Mae arweinydd newydd Cyngor Gwynedd wedi’i hethol, gan ddod yn arweinydd benywaidd cyntaf y Cyngor.
Cafodd Nia Jeffreys ei hethol yn arweinydd mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 5).
Ers 2022, mae’r Cynghorydd wedi bod yn ddirprwy arweinydd ar Gyngor Gwynedd, yn Aelod Cabinet ers mis Mai 2018, ac yn cynrychioli Ward Porthmadog ers 2017.
Daw etholiad Nia Jeffreys fel arweinydd y Cyngor yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Dyfrig Siencyn o’r rôl fis Hydref.
‘Uchelgais i frwydro dros y gwasanaethau cyhoeddus’
Dywed Nia Jeffreys ei bod yn “hynod falch” o’r “fraint” o gael ei hethol yn arweinydd benywaidd cyntaf Cyngor Gwynedd.
Dywed fod gwasanaethau cyhoeddus yn “agos iawn” at ei chalon, a’i bod yn ymwybodol o’r dylanwad mae’r gwasanaethau yn gallu ei gael ar fywydau pobol.
“Dros y blynyddoedd, mae gwasanaethau hanfodol lleol wedi dioddef toriadau creulon oherwydd cyfres o setliadau ariannol llym gan y Llywodraeth,” meddai.
“Rydw i’n gweld gyda fy llygaid fy hun yr effaith mae hyn yn ei gael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ar draws y sir.
“Fel arweinydd newydd, fy ngweledigaeth ac fy uchelgais yw i frwydro dros y gwasanaethau cyhoeddus hyn fel gall cenedlaethau’r dyfodol elwa yn yr un ffordd â phobol fel fi.
“Un o’r prosiectau rwyf fwyaf balch ohono yn ystod fy nghyfnod gyda Chyngor Gwynedd yw ein gwaith rhagweithiol i helpu pobol a chymunedau Gwynedd i ddelio â’r argyfwng costau byw.
“Gyda mwy o ansicrwydd o’n blaenau – costau bwyd ac ynni yn parhau i godi, a’r galw am wasanaethau cyhoeddus yn cynyddu – byddaf yn parhau i wneud popeth posib yn y swydd bwysig hon i sicrhau’r gorau i bobol Gwynedd.”
Ychwanega ei bod yn frwd dros y Gymraeg, ac yn awyddus i “gadw’r Gymraeg yn iaith fyw yn ein cymunedau”.
“Rwyf yn edrychaf ymlaen i weithio gyda fy nghyd-aelodau a staff y Cyngor dros y cyfnod nesaf i adeiladu ar y seiliau cadarn sydd gennym,” meddai.
“Mae gan bawb gyfraniad i’w wneud, a byddwn yn gwneud ein gorau i hybu gwaith y Cyngor er lles holl drigolion Gwynedd.”