Mae Ysgol Gymraeg Bro Dur ym Mhort Talbot wedi derbyn rhodd o £1,000 gan yr adeiladwyr tai Persimmon Homes yng ngorllewin Cymru tuag at eu timau chwaraeon.

Mae’r ysgol 3-18 oed wedi’i rhannu’n ddau safle, gydag un safle i blant tair i ddeunaw oed yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, a’r llall i blant uwchradd unarddeg i 16 oed yn ardal Sandfields ym Mhort Talbot.

Mae’r arian wedi cael ei ddefnyddio i brynu cit pêl-droed a rygbi newydd ar gyfer Bro Dur, ar ôl i’r ysgol fod yn chwilio am noddwr ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Mae Persimmon Homes wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau lle maen nhw’n adeiladu tai, ac mae ganddyn nhw ddatblygiad tai ar y gweill, sef Awel Afan ym Mhort Talbot, lle gall pobol brynu tai tair neu bedair ystafell wely gwerth £254,995+.

‘Pencampwyr Cymunedol’

Prosiect ‘Pencampwyr Cymunedol’ Persimmon Homes sy’n talu am y cit chwaraeon, fydd yn dwyn logo’r cwmni.

Dywed y cwmni eu bod nhw wrth eu boddau o gael rhoi arian i’r ysgol.

“Yn Persimmon, rydyn ni wedi ymroi i feithrin perthnasau cryf â’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu,” meddai Sharon Bouhali, Cyfarwyddwr Gwerthiant y cwmni.

“Mae datblygiad Awel Afan eisoes yn dod yn gartref i deuluoedd ym Mhort Talbot, ac mae’r bartneriaeth hon yn gyfle hyfryd i roi rhywbeth yn ôl ac i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o athletwyr.”

‘Diolchgar iawn’

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Persimmon Homes yng ngorllewin Cymru am eu cyfraniad hael,” meddai Sioned Harries, Arweinydd Dysgu ac Addysgu Ysgol Gymraeg Bro Dur.

“Nid yn unig mae’r cit newydd yn gwella ymddangosiad ein timau, ond mae hefyd yn hwb i hyder a moral ein hathletwyr ifainc.

“Mae’r gefnogaeth hon yn chwarae rhan allweddol wrth ein helpu ni i barhau i feithrin doniau ac annog cariad at chwaraeon ymhlith ein myfyrwyr.”