Mae disgwyl i Gyngor Gwynedd drafod cynlluniau yr wythnos nesaf i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu yn sgil troseddau’r cyn-brifathro Neil Foden.

Ar ôl cael ei phenodi, dywedodd Nia Jeffreys, arweinydd newydd Cyngor Gwynedd, ei bod hi am i’r awdurdod lleol “wneud y peth cywir” ar gyfer dioddefwyr y prifathro a phedoffeil.

Cafodd Nia Jeffreys ei hethol yn arweinydd ar y Cyngor fis Rhagfyr.

Mae hi bellach yn wynebu cyfrifoldebau newydd heriol, wrth geisio cyflenwi’r gwasanaethau hanfodol mae galw amdanyn nhw yng nghyd-destun y pwysau ariannol sydd ar y Cyngor, yn ogystal â llywio’r ymateb i’r niwed parhaol wnaeth Neil Foden.

Roedd Foden yn un o athrawon mwyaf dylanwadol Cymru cyn i’w gam-drin erchyll ddod i’r amlwg.

Roedd yn gyn-brifathro ar Ysgol Friars ym Mangor, ac yn bennaeth strategol yn Ysgol Gyfun Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.

Fe dderbyniodd ddedfryd o 17 o flynyddoedd yn y carchar yn gynharach eleni, yn sgil troseddau yn erbyn pedair merch yn y gogledd.

Fis Hydref, fe ymddiswyddodd y cyn-arweinydd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, rhagflaenydd Nia Jeffreys, am iddo wrthod ymddiheuro wrth y dioddefwyr pan oedd gofyn iddo wneud yn wreiddiol.

Fe gamodd pedwar aelod o’i Gabinet o’u swyddi cyn iddo gytuno i ymddiheuro.

Yn dilyn achos llys Neil Foden, lansiodd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru eu Hadolygiad Ymarfer Plant (CPR), gan benodi Jan Pickles yn gadeirydd annibynnol.

Mae’r Cyngor hefyd wedi cyflogi cyfreithiwr er mwyn rhoi eu harchwiliad mewnol eu hunain ar waith.

Roedd ambell wleidydd lleol wedi dweud eu dweud hefyd, gan alw am ymchwiliad cyhoeddus i ymateb y Cyngor.

Amcanion

Mae chwe prif amcan i’r Cynllun, sef:

  • cydnabod yn agored a chyhoeddus na ddylai’r fath droseddau fyth fod wedi digwydd ac na ddylai’r un plentyn oddef y fath brofiadau
  • ymddiheuro yn ddidwyll i’r dioddefwyr a’u teuluoedd am yr hyn maen nhw wedi gorfod ei ddioddef
  • cefnogi’r dioddefwyr, yr ysgol a’r gymuned ehangach i geisio adfer eu sefyllfa
  • sefydlu holl ffeithiau yr achos, yr hanes o amgylch y sefyllfa a’r cyd-destun ehangach
  • dysgu’r holl wersi gaiff eu hadnabod fel rhan o gasgliadau ac argymhellion pob ymchwiliad
  • gwella drwy ymateb yn gyflawn a chyflym i bob casgliad ac argymhelliad gyda’r nod o roi hyder i’r cyhoedd fod y Cyngor yn gwneud popeth posib i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto.

Mae’r Cyngor wedi derbyn mewnbwn gwerthfawr gan asiantaethau allanol i lunio’r cynllun, a bydd y cyrff hyn yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth iddo gael ei weithredu a’i ddatblygu.

Bydd yr Aelodau Cabinet yn ystyried cyfres o argymhellion, gan gynnwys:

  • neilltuo adnodd i sefydlu Bwrdd Rhaglen penodol i gydlynu a sicrhau cynnydd priodol ac amserol i gamau a gweithdrefnau ymatebol. Bydd y Bwrdd yn cael ei arwain gan berson annibynnol ac yn cynnwys aelodaeth allanol o gyrff megis Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Llywodraeth Cymru ac Estyn; yn ogystal a Chadeirydd y Panel Adolygiad Ymarfer Plant
  • ffurfioli galwad Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru i gynnal Ymchwiliad Cyhoeddus i droseddau Neil Foden.

Os bydd y Cynllun yn cael ei fabwysiadu, bydd y Bwrdd Rhaglen yn adolygu a monitro’r cynnydd yn rheolaidd, a bydd Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi’r Cyngor yn craffu’r cynnwys.

‘Dewrder a gwytnwch’

“Wrth i’r Cynllun Ymateb ddod gerbron y Cabinet, rydym yn cael ein hatgoffa unwaith eto o ddewrder a gwytnwch y dioddefwyr a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y troseddau erchyll hyn; a’n cyfrifoldeb ni fel aelodau etholedig i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na fydd unrhyw berson ifanc yn dioddef yn yr un ffordd eto yng Ngwynedd,” meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys.

“Pan gefais fy ethol yn Arweinydd y Cyngor ddechrau mis Rhagfyr, fy ngweithred gyntaf oedd i ymddiheuro i’r dioddefwyr ac i addo y byddwn yn troi pob carreg i sefydlu beth aeth o’i le.

“Os ydi’r Cynllun hwn yn cael ei fabwysiadu, bydd yn gam ar y daith tuag at wireddu’r addewid hwn.

“Mae’r Cynllun yn tynnu at ei gilydd mewn un ddogfen y mesurau rydym wedi eu rhoi mewn lle yn barod a’r hyn y byddwn yn ei wneud dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

“Bydd hyn yn galluogi cynghorwyr, pobl Gwynedd, y Llywodraeth a’r Comisiynydd Plant i fesur ein cynnydd ac adnabod unrhyw fylchau.

“Yn ogystal, gan ei bod yn ddogfen fyw, mae hyblygrwydd i’w haddasu yn ôl yr angen.

“Wrth gwrs, ni fydd y gwaith yma’n troi’r cloc yn ôl nac yn dad-wneud yr effaith ar y dioddefwyr, ond mae’n gynllun cadarn a thryloyw sy’n ymateb i sefyllfa wirioneddol erchyll.

“Ein gobaith yw y bydd y gwaith yma o gymorth i gymuned Ysgol Friars wrth iddyn nhw adfer ac ailadeiladu, ac yn gam ar daith y Cyngor i ymchwilio i’r hyn aeth o’i le a’r gwersi sydd i’w dysgu i’r dyfodol.

“Mae’r adroddiad hefyd yn datgan fod Cyngor Gwynedd yn llwyr gefnogol ac ymrwymedig i’r Adolygiad Ymarfer Plant sydd eisoes ar y gweill, yn ffurfioli ein galwad am Ymchwiliad Cyhoeddus ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru – sef y corff sydd â’r grym statudol – i ddod i benderfyniad amserol ar hyn.”

Neil Foden: “Mae’n flin iawn gen i,” medd arweinydd newydd Cyngor Gwynedd

Dale Spridgeon, Gohebydd Democratiaeth Leol

Mae’r Cynghorydd Nia Jeffreys hefyd wedi amlinellu’i gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor