Mae Llyfr Glas Nebo wedi dod yn un o fawrion llenyddiaeth Gymraeg cyfoes ers ei gyhoeddi yn 2018, ac mae awdur y gyfrol wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n “fraint enfawr” ei gweld hi’n teithio’r byd.

Y nofel apocalyptaidd oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018, ac enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2019.

Roedd rhagor o ganmoliaeth i’r nofel ddydd Mawrth diwethaf (Rhagfyr 3), wrth i’r cyfieithiad Ffrengig gael ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig yn dathlu cysylltiadau llenyddol rhwng gwledydd Prydain a Ffrainc.

Ond mae’r awdur Manon Steffan Ros yn cyfaddef iddi feddwl yn ofalus cyn mynd i’r seremoni wobrwyo.

‘Byw bywyd rhywun arall am bnawn’

“Profiad swreal” oedd cael ennill Gwobr yr Entente Littéraire yr wythnos ddiwethaf, yn ôl Manon Steffan Ros.

Chafodd hi ddim gwybod ei bod hi wedi ennill ymlaen llaw, ac felly roedd yr holl beth yn “sioc braidd”, meddai.

Cafodd y wobr ei sefydlu fis Medi y llynedd, er mwyn hyrwyddo cysylltiad rhwng Ffrainc a gwledydd Prydain ym maes llenyddiaeth pobol ifanc.

Y Frenhines Camilla a Brigitte Macron, gwraig yr Arlywydd Macron, sy’n noddi’r Entente Littéraire, ac fe wnaethon nhw gyflwyno’r wobr mewn seremoni arbennig yng nghartref y llysgennad Ffrengig yn Kensington.

Roedd derbyn gwobr yno “fel byw bywyd rhywun arall am bnawn”, meddai Manon Steffan Ros.

‘Hawlio’n lle’

Wrth drafod cael cyfarfod â Camilla, dywed Manon Steffan Ros nad yw hi’n “frenhinwraig o bell ffordd”, a’i bod hi’n pendroni am amser hir a ddylai hi fynd i’r seremoni.

“Ond yn y diwedd, dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig i ni ddangos i bawb, hyd yn oed y rhai dydan ni ddim yn cytuno efo nhw, ein bod ni’n bodoli a bod ein diwylliant ni’n fyw, a’n bod ni’n hawlio’n lle mewn digwyddiadau diwylliannol,” meddai wrth golwg360.

“Dw i hefyd yn gobeithio ‘mod i’n parchu pawb yr un fath, ac unigolyn ydi Camilla, felly ro’n i’n hapus i gael sgwrs efo hi fel person sydd â diddordeb mawr mewn llenyddiaeth.”

Yn ogystal, cafodd Manon Steffan Ros ginio a sgwrs hirach yng nghwmni Brigitte Macron, sy’n ddarllenydd brwd.

“Roedd hi wedi darllen Llyfr Glas Nebo, ac roedd hi’n holi lot fawr amdano fo, ac wedi ei fwynhau!” meddai.

‘Y ffasiwn daith’

Mae’r nofel bellach wedi’i chyfieithu sawl gwaith, gan gynnwys i’r Bwyleg, Sbaeneg, a Chatalaneg.

“Do’n i ddim yn disgwyl i Llyfr Glas Nebo fynd â fi ar ffasiwn daith,” meddai wedyn.

“Un o’r rhesymau dros drio yn y Steddfod ydy ’mod i’n gallu cael barn ddiduedd arno fo.

“Do’n i ddim yn meddwl fod yna alw amdano yn yr un ffordd â Blasu neu Llanw,” meddai, wrth gyfeirio at ei nofelau llwyddiannus blaenorol.

Llynedd, enillodd y cyfieithiad Saesneg o Llyfr Glas Nebo Fedal Carnegie, sef un o’r gwobrau mwyaf mawreddog mae modd i nofel sydd wedi’i hanelu at gynulleidfa iau ei hennill.

