Mae is-etholiad allai arwain at ethol y cynghorydd Reform UK cyntaf yng Nghymru wedi cael ei ddisgrifio gan eu hymgeisydd fel un “pwysicach” nag y mae pleidleiswyr yn sylweddoli.

Mae Stuart Keyte yn gobeithio creu hanes pan fydd etholwyr yn bwrw eu pleidlais i lenwi bwlch ar Gyngor Bwrdeistref Torfaen, yn dilyn ymddiswyddiad y cynghorydd Llafur Sue Malson.

Er y bydd Llafur yn parhau i reoli’r cyngor, gan fod ganddyn nhw fwyafrif o ddeuddeg o hyd, pe bai Reform yn ennill y frwydr ar Chwefror 13 fe fyddai’n hwb i aelodaeth y blaid yn yr awdurdod i bedwar, ar ôl i dri chynghorydd oedd yn arfer bod yn annibynnol ffurfio’r Grŵp Reform cyntaf ar un o gynghorau Cymru haf diwethaf.

Toniann Phillips yw’r ymgeisydd Llafur yn y gystadleuaeth yn ward Pont-y-pŵl, sydd â dau aelod, ar ôl i’r blaid ennill y ddwy sedd yn gyfforddus yn etholiadau llywodraeth leol 2022, gan orffen mwy na 350 o bleidleisiau ar y blaen i’r unig wrthwynebwyr, y Ceidwadwyr.

Twf Reform UK

Fodd bynnag, daw’r is-etholiad ar adeg pan fo’r polau’n dangos cefnogaeth gref i Reform, sy’n cael eu harwain gan Nigel Farage ac a gafodd ei ffurfio gan yr hen Blaid Brexit, ar drothwy etholiadau’r Senedd yn 2026.

“Dw i’n credu bod yr is-etholiad hwn yn bwysicach nag y mae trigolion Trefddyn a Phenygarn yn sylweddoli, hyd yn oed,” meddai Stuart Keyte, cyn-Uwchgapten yn y Fyddin oedd wedi treulio 21 o flynyddoedd yn y Gatrawd Barasiwtwyr a’r Corfflu Logisteg Brenhinol fel aelod cyffredin ac fel aelod wrth gefn.

“Mae’r etholiad hwn mor bwysig oherwydd, pe baen ni’n ennill y sedd hon, a dyna fyddwn ni’n ei wneud, yna dyma fyddai’r tro cyntaf i ymgeisydd Reform ennill etholiad yng Nghymru, a dyma’r domino fydd yn bwrw popeth arall.

“Mae pobol Trefddyn a Phenygarn yn cael rhoi eu dwylo i fyny a dweud ’digon yw digon’, ‘rhowch y gorau i orfodi polisïau arnom ni nad ydyn ni’n cytuno â nhw’, megis 20m.y.a.”

Yr ymgeisydd

Mae’r dyn 64 oed wedi lled-ymddeol, ond mae’n dal ynghlwm wrth nifer o fusnesau ac fe fu’n gyfarwyddwr gyda Swyddfa’r Post.

Yn 1996, fe gymerodd e flwyddyn allan er mwyn addysgu Astudiaethau Busnes yn Ysgol Llantarnam, lle bu’n ddisgybl.

“Un peth yw cael ein hethol, ond byddai’n rhaid i ni ddangos i bobol Torfaen y gall Reform wneud pethau – byddwn ni’n sefyll ein prawf.

“Un peth yw siarad am yr hyn sydd angen ei wneud, ond gallwn ni ddangos y gallwn ni weithredu yn y deunaw mis cyn etholiadau’r Senedd.”

Fe wnaeth Stuart Keyte, sy’n byw yn Waunfelin ger Pont-y-pŵl, ac a gafodd ei ddewis yn ymgeisydd drwy bleidlais gudd o ryw 60 o aelodau, dynnu sylw at ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwaith cynnal a chadw gwael yn yr ardal, a diffyg gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol fel rhai materion sy’n wynebu Trefddyn a Phenygarn.

Mae’r enwebiadau i sefyll yn yr is-etholiad yn cau am 4.30yp ddydd Gwener (Ionawr 17).