Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi clywed nad oes digon o athrawon cyflenwi i ateb y galw yng Nghymru.

Mae diffyg argaeledd athrawon cyflenwi’n ei gwneud hi’n anodd ateb y galw, ac mae ysgolion weithiau’n gorfod cyflogi staff nad ydyn nhw’n gymwys i gyflenwi.

Yn eu hasesiad o ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater, daeth Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd i’r casgliad bod cynnydd yn parhau’n rhy araf a bod disgyblion ar eu colled o ganlyniad, er bod camau pwysig wedi’u cymryd yn y blynyddoedd diwethaf i wella’r sefyllfa.

Ymchwiliad

Yn ddiweddar, cynhaliodd y pwyllgor ymchwiliad i fesur y cynnydd a wnaed ers i adroddiad o bwys gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2020 ddenu sylw at nifer o broblemau roedd angen i Lywodraeth Cymru ymdrin â nhw o fewn y system athrawon cyflenwi.

Roedd dod o hyd i gyflenwad digonol mewn ardaloedd gwledig a diffyg athrawon i addysgu Cymraeg a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg yn faterion o bwys gafodd eu hamlygu yn 2020, ac mae’n parhau’n broblem benodol heddiw.

Mae diffyg data am absenoldebau athrawon am resymau heblaw salwch, a diffyg manylion am sut mae ysgolion yn defnyddio fframwaith asiantaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru i logi staff cyflenwi, hefyd yn ei gwneud yn anodd mesur pa mor dda mae Llywodraeth Cymru yn perfformio, ac asesu a yw’r trefniadau’n rhoi gwerth am arian, medd y pwyllgor.

Fe wnaeth y pwyllgor amlygu anfanteision gyda’r cymhellion recriwtio a chadw athrawon hefyd, ac maen nhw’n rhwystredig nad yw’r Gronfa Cyflenwi Cenedlaethol yng Nghymru, sef llwyfan archebu ar-lein i ysgolion ddod o hyd i athrawon, wedi’i chyflwyno’n genedlaethol hyd yma.

Safon y cyflenwad addysg yn wirioneddol bwysig

“Dywedir y gall athro da newid popeth, ond pan fydd yr athro hwnnw’n anochel yn absennol, mae safon y trefniadau cyflenwi yn bwysig iawn,” meddai Mark Isherwood, cadeirydd y pwyllgor.

“Rhaid inni ddarparu’r ddarpariaeth orau bosibl i gyflenwi absenoldebau addysgu yn yr ystafell ddosbarth fel na fydd addysg plant yn dioddef yn ormodol.

“Mae’n hanfodol felly bod gennym gyflenwad digonol o athrawon cyflenwi sy’n cael eu talu’n ddigonol, yn gymwys ac uchel eu cymhelliant, ar draws pob oedran a phwnc, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

“Er bod camau pwysig wedi’u cymryd, mae’r Pwyllgor yn pryderu bod cynnydd yn rhy araf a lle mae camau’n cael eu cymryd, mae’r diffyg monitro yn golygu na all y llywodraeth fod yn siŵr a yw ei dull yn cael yr effaith a ddymunir.

“Mae’n bwysig nodi yr hoffai’r pwyllgor weld y ‘pwll cyflenwi cenedlaethol’ sydd wedi’i drafod ers tro yn cael ei wireddu’n genedlaethol a bod pob athro cyflenwi yn gallu manteisio ar gyflog uwch, pensiwn a hyfforddiant eu cydweithwyr.”

Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru i gael eu hymateb.