Mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi cyhuddo Swyddfa’r Post o droi cefn ar gymunedau gwledig yng Ngwynedd, wrth i’r gwasanaeth gadarnhau eu bod yn cael gwared ar wasanaethau symudol mewn 21 o gymunedau ar draws y sir.

Daw hyn ddiwrnod yn unig wedi’r cyhoeddiad y byddai gwasanaeth post symudol yn dychwelyd i Nefyn ym Mhen Llŷn.

Mae Plaid Cymru’n dweud y bydd penderfyniad diweddaraf Swyddfa’r Post yn golygu cael gwared ar ddarpariaeth fan symudol mewn sawl cymuned yng Ngwynedd.

Mae’r rhain yn cynnwys Efailnewydd, Llanaelhaearn, Bryncir, Llithfaen, Pantglas, Abererch, Minffordd, Borth y Gest, Nasareth, Llanfrothen, Y Fron, Rhosgadfan, Llangybi, Talysarn, Edern, Blaenau Ffestiniog, Chwilog, Gellilydan, Garn, Morfa Bychan, Sarn, Llanfair, a Llanbedr, na fydd yn cael eu gwasanaethu gan fan allgymorth y Swyddfa Bost mwyach.

Mae’r toriadau hyn yn dilyn cau Swyddfa’r Post yng Nghricieth a’r bygythiad parhaus i Swyddfa Bost y Goron yng Nghaernarfon, gafodd eu cadarnhau fis Tachwedd diwethaf.

Bryd hynny, cyfeiriodd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, at “argyfwng” yng ngwasanaethau Swyddfa’r Post.

‘Mynd allan o’u ffordd’

Bellach, mae gwleidyddion Plaid Cymru yn San Steffan a’r Senedd wedi cyhuddo Swyddfa’r Post o “fynd allan o’u ffordd” i wneud bywyd yn fwy anodd i’w cwsmeriaid.

Mae hyn yn gyfnod bregus o ran enw da’r gwasanaeth, a hynny yn sgil sgandal yr is-bostfeistri ddaeth i’r fei ddechrau’r flwyddyn ddiwethaf.

Mewn datganiad ar y cyd, dywed Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, fod y penderfyniad diweddaraf yn un “annirnadwy a dweud y lleiaf”.

Fe ddatgelon nhw y bydd 21 o’r 25 o wasanaethau swyddfa bost symudol ar draws eu hetholaeth yn cael eu dileu.

“Mae’r rhain yn 21 o gymunedau gwledig yn bennaf, fydd yn awr yn cael eu hamddifadu rhag cael mynediad i wasanaethau Swyddfa’r Post yn agos at adref.”

Ychwanega Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, y bydd ei hetholwyr yn Nasareth, y Fron, Rhosgadfan a Thalysarn “wedi cael llond bol ar wasanaethau yn symud ymhellach oddi wrth y bobl y maent i fod i’w gwasanaethu”.

“Yr hyn mae Swyddfa’r Post yn ei ddweud wrth y bobol hyn yw: oherwydd nad ydych chi’n byw mewn lle poblog, nid ydych o bwys,” meddai.

“Ac mae hynny’n gywilyddus.”

‘Achubiaeth’

Fe bwysleisiodd y gwleidyddion gymaint oedd gwerth y gwasanaethau i’r cymunedau maen nhw’n eu cynrychioli.

“Mae’r gwasanaeth hwn yn achubiaeth i lawer o gymunedau yn ein hetholaeth, gan alluogi pobol i gael mynediad at wasanaethau Swyddfa’r Post heb fod angen teithio’n bell,” meddai Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor.

“Mae’r gwasanaeth yn arbennig o bwysig i’r henoed, pobol fregus, a’r rhai nad oes ganddyn nhw fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.”

Yr un oedd neges Siân Gwenllian.

“Unwaith eto, profwyd nad yw cymunedau gwledig, ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Cymru ddim o bwys i sefydliadau cenedlaethol mawr fel Swyddfa’r Post,” meddai.

Pwysleisia y bydd y newidiadau hyn yn ychwanegu at y trafferthion mae pobol yng Ngwynedd yn eu hwynebu eisoes, megis cyflog isel, cyflogaeth ansicr, a phremiwm costau byw gwledig yn deillio o gostau tai, ynni a theithio uchel.

“Bydd y tlodi gwledig hwn, a’r teimlad cyffredinol o arwahanrwydd yn cael eu gwaethygu gan benderfyniad Swyddfa’r Post,” meddai.

‘Eglurder’

Mae sawl man lle’r oedd gofyn am ragor o eglurhad gan Swyddfa’r Post gan y gwleidyddion.

“O ystyried bod Swyddfa’r Post wedi ymrwymo i sicrhau bod 95% o gyfanswm y boblogaeth o fewn tair milltir i gangen Swyddfa’r Post, a bod 95% o boblogaeth pob ardal cod post o fewn chwe milltir i gangen, rydym am wybod sut ar y ddaear maen nhw’n bwriadu cynnal yr ymrwymiadau hyn o ystyried y toriadau dinistriol yma,” meddai Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor wedyn.

“Rydym hefyd yn ceisio eglurder ynghylch a oes unrhyw ymgynghori ystyrlon wedi digwydd gyda’r cymunedau hynny yr effeithir arnynt gan y toriadau hyn.

“Ni fydd pobol yn ein hetholaeth yn cael eu twyllo gan ymddiheuriadau gwag.

“Dyma’r diweddaraf mewn llinell hir o doriadau i wasanaethau rheng flaen dros y cownter heb fawr o ystyriaeth yn cael ei rhoi i ffactorau lleol megis mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, tlodi digidol, neu anghenion penodol cymunedau Cymraeg eu hiaith.

“Yr hyn sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yw bod y difrod i enw da Swyddfa’r Post yn dilyn sgandal y postfeistri yn arwain at ddirywiad cyflymach mewn mynediad at wasanaethau i bobol sy’n byw mewn nifer gynyddol o gymunedau.”