Mae’r dosbarth Cymraeg cyntaf ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ym Merthyr Tudful wedi cael sêl bendith.

Ddydd Mercher (Rhagfyr 4), fe wnaeth Cabinet y Cyngor gymeradwyo’r cynlluniau ar gyfer canolfan adnoddau dysgu Gymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug yn Aberfan.

Does yna’r un ganolfan adnoddau dysgu Gymraeg yn y fwrdeistref sirol, ac mae sefydlu darpariaeth arbenigol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol trwy gyfrwng y Gymraeg yn flaenoriaeth i’r Cyngor, medd adroddiad y Cabinet.

Bydd yn ddosbarth i ddeuddeg o ddisgyblion Derbyn hyd at Flwyddyn 6 sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug, a bydd modd croesawu disgyblion nad yw ysgol brif ffrwd lawn amser yn addas ar eu cyfer.

Bydd yn darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sydd angen dosbarth arbenigol, ac ar gyfer ystod o anghenion, gan gynnwys Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth ac anghenion cymhleth, heb fod wedi’u cyfyngu i’r rheiny.

Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug

Ar hyn o bryd, mae Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug yn ysgol gynradd sydd ag un dosbarth ar gyfer pob blwyddyn ysgol, sydd â chapasiti ar gyfer 288 o ddisgyblion oed ysgol, gyda 40 o dderbyniadau.

Mae yna ddosbarth meithrin hefyd sy’n gallu derbyn cyfwerth â 49 o ddisgyblion llawn amser.

Mae’r niferoedd ar gyfer dosbarthiadau meithrin yn cynnwys plant cyn oed ysgol sy’n cael eu derbyn yn rhan amser yn Ionawr ac Ebrill, yn ddibynnol ar lefydd.

Mae arian grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru wedi’i sicrhau er mwyn cynyddu capasiti’r ysgol i 329, gan gynyddu niferoedd derbyniadau i 47 a gwneud yr ysgol yn un sydd ag un dosbarth a hanner bob blwyddyn ysgol.

Bydd hyn hefyd yn galluogi’r ysgol i groesawu cyfwerth â 63 o ddisgyblion meithrin, gan sicrhau digon o lefydd ar gyfer disgyblion cyn oed meithrin rhan amser bob Ionawr ac Ebrill, medd adroddiad y Cabinet.

Mae arian grant cyfalaf wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfleuster ystafell gymunedol ac i gyd-leoli Cylch Meithrin ar safle’r ysgol.

Bydd y prosiect cyfalaf i gynyddu capasiti’r ysgol, datblygu dosbarth canolfan adnoddau dysgu, darparu ystafell gymunedol a chyfleuster gofal plant Cylch Meithrin, yn cael ei gyflwyno fel prosiect unigol gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru.

Dim gwrthwynebiadau na gwelliannau

Doedd dim gwrthwynebiadau wedi’u derbyn yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, a does dim gwelliannau wedi’u cynnig yn yr hysbysiad statudol.

Mae prosesau tendr yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd er mwyn penodi contractiwr i ymgymryd â gwaith cyfalaf gofynnol, a bydd yr amserlenni ar gyfer cwblhau’r gwaith – mis Medi 2025, yn ôl amcangyfrifon – yn cael ei gadarnhau unwaith fydd contractiwr yn cael ei benodi a bod y rhaglen waith yn cael ei chytuno.

Er mwyn sefydlu dosbarth canolfan adnoddau dysgu yn Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug, bydd gofyn i’r ysgol gyflogi athro/awes canolfan adnoddau dysgu a dau gynorthwyydd dysgu.

Bydd yr awdurdod lleol yn cefnogi’r ysgol i recriwtio staff dysgu a chynorthwyol priodol yn barod ar gyfer Medi 2025 ac i helpu i drosglwyddo disgyblion.

Pe bai oedi cyn bod yr adeilad yn barod i groesawu’r disgyblion yn y dosbarth canolfan adnoddau dysgu o fis Medi 2025, bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddefnyddio dull peripatetig hyd nes bod adeilad yn barod.

Dywed y Cyngor y byddan nhw’n parhau i gydweithio ag Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug, Ysgol Gymraeg Santes Tudful a’r egin ysgol Gymraeg er mwyn adnabod disgyblion posib all gael eu lleoli’n briodol yn y ganolfan adnoddau dysgu.

Mae’r gyllideb sy’n ofynnol i ariannu’r dosbarth Cymraeg yn y ganolfan adnoddau dysgu yn Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug eisoes wedi’i diogelu yng nghyllideb refeniw’r Cyngor o fis Medi 2025.

Mae’r gyllideb gyfalaf gan Lywodraeth Cymru sy’n ofynnol i ddatblygu’r dosbarth canolfan adnoddau dysgu o fewn yr ysgol wedi’i diogelu, gan ddefnyddio grant cyfalaf Cymraeg.