Manon Steffan Ros oedd yn gyfrifol am y gwaith cyfieithu hefyd, wrth drosi’r nofel yn un Saesneg.

Cafodd y cyfieithiad hwnnw ei ddarlledu ar BBC Radio 4 yn ddiweddar.

“Mae cyfieithu yn sgil anhygoel,” meddai.

“Roedd hi’n braf iawn cael cwrdd â’r cyfieithydd Ffrangeg, Lise Garond, a’i gweld hi’n cael cydnabyddiaeth o’i gwaith [yn y seremoni wythnos diwethaf].”

Mae hi bellach wrthi’n cydweithio â chyfieithydd Corëeg ar hyn o bryd.

‘Llais unigryw i’r llwyfan byd-eang’

Mae Manon Steffan Ros yn awyddus i bwysleisio cymaint yn fwy sydd gan lenyddiaeth Gymraeg i’w chynnig i weddill y byd hefyd.

“Mae yna lawer o lyfrau eraill yn y Gymraeg ddylai gael eu haddasu i weddill y byd,” meddai.

“Rydan ni wedi’n bendithio efo llenyddiaeth wirioneddol arbennig, a dw i’n gobeithio gweld llyfrau gan awduron eraill yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol.”

Awgrym tebyg sydd gan Alexandra Büchler, cyfarwyddwr ‘Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau’ Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy’n meithrin cyfleoedd i awduron o Gymru fedru cysylltu â chynulleidfaoedd rhyngwladol.

Caiff llenyddiaeth o Gymru ei hyrwyddo dramor gan Gyfnewidfa Lên Cymru, silff lyfrau sy’n cynnig grantiau cyfieithu i destunau Cymraeg.

“Mae llenyddiaeth o Gymru yn cynnig llais unigryw i’r llwyfan byd-eang, gyda’i threftadaeth ieithyddol a diwylliannol gyfoethog yn cyfrannu at ecosystem lenyddol fwy amrywiol a chynhwysol,” meddai wrth golwg360.

Ond mae rôl arbennig gan Llyfr Glas Nebo i’w chwarae o hyd.

Yn ôl Alexandra Büchler, mae Llyfr Glas Nebo yn seiliedig ar “themâu cyffredinol fel teulu, gwytnwch a goroesi wedi taro tant, gan gadarnhau ei statws fel clasur modern”.

“Mae’r wobr hon yn tanlinellu talent aruthrol Manon Steffan Ros a gwaith arbennig y cyfieithydd,” meddai.

“Mae ei lwyddiant gartref a thramor yn brawf o’r hyder sydd ym maes cyhoeddi Cymraeg a’r awydd cynyddol am naratif sy’n ymgysylltu’n ddwfn â hunaniaeth Gymreig wrth fynd i’r afael â phryderon byd-eang.”

“Angerdd” nid “ffortiwn” sy’n bwysig, medd cyhoeddwr llyfrau

Rhys Owen

Mae cyhoeddwyr llyfrau yn poeni y gallen nhw fynd i’r wal ymhen blwyddyn neu ddwy heb gymorth ychwanegol

Y diwydiant cyhoeddi llyfrau ar y dibyn?

Rhys Owen

“Mae cyfanswm y gwerthiant wedi mynd lawr yn sylweddol iawn, felly mae’r cyhoeddwyr wedi cael eu gwasgu o dri chyfeiriad”
Llyfrau

Galw ar y Senedd i osgoi “trychineb” i’r diwydiant cyhoeddi

Mae Cyhoeddi Cymru wedi anfon llythyr at Aelodau’r Senedd

Beth sydd wedi arwain at y “sefyllfa argyfyngus” yn y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru?

Bethan Lloyd

Mae Cyhoeddi Cymru wedi anfon llythyr at Aelodau’r Senedd yn eu hannog i gefnogi eu cais i atal unrhyw doriadau pellach i’r gyllideb