Mae cyhoeddiad Syr Keir Starmer fod gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig y nod o gyflogi 13,000 yn rhagor o blismyn cymunedol ledled Cymru a Lloegr cyn diwedd y tymor seneddol presennol yn San Steffan wedi cael ei wfftio gan gyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd.
“Polisi popiwlistaidd” nad yw’n mynd at wraidd troseddu ydy cael mwy o heddlu, yn ôl Arfon Jones.
Plismon i bob cymuned
Yn ôl Yvette Cooper, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, amcan cynllun y Llywodraeth ydy bod gan bob cymuned ledled Cymru a Lloegr eu plismon eu hunain.
Mae’n gobeithio y bydd hyn yn galluogi’r heddlu i adfer ymddiriedaeth y cyhoedd, wedi i enw da’r gwasanaeth ddirywio dros y blynyddoedd diwethaf.
Ond mae Arfon Jones, oedd yn Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd rhwng 2016 a 2021, yn teimlo’n amheus.
“Dw i wedi bod yn plismona ers 1978, a phob tro rydan ni’n cael llywodraeth newydd, maen nhw’n gwneud addewidion am niferoedd, ac yna erbyn y diwedd maen nhw’n penderfynu nad yw’r arian gyda nhw, ac felly maen nhw’n torri niferoedd yn lle eu cynyddu,” meddai wrth golwg360.
Yn 2019, addawodd y Llywodraeth Geidwadol y bydden nhw’n recriwtio 20,000 yn rhagor o heddlu, ond dydy hi ddim yn hysbys a wnaethon nhw wireddu’r addewid.
‘Amheus’
Mae Arfon Jones hefyd yn gofidio am yr effaith y gallai cynyddu nifer y plismyn cymunedol ei chael ar droseddu.
“Mae angen mwy o blismyn, ond dw i ddim yn gwybod os oes angen mwy o blismyn ar y strydoedd,” meddai.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw cynyddu nifer y plismyn mewn cymunedau’n lleihau cyfraddau troseddu.
Yn ogystal, dydy troseddau sy’n cael eu cyflawni ar y strydoedd ddim mor berthnasol yn yr unfed ganrif ar hugain, yn ôl Arfon Jones.
“Mae natur troseddu wedi newid,” meddai.
“Mae llai o droseddu ar y strydoedd a mwy o droseddu seiber, gan gynnwys twyll digidol.
“Dydy plismyn yn cerdded lawr y stryd ddim yn gwneud dim byd i ddiogelu plentyn ar-lein yn ei lofft.”
Mae gan Arfon Jones bryderon am bwrpas cynyddu’r niferoedd hefyd.
“Beth mae Keir Starmer a’r llywodraeth yn gobeithio cael allan ohono fo?” gofynna wedyn.
“Dw i ychydig yn amheus.
“Yfe dim ond polisi popiwlistaidd i blesio’r cyhoedd ydy hwn, neu ydyn nhw’n disgwyl rhyw wahaniaeth mawr?”