwelliannau mae angen i ni eu gweld ar gyfer cleifion.”

‘Gwasanaeth Iechyd wedi torri’

“Ar ôl 26 mlynedd o lywodraethau Llafur, mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi torri,” meddai Darren Millar, arweinydd y Grŵp Ceidwadol yn y Senedd.

“Gadewch i ni fod yn blwmp ac yn blaen: mae cleifion yn dioddef ac yn marw’n ddiangen o ganlyniad i aros yn rhy hir am ddiagnosis a thriniaeth ganser.

“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn trwsio’n Gwasanaeth Iechyd ac yn bwrw’r targedau hyn drwy sgrinio mwy o gleifion er mwyn sicrhau bod modd canfod canser yn gynt, a thrwy gyflwyno mwy o gapasiti i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gael triniaeth gynt.”

Camau gweithredu

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru, mae’r adroddiad yn “dditiad damniol o ddiffyg arweinyddiaeth Llafur ar y Gwasanaeth Iechyd”.

“Does dim un bwrdd iechyd wedi cyrraedd targedau triniaeth canser ers 2020, a’r unig ymateb gan Lafur yw taflu mwy o arian i’r rheng flaen yn hytrach na meddwl am atebion.

“Mae llawer o’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn yn adleisio cynllun Plaid Cymru ar gyfer Gwasanaeth Iechyd mwy effeithlon, gafodd ei gyhoeddi ym mis Tachwedd.

“Byddwn yn newid sut mae’r gwasanaeth iechyd yn cael ei redeg ac yn gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r rhestrau sydd ar eu huchaf erioed.

“Ar ôl 25 mlynedd o Lafur, mae’n bryd am ddatrysiadau.

“Dim ond Plaid Cymru sy’n cynnig atebion i’r problemau real sy’n wynebu ein cymunedau.”

Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cyfres o gamau gweithredu er mwyn mynd i’r afael â rhestrau aros.

Mae cynllun Plaid Cymru, Hir pob aros? Troi cornel ar dorri rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd, yn amlinellu sawl cam gweithredu uniongyrchol y byddai Plaid Cymru yn eu cymryd yn nyddiau cyntaf y llywodraeth, sef:

  • sefydlu canolfannau gofal dewisol rhanbarthol i gael pobol ar restrau aros i’w gweld yn gyflym
  • gwella’r broses atgyfeirio drwy gyflwyno Gwasanaeth Triage Gweithredol
  • cyflwyno deddfwriaeth frys i ymgorffori cydweithredu systematig rhwng byrddau iechyd i gydnabod capasiti ar gyfer apwyntiadau
  • dulliau newydd o gynllunio rhestrau aros drwy gyfateb lefelau staffio â gofynion rhestrau aros
  • defnyddio technoleg i gael clinigwyr i asesu symptomau pobol yn gyflymach

Dywed Mabon ap Gwynfor fod y cynllun wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â rhestrau aros uchel yn y tymor byr fel rhan o weledigaeth hirdymor y blaid i wella’r Gwasanaeth Iechyd a’i wneud yn addas ar gyfer y dyfodol.

Dywed fod Llafur wedi colli ei ffordd ar y Gwasanaeth Iechyd, ac mai dim ond Plaid Cymru allai gynnig i gleifion, meddygon a nyrsys y ‘dechrau newydd’ sydd ei angen i’w gwella.

“Mae cynllun Plaid Cymru i daclo’r ôl-groniad a dod â rhestrau aros i lawr yn dangos ein bod o ddifrif am drwsio’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Er i’r Prif Weinidog wneud taclo rhestrau aros yn flaenoriaeth iddi, mae dros 600,000 o bobol yng Nghymru yn dal i aros am driniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd.

“Ni ddylai fod fel hyn.

“Ar ôl 25 mlynedd o Lafur, mae Cymru – ac yn hollbwysig y Gwasanaeth Iechyd – angen dechrau o’r newydd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn croesawu canfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru ac rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau canser yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn canolbwyntio’n llwyr ar weithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i wella mynediad at ddiagnosis a thriniaeth fel rhan o’n targed i 75% o’r rhai gafodd ddiagnosis ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r adeg y tybir bod canser arnyn nhw.

“Rydym hefyd yn adolygu ein trefniadau arweinyddiaeth canser cenedlaethol i ddarparu cyfeiriad cliriach a chryfach ar gyfer gwella gwasanaethau canser.”