Fe fydd cynllun sy’n cael ei alw’n “newid enfawr” i’r diwydiant bysiau yn cymryd peth amser i’w roi ar waith, yn ôl Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru.

Yn ôl Ken Skates, bydd y cynllun yn “newid yn sylfaenol y ffordd mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu darparu ar draws Cymru”, gyda phwyslais ar “roi pobol a chymunedau’n gyntaf”.

Bydd y model masnachfreinio newydd yn disodli’r hen drefn heb ei rheoleiddio, er mwyn i weithredwyr cyhoeddus, preifat neu drydydd sector allu gwneud cais am becynnau o wasanaethau lleol.

Bydd hefyd yn codi’r cyfyngiadau sydd ar hyn bryd ar gwmnïau bysiau cyhoeddus, gan eu gwneud yn gyfartal â gweithredwyr bysiau eraill.

Bydd hyn yn creu rhwydwaith mwy integredig o wasanaethau sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf, a lle bydd penderfyniadau am lwybrau, amserlenni a phrisiau’n cael eu gwneud ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a chynghorau lleol.

Cyflwyno Bil i’r Senedd

Dyma newid enfawr i’r diwydiant bysiau, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Oherwydd y cymhlethdodau fydd hyn yn ei olygu, medden nhw, bydd yn cymryd amser i’w roi ar waith drwy’r wlad.

Mae disgwyl i’r Bil gael ei gyflwyno i’r Senedd yn gynnar y flwyddyn nesaf, a bydd y model masnachfraint yn cael ei gyflwyno fesul rhanbarth, gan ddechrau gyda’r de-orllewin yn 2027, y gogledd yn 2028, y de yn 2029, a’r canolbarth yn 2030.

Yn y cyfamser, dywed Ken Skates fod y Llywodraeth yn parhau i gymryd camau i bontio’r bwlch i’r drefn fasnachfreinio a chefnogi gwasanaethau bysiau lleol hanfodol, drwy:

  • fuddsoddi £64m y flwyddyn ariannol hon a mwy na £250m ers dechrau’r pandemig
  • cyflwyno cerbydau mwy gwyrdd i leihau’r ôl troed carbon trafnidiaeth ar yr amgylchedd
  • gweithio gyda nifer o randdeiliaid i ddarparu gwasanaethau sy’n ymateb i’r galw mewn ardaloedd gwledig i helpu i gysylltu cymunedau. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth Fflecsi a gwasanaethau TrawsCymru yn y gorllewin a’r Sherpa yn y gogledd.

‘Achubiaeth’

“Mae cyflwyno bil bysiau, newid yn sylfaenol y ffordd mae gwasanaethau bysiau yn cael eu darparu yng Nghymru, yw un o fy mhrif flaenoriaethau,” meddai Ken Skates.

“Rydyn ni’n gwybod fod bysiau’n achubiaeth i lawer o bobol i fynd i’r gwaith, i ymweld â ffrindiau a theulu ac i ddefnyddio gwasanaethau.

“Bydd y model masnachfreinio newydd yn ein helpu i wneud defnydd gwell o’r cyllid sylweddol mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i’r diwydiant bysiau, a bydd yn ein galluogi i ddylunio rhwydwaith sy’n gweithio i bobol a chymunedau, gan leihau tlodi trafnidiaeth i greu Cymru decach a mwy cyfartal.”