Byddai’r Bil Natur a Hinsawdd yn “chwyldroi” y modd y caiff cefn gwlad ei warchod, yn ôl Democrat Rhyddfrydol sydd wedi datgan ei gefnogaeth i’r ddeddfwriaeth.

Mae David Chadwick, yr Aelod Seneddol dros Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, wedi cyhoeddi y bydd yn cefnogi bil Roz Savage, sy’n ymgyrchydd hinsawdd sydd wedi torri sawl record byd, gan gynnwys bod y ddynes gyntaf i rwyfo tri chefnfor ar ei phen ei hun – yr Iwerdd, y Môr Tawel a Chefnfor India.

Nod y bil yw diweddaru deddfwriaeth y Deyrnas Unedig ar yr hinsawdd a’r amgylchedd, gan gynnwys gwyrdroi colledion natur erbyn 2030.

Yn ôl adroddiad ar gyflwr byd natur yng Nghymru yn 2023, mae un ym mhob chwech o rywogaethau mewn perygl o gael eu colli’n llwyr, ac mae nifer y rhywogaethau tir a dŵr wedi gostwng 20% ers 1994.

Mae 2% o’r 3,900 o rywogaethau gafodd eu hasesu bryd hynny eisoes wedi’u colli erbyn heddiw.

Mae 27% o adar ar restr goch yng Nghymru, sy’n golygu mai nhw sydd angen y cymorth mwyaf – 12% oedd y ffigwr yn 2002.

Mae’r ddeddfwriaeth eisoes wedi ennyn cefnogaeth naturiaethwyr megis Chris Packham, ynghyd â mudiadau megis Cyfeillion y Ddaear.

Ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd Llafur a’r Ceidwadwyr yn barod i’w chefnogi, er bod nifer o unigolion eisoes wedi datgan eu cefnogaeth.

‘Dirywiad annerbyniol’

“Dw i’n gwybod fod bywyd gwyllt lleol mor annwyl i gynifer o bobol ledled y canolbarth a Chymru gyfan,” meddai David Chadwick.

“Ond eto, dros y degawdau diwethaf, mae natur a bioamrywiaeth yng Nghymru wedi gweld dirywiad annerbyniol.

“Mae nifer o drigolion hŷn yn aml yn dweud wrtha i fod pethau wedi newid er gwaeth pan fyddan nhw’n meddwl am eu plentyndod a’r mathau o rywogaethau roedden nhw’n arfer dod ar eu traws yn rheolaidd.

“Mae’r bil hwn, sy’n garreg filltir ac sy’n cael ei gynnig gan fy nghydweithiwr Rhyddfrydol Roz Savage, yn gyfle euraid i wyrdroi’r dirywiad yn natur rydyn ni wedi’i weld yng nghefn gwlad Cymru, a bydda i’n pleidleisio o’i blaid yr wythnos nesaf.

“Rhaid i ni warchod cefn gwlad godidog Cymru i genedlaethau’r dyfodol gael ei fwynhau, a dw i’n gobeithio y bydd y Llywodraeth Lafur yn cydweithio â ni er mwyn cefnogi’r ddeddfwriaeth hon.”