Mae ffermwr bîff a defaid o Geredigion wedi elwa ar arbrawf cwmni o Dyddewi sy’n defnyddio gwymon fel gwrtaith i hybu’r cnwd.

Roedd Daniel Evans o Fferm Tan-y-Graig ger Llanbedr Pont Steffan, ymhlith y grŵp treial fferm gychwynnol a defnyddiodd biosymbylydd cwmni Câr-y-Môr ar dri chae o borfa meillion coch oedd newydd eu tros-hadu.

Dywedodd Daniel, “Fe wnaethon ni ddefnyddio’r biosymbylydd ar tua 1.5 erw i gyd, gyda rhan o’r caeau wedi’u gadael heb eu trin i gymharu canlyniadau. Cefais fy synnu gan y canlyniadau. Yn weledol, nid oedd yn ymddangos bod unrhyw wahaniaeth i ddechrau, ond pan gafodd y glaswellt eu pwyso, roedd yr ardal lle’r oeddem wedi defnyddio’r biosymbylydd yn dangos cynnydd o 18% yn y cnwd – sy’n dystiolaeth bendant.” Ategodd fod y canlyniadau a gafwyd ar Fferm Tan-y-Graig yn addawol, ac y byddai ganddo ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn treialon pellach.

Wedi ei ddatblygu gan Câr-y-Môr, fferm gefnfor adfywiol gyntaf Cymru, mae’r ystod o chwistrellau dail a gwrtaith hylifol wedi’u dylunio i helpu ffermwyr i leihau eu dibyniaeth ar wrtaith artiffisial, gwella tyfiant gwreiddiau a’r cnwd a helpu planhigion i wrthsefyll holl heriau a straen yr hinsawdd fel llifogydd, rhew a sychder.

‘O’r môr i’r pridd i’r bwrdd’

Cafodd y Gymdeithas Budd Cymunedol yn Nhyddewi ei ysbrydoli gan fodelau arloesol yng Nghanada, Alaska a Seland Newydd. Trwy gofleidio agwedd ‘o’r môr i’r pridd i’r bwrdd’, nod y sefydliad yw cynnig ateb unigryw Gymreig i’r pwysau ariannol ac amgylcheddol sy’n wynebu ffermwyr heddiw.

Meddai Dom Burbridge, cyfarwyddwr Câr-y-Môr, “Wrth geisio bwydo ein cenedl, mae ffermwyr a thyfwyr yn wynebu llwyth o heriau – naturiol a dynol. Mae’r newid hinsawdd a’r tywydd annhymhorol yn cael effaith aruthrol ar sut a beth rydym yn ei ffermio, tra bod newidiadau mewn taliadau uniongyrchol a’r pwysau economaidd ar y farchnad wedi effeithio ar incwm a chynyddu costau fferm yn aruthrol.

“Fel Cymdeithas Budd Cymunedol, nod Câr-y-Môr yw gwella bywoliaethau’r gymuned leol, ac mae pysgotwyr a ffermwyr wrth galon ac enaid ein cymunedau. Rydym yn creu rhywbeth sy’n mynd i’r afael â llawer o’r pryderon sy’n wynebu ein ffermwyr. Mae’n ateb penodol i dirwedd Cymru hefyd – er enghraifft, mae’r hyn sy’n gweithio yng Nghymru yn gwbl wahanol i anghenion ffermwyr dwyrain Lloegr.”

Cafodd canlyniadau’r treial yn Nhan-y-Graig eu hasesu gan Marc Jones, ymgynghorydd glaswellt a phorthiant annibynnol, a Ffermwr Glaswelltir y Flwyddyn 2021 Cymdeithas Tir Glas Prydain.

Meddai, “Mae potensial enfawr i amnewid y gwrtaith carbon-ddwys a ddefnyddir yn gyffredinol gan ffermwyr gyda dewis amgen mwy cynaliadwy Câr-y-Môr. Bydd hyn yn helpu i gynyddu cynnyrch ond hefyd yn lleihau’r ôl troed carbon sy’n gysylltiedig â gwrtaith ar draws ffermydd.”

Dywedodd Daniel, “Rydym i gyd yn edrych i leihau costau mewnbwn, felly byddwn yn annog ffermwyr eraill i gymryd rhan mewn treialon biosymbylyddion hefyd.”

Mae croeso i ffermwyr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn nhreialon fferm biosymbylydd Câr-y-Môr e-bostio: dom@carymor.wales

Mae rhagor o fanylion am fenter Câr-y-Môr ar gael yn https://www.carymor.wales/biostimulant