Mae Richard Tunnicliffe, cyd-berchennog cwmni cyhoeddi llyfrau RILY, yn dweud eu bod nhw fel cwmni’n “ceisio gwneud i’r busnes weithio’n fasnachol gymaint ag sy’n bosibl”.

Wrth siarad â golwg360, mae’n mynegi ei bryderon am ddyfodol y diwydiant cyhoeddi

Dywed fod fo, fel nifer o gwmnïau cyhoeddi eraill, yn “brosiect angerdd” yn hytrach na busnes arferol.

“Rydym yn ceisio neud y busnes weithio yn fasnachol gymaint ag sy’n bosibl,” meddai Richard Tunnicliffe.

“Rydym yn gwneud hyn o safbwynt angerdd, ddim i wneud ffortiwn.”

45% llai mewn cymorth ariannol

Wrth siarad â chylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae Richard Tunnicliffe, a Chyngor Llyfrau Cymru, wedi lleisio’u pryderon am ddyfodol y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Mae golwg360 yn deall bod rhai cwmnïau cyhoeddi’n wynebu mynd i’r wal dros y flwyddyn neu ddwy nesaf pe na bai eu sefyllfa ariannol yn newid a’u bod nhw’n cael mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar sail grantiau ac i helpu i werthu stoc sydd yno’n barod.

Mae’r cymorth gan Lywodraeth Cymru i’r diwydiant cyhoeddi, sydd yn cael ei ariannu drwy’r Cyngor Llyfrau, wedi gostwng ryw 45% mewn termau real wrth ystyried chwyddiant ers 2010.

Yn ôl Richard Tunnicliffe, doedd nifer o fewn diwydiant ddim wedi bod yn siarad â’i gilydd am ddifrifoldeb y sefyllfa, ond mae hynny’n “newid rŵan”, meddai.

“Dydyn ni ddim wedi siarad yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru eto – ond mi fydden ni yn licio gwneud hynny,” meddai.

“Rydym eisiau eu gweld nhw’n buddsoddi nawr i helpu efo’r problemau sydd yn bodoli o fewn y diwydiant.”

Diffyg cyllid gan ysgolion i brynu llyfrau

Yn ôl yr adroddiad Caru Darllen gan Gyngor Llyfrau Cymru, mae 45% o ysgolion yng Nghymru yn gwario llai na £500 y flwyddyn ar lyfrau newydd.

Yn ôl Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau, mae’r sefyllfa’n “ddifrifol” ond mae’n dweud bod yna enghreifftiau o lwyddiant hefyd.

“Flwyddyn ddiwethaf, cawson ni arian uniongyrchol gan yr Adran Addysg i ddarparu llyfrau i ysgolion, ac fe wnaeth hynny wahaniaeth anferthol i bawb,” meddai.

“Roeddan ni’n sianelu’r gwerthiant yna drwy siopau, felly roedd y siopau yn elwa ac roedd y cyhoeddwyr yn elwa.”

Ychwanega fod y strwythur yn sicrhau bod ysgolion “yn elwa” drwy dderbyn gwerth £2m o lyfrau.

“Felly, mae yna bethau sydd yn eithriadol o effeithiol mae rhywbeth fel yr Adran Addysg yn medru ei wneud, ac maen nhw’n ei wneud yn achlysurol ond ddim yn rheolaidd.”

Bydd rhagor o fanylion am ariannu’r diwydiant cyhoeddi yn y Gyllideb ddrafft fydd yn cael ei chyhoeddi yn y Senedd ddydd Mawrth (Rhagfyr 10).

Y diwydiant cyhoeddi llyfrau ar y dibyn?

Rhys Owen

“Mae cyfanswm y gwerthiant wedi mynd lawr yn sylweddol iawn, felly mae’r cyhoeddwyr wedi cael eu gwasgu o dri chyfeiriad”
Llyfrau

Galw ar y Senedd i osgoi “trychineb” i’r diwydiant cyhoeddi

Mae Cyhoeddi Cymru wedi anfon llythyr at Aelodau’r Senedd

Beth sydd wedi arwain at y “sefyllfa argyfyngus” yn y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru?

Bethan Lloyd

Mae Cyhoeddi Cymru wedi anfon llythyr at Aelodau’r Senedd yn eu hannog i gefnogi eu cais i atal unrhyw doriadau pellach i’r gyllideb