Yn ôl adroddiadau, mae’r digrifwr Gareth Hunt wedi cael gwybod fod gig i’w gymeriad comedi ‘Welsh Jesus’ mewn clwb cymdeithasol ym Merthyr Tudful wedi cael ei ganslo yn sgil gwrthwynebiad am resymau crefyddol. Eglwys leol sy’n berchen ar yr adeilad. 

Ond pa mor bell mae modd gwthio’r ffiniau pan ddaw at gomedi a chrefydd? Y Parchedig Owain Llŷr Evans, colofnydd golwg360, sy’n trafod y ffrae…


Thou hast conquered, O! Pale Galilean:

The world has grown grey from they breath.

(‘Hymn to Proserpine’, 1866. Algernon Charles Swinburne (1837-1909)

I lawer iawn o bobol, mae dadansoddiad Swinburne o natur crefydd yn gwbl gywir; ac mae’r ffrae a’r ffraeo ddaeth yn sgil yr act comedi Welsh Jesus – creadigaeth Gareth Hunt – yn cadarnhau’r dadansoddiad mai peth bychan all crefydd fod: cyfyng, crebachlyd a lleddf.

Ar lefel arwynebol, rhyw fath o medieval whodunnit yw The Name of the Rose (Minerva, 1996) gan Umberto Eco (1932-2016). Caiff y stori ei lleoli mewn hen fynachlog Benedictaidd, yn yr Eidal, 1327. Un wrth un, mae hanner dwsin o’r mynachod yn cael eu lladd. Caiff y Brawd William, aelod o Urdd San Ffransis, ei anfon i’r abaty i ddarganfod pwy sydd yn gyfrifol am y lladd. Wrth i’r stori ddatblygu, fe ddown i ddeall mai echel y cyfan yw llyfr, ac yn raddol bach sylweddolwn mai’r llofrudd yw’r llyfrgellydd dall. Mae hwn yn barod i ladd er mwyn sicrhau na fydd yr un o’i frodyr yn darllen y llyfr hwn. Beth oedd cynnwys y llyfr? Hiwmor, dychan. Credodd yr hen ŵr y buasai awdurdod yr eglwys yn darfod pe bai pobol yn cael chwerthin.

Crefydd ddiflas, afiach ei hysbryd a’i chredoau yw’r grefydd sydd yn ofni dychan a chwerthin. Crefydd ddof a phetrusgar yw’r grefydd honno na all oddef ychydig o chwerthin o’i herwydd – mymryn o hwyl ar ei phen.

Mae chwerthin yn gyfrwng iachawdwriaeth – iechydwriaeth, yn wir – ac nid gorddweud mo hynny. Mae chwerthin yn cynnig rhyddid rhag y gwaethaf o bob gormes i grefyddwyr: gormes cymryd ein hunain gormod o ddifrif. Gellid ymateb i hyn gan ddweud nad cymryd ein hunain gormod o ddifrif mohonom, ond cymryd Iesu o ddifrif a bod rhaid ei amddiffyn rhag pob dirmyg a gwatwar. Am wn i, nid oes angen amddiffyn ar Waredwr byd! Nid oes angen Owain Llŷr ar Iesu – yr Alffa ac Omega – i’w amddiffyn rhag hiwmor a dychan.

Ydi, mae chwerthin yn gyfrwng iachawdwriaeth – wrth chwerthin, mae’r Fi-fawr ynom ac yn ein crefydd a chrefydda’n gorfod ildio i’r Fi-go-iawn – y Fi-plentyn/plant-i-Dduw.

Wrth ystyried y ffrae a’r ffraeo sydd ynglŷn â Welsh Jesus, gallaf ond feddwl am y disgrifiad hwn o Desmond Tutu (1931-2021); awgrymaf fod y geiriau’n amlygu sut sydd orau i ymateb:

He takes God very seriously indeed, which saves him from having to take himself very seriously at all.