Dywed arweinydd newydd y Grŵp Ceidwadol yn y Senedd y bydd yna “undod” a “negeseuon positif” gan y blaid o dan ei arweinyddiaeth.
Daeth cadarnhad ddydd Iau (Rhagfyr 5) mai Darren Millar yw’r arweinydd newydd, gan olynu Andrew RT Davies, sydd wedi camu o’r neilltu.
Wrth siarad â golwg360, dywed yr arweinydd newydd ei fod e’n anelu i sicrhau mai ei blaid o fydd “y blaid fwyaf” ym Mae Caerdydd ar ôl etholiadau’r Senedd yn 2026.
Safodd heb wrthwynebiad gan unrhyw aelod arall, sy’n golygu iddo gael ei ‘goroni’ yn arweinydd heb fod angen gornest.
Creu “peiriant ymladd” etholiadol
Dywed Darren Millar ei fod yn “hynod freintiedig” wrth dderbyn cefnogaeth gan aelodau’r Grŵp Ceidwadol yn y Senedd er mwyn bod yn arweinydd.
“Mae gennym ni gymaint o dalent yn y blaid,” meddai wrth golwg360.
“Ac rwy’n awyddus i adeiladu ar gyfnod Andrew RT Davies yn arweinydd y blaid.”
Mae Darren Millar yn awyddus i dynnu sylw at etholiadau 2021, pan ddaeth y Ceidwadwyr yn brif wrthblaid gydag 16 o seddi.
Ar hyn o bryd, mae arolwg Barn Cymru yn gosod y Ceidwadwyr yn bedwerydd, gydag 19% o bobol yn bwriadu pleidleisio drostyn nhw.
Pe bai canlyniadau’r arolwg yn dod yn wir yn 2026, Reform fydd y blaid asgell dde fwyaf yn y Senedd.
Wrth ymateb i hyn, dywed Darren Millar fod ganddo “waith” i’w wneud er mwyn troi’r Ceidwadwyr Cymreig yn “beiriant ymladd” ar gyfer yr etholiadau.
‘Hyderus o fedru uno’r Grŵp’
Daeth rhaniadau amlwg yn y blaid i’r wyneb yr wythnos hon, yn sgil pleidlais hyder yn erbyn Andrew RT Davies.
Enillodd Andrew RT Davies y bleidlais hyder, ond mai dim ond o naw pleidlais i saith enillodd e, dywedodd fod ei arweinyddiaeth yn “anghynaladwy”.
Mae rhai aelodau ehangach ar draws y wlad wedi bod yn galw’r saith bleidleisiodd yn ei erbyn yn “fradwyr”.
Er gwaetha’r rhaniadau hyn, mae Darren Millar yn dweud ei fod yn “hyderus” ei fod o’n gallu “uno’r Grŵp” yn y Senedd.
“Dw i wedi medru gwneud hyn yn lleol yn fy etholaeth i dros nifer o flynyddoedd,” meddai.
‘Llafur Cymru wedi torri Cymru’
O ran yr hyn y gallwn ei ddisgwyl o dan arweinyddiaeth Darren Millar, dywed mai “negeseuon positif” fydd yn dod allan o’r blaid rhwng nawr a mis Mai 2026.
“Y realiti ydi bod Llafur Cymru wedi torri Cymru,” meddai.
“Mae angen atebion arnon ni fel gwlad i drwsio Cymru, a hynny er lles yr economi, y Gwasanaeth Iechyd ac addysg.”
Ychwanega ei fod o eisiau arwain Plaid Geidwadol sydd yn brwydro “dros bethau” yn hytrach nag “yn erbyn pethau”.
Mae disgwyl i Darren Millar benodi ei Gabinet Cysgodol yr wythnos nesaf.