Darren Millar yw arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.
Wnaeth neb sefyll yn ei erbyn i olynu Andrew RT Davies, oedd wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad yr wythnos hon, er iddo fe ennill pleidlais hyder ymhlith Aelodau Ceidwadol o’r Senedd o naw i saith.
Cafodd enwebiad Darren Millar sêl bendith pob un o’i bymtheg cyd-Aelod yn y Senedd.
Mae David TC Davies, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi’i benodi’n Bennaeth Staff Darren Millar.
Er gwaetha’i rôl newydd yn y Senedd, dydy Darren Millar ddim yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fel plaid.
Undod
“Dw i’n falch o gyhoeddi bod Darren Millar AoS wedi’i ethol heb wrthwynebiad yn arweinydd newydd Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru,” meddai Bernard Gentry, cadeirydd y blaid.
“Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn ennill nifer o is-etholiadau llywodraeth leol ledled Cymru, ac mae ein diwrnodau gweithredu wedi recriwtio cannoedd o wirfoddolwyr ac ymgyrchwyr newydd.
“Gan gydweithio fel plaid unedig o dan Darren, Mims [Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru] a fi, dw i’n hyderus y gallwn ni gael rhagor o lwyddiant yn etholiadau’r Senedd yn 2026, a dod â chwarter canrif o reolaeth Llafur i ben.
“Dw i’n dymuno pob llwyddiant i Darren wrth iddo fe gymryd yr awenau.”
‘Gostyngedig’
“Dw i’n ostyngedig yn sgil cefnogaeth anhygoel fy nghydweithwyr yn y Senedd, a’r negeseuon caredig dw i wedi’u derbyn gan aelodau’r Blaid Geidwadol ac aelodau’r cyhoedd ledled y wlad,” meddai Darren Millar.
“Bydd hi’n anodd dilyn Andrew RT Davies, ond dw i’n benderfynol o adeiladu ar ei waddol wrth i ni fynd â’r frwydr at ein gwrthwynebwyr gwleidyddol yn y cyfnod yn arwain at etholiadau’r Senedd yn 2026.
“Ar ôl 25 mlynedd o fethiant Llafur, mae Cymru’n galw allan am obaith a newid.
“Dw i’n edrych ymlaen at amlinellu ein cynlluniau i gyflwyno’r union beth hwnnw yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod.”
‘Wyneb newydd, ond yr un hen Blaid Geidwadol yng Nghymru’
“Wyneb newydd, ond yr un hen Blaid Geidwadol yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llafur Cymru.
“Mae pleidleiswyr eisoes wedi gwrthod Darren Millar a’i gydweithwyr yn yr etholiad cyffredinol.
“Yn hytrach na cheisio deall pam, maen nhw’n papuro dros y craciau.
“Fydd pobol Cymru ddim yn credu hynny.”