Mae’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn wynebu “sefyllfa argyfyngus”, yn ôl y sefydliad Cyhoeddi Cymru, sy’n cynrychioli cyhoeddwyr Cymreig.
Mewn llythyr at Aelodau’r Senedd gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau (Hydref 24), mae Cyhoeddi Cymru yn eu hannog i gefnogi eu cais i atal unrhyw doriadau pellach i’r gyllideb y flwyddyn nesaf, ac i greu partneriaeth ystyrlon rhwng y Senedd, y Llywodraeth a’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Dyma ychydig o’r cefndir…
Pwy yw Cyhoeddi Cymru?
Cafodd Cyhoeddi Cymru ei sefydlu yn 2022 fel sefydliad masnach sy’n cynrychioli cyhoeddwyr Cymreig.
Mae’r diwydiant cyhoeddi yn cynnwys busnesau sy’n cynhyrchu llyfrau yng Nghymru, ar draws bob genre, ar gyfer darllenwyr Cymraeg a Saesneg.
Mae’n cynnwys busnesau bach a microfusnesau yn bennaf, a’r rheiny yn cyflogi staff llawn amser a rhan amser ledled Cymru.
Mae Cyhoeddi Cymru wrthi’n cwblhau arolwg o’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, ac yn dweud eu bod yn bwriadu ei gyhoeddi’n fuan.
Beth sydd wedi achosi’r argyfwng yn y diwydiant cyhoeddi?
Er bod rhai yn cyhoeddi yn y Gymraeg ac yn y Saesneg, ac eraill mewn un iaith yn unig, mae cyhoeddwyr Cymru bellach yn wynebu’r un dibyn ariannol ar ôl mwy na degawd, gyda chwyddiant a chostau wedi cynyddu’n gyflymach na chyllid, sydd wedi aros yn ei unfan.
Mae llythyr Cyhoeddi Cymru yn nodi bod y gostyngiad hwn wedi cyrraedd “man tyngedfennol” ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25.
Llywodraeth Cymru sydd yn darparu cyllid y grant drwy Gyngor Llyfrau Cymru.
Dyma’r toriadau cyllid ers 2013-14:
Grant cyhoeddi yn Gymraeg: o £1,846,50020 (2013-14) i £1,509,000 (2023-24)
Grant cyhoeddi yn Saesneg: o £748,500 (2013-14) i £620,700 (2023-24)
Yn ôl Cyhoeddi Cymru, mae gwerth y grantiau wedi gostwng 40% o ystyried effaith chwyddiant.
Dywed y sefydliad bod gwerthiant llyfrau mewn ysgolion a llyfrgelloedd “wedi dioddef yn ddifrifol” yn sgil “llymder y sector cyhoeddus a’r argyfwng costau byw”.
Beth yw goblygiadau hyn i’r diwydiant cyhoeddi?
Dywed Cyhoeddi Cymru fod llawer o gyhoeddwyr llyfrau Cymru eisoes yn penderfynu torri ar nifer eu staff a’r llyfrau sy’n cael eu cyhoeddi ganddyn nhw, oherwydd cynnydd mawr yng nghostau deunyddiau crai a’u gorbenion, a hynny mewn diwydiant “hynod o gystadleuol, lle mae’r elw’n isel”.
“Mae’n anochel y bydd mwy o swyddi’n cael eu colli, hyd yn oed petai’r cyllid yn aros fel y mae ar y lefelau newydd.
“Pe bai yna doriad pellach mewn cyllid, bydd cyhoeddwyr sydd eisoes yn gweithredu ar gyllid pitw yn wynebu bygythiad difrifol.”
Maen nhw’n dweud bod llawer o gyhoeddwyr yn ofni y bydd yn rhaid iddyn nhw roi’r gorau i fasnachu – rhywbeth fydd yn “drychineb personol” ac yn “gadael llawer o awduron, golygyddion a darlunwyr Cymreig heb unrhyw ddiwydiant”.
Dywed Cyhoeddi Cymru hefyd fod torri grantiau ar gyfer cyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg yn “mynd yn groes i’r graen” wrth ystyried ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2025.
“Mae angen cyllid digonol a pharhaus gan y Llywodraeth ar gyfer cyhoeddi yn y Gymraeg, felly, nid yn unig er mwyn ein helpu i addysgu a diddanu, ond hefyd er mwyn galluogi’r Gymraeg i oroesi a ffynnu,” medden nhw.
Pam maen nhw’n galw am gymorth Aelodau’r Senedd?
Er mwyn ceisio osgoi trychineb yn y diwydiant cyhoeddi, mae Cyhoeddi Cymru yn annog Aelodau’r Senedd i gefnogi eu cais i atal unrhyw doriadau pellach i’r gyllideb o 2025-26.
Maen nhw eisiau adfer grantiau cyhoeddi i’w lefelau yn 2010-11, gan gynnwys effaith chwyddiant, ac i greu partneriaeth ystyrlon rhwng y Senedd, y Llywodraeth a’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Mewn neges at Aelodau’r Senedd, dywed Cyhoeddi Cymru fod y “sefyllfa’n enbydus”.
“Mae tynged un o ddiwydiannau hynaf Cymru yn eich dwylo chi, a gofynnwn yn barchus i chi helpu i atal y chwalfa drychinebus hon drwy fuddsoddi yn un o’n gwir drysorau cenedlaethol,” medden nhw.