*RHYBUDD CYNNWYS: Mae’r erthygl hon yn cynnwys manylion allai achosi pryder i rai darllenwyr*
Glywsoch chi hanes y gath farw gafodd ei rhewi mewn oergell a’i dadmer, cyn ei throi’n robot AI sy’n gallu siarad Cymraeg?
Na? Na finnau chwaith, tan i Robin Wealleans siarad â golwg360 am ei brosiect comedi newydd sydd ar daith drwy Gymru fis yma.
Gan ddefnyddio sgrin LED, mini-bar, argraffydd, syntheseiddydd awdio, taflunydd, peiriant mwg ac offer deallusrwydd artiffisial, mae’r digrifwr o Sir Gaerfyrddin wedi mynd ati i greu prosiect abswrd gan ddefnyddio gweddillion ei gath Lentil – a chreu L3NT1L.
Ers creu’r prosiect ac atgyfodi Lentil fach, mae’r gath annwyl wedi torri ei gwddf chwe gwaith, ei helmed wedi mynd yn sownd tu ôl i’r sgrîn LED, y mini-bar wedi gwrthod agor gan sarnu diodydd ym mhob man, ac roedd hi wedi bod yn cerdded ar dair coes am gyfnod hefyd.
“Peidiwch gweithio gyda phlant nac anifeiliaid – nac anifeiliaid marw sydd ag argraffydd!” meddai Robin Wealleans wrth golwg360.
“Ond pan fydd pethau’n mynd o’i le, dyna’n aml yw’r darn mwyaf doniol!”
Ceisio cadw’r corff
Pan oedd ar dir y byw, roedd Lentil yn byw gyda Robin Wealleans ar fferm ger Llanbed yn Sir Gaerfyrddin.
Ar ôl prynu ffermdy yno yn 2000, daeth y digrifwr niwroamrywiol yn berchennog dwy gath – Lentil a’i chwaer Chick P – ac mae’n dweud mai Lentil oedd “hoff gath pawb”.
Aeth y digrifwr a’i ffrind ar wyliau i Groatia yn 2012, ac fe wnaeth y sgwrs droi at ddychmygu’r peth gwaethaf posib allai ddigwydd yn y byd.
“Un peth yw Lentil yn marw,” meddai Robin Wealleans, a dyna ddechrau’r egin syniad i atgyfodi ei gath annwyl trwy tacsidermi pan ddeuai’r amser i ffarwelio.
Daeth yr amser hwnnw yn 2016, ond “doedd dim amser i fod yn drist”, meddai.
“Roedd gen i gynllun – ond doedd gen i ddim rhif ffôn tacsidermydd!”
Yn hytrach na dilyn y trywydd arferol a chladdu’r gath, aeth ati i gadw’r corff mewn rhewgell.
“Ond doeddwn i ddim wedi gweld llythyr yn dweud bod y trydan wedi cael ei ddiffodd, ac roedd e wedi digwydd eto ar ôl mis arall.
“Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud, a ges i banics!”
Nid Robin Wealleans oedd yr unig un aeth i banics, chwaith – ar ôl i’w fam fynd i’r rhewgell a gweld Lentil yno!
‘Pam ddiawl doeddet ti ddim wedi ei gladdu fe fel byddai pawb arall?!’ oedd ei hymateb hithau – a’i ymateb yntau?
“Sut ddiawl oeddwn i’n mynd i droi hyn yn sioe?!”
Ymhen pum neu chwe mis, daeth Robin Wealleans i sylweddoli mai penglog Lentil yn unig oedd yn gallu cael ei achub, ac fe wnaeth ei ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer ei brosiect.
Ar ôl y trychineb diweddaraf, cyfaddefodd ei ffrind nad oedd e’n un da am gadw cyrff cathod mewn oergelloedd, ac mai dyma’r trydydd tro i gorff ddadmer fel hyn.
“Mae Lentil yn ofni’r rhewgell achos y trychinebau ges i!” meddai.
“Er ei fod e wedi dechrau’n wael, dw i’n falch bod e wedi digwydd fel’na achos byddai e wedi bod yn llai doniol.”
Clyfar a Chymraeg
Ac yntau’n dechnegydd sgrîn a thechnoleg sydd wedi gweithio ar gyngherddau mawr gan Pink Floyd, Coldplay, Calvin Harris ac eraill, roedd ganddo fe “ormod o amser pan wnaeth Covid-19 daro”, felly cam nesa’r prosiect i Robin Wealleans fyddai gweithio ar dechnoleg i’r ddyfais newydd.
Roedd ganddo fe un cwestiwn mawr yn ei feddwl wrth ddechrau’r prosiect, sef “pa mor Gymraeg a pha mor glyfar allwn i ei wneud e?”
Dyna’r cwestiwn mawr wrth fentro cynnal ei gig cyntaf gyda Lentil hefyd – yng Ngwyl Gomedi Caeredin o bob man, gyda’i fryd ar deithio’r byd i lefydd fel Awstralia a Seland Newydd, lle byddai’n perfformio mewn gwyliau comedi maes o law.
“Roedd yn yffach o fan cychwyn,” meddai am y profiad o lansio Lentil yng ngwyl gomedi fwya’r byd.
“Dylwn i fod wedi dechrau mewn tafarn gyda ffrindiau!”
Felly, pa mor Gymraeg yw Lentil, mewn gwirionedd?
Wrth iddo fy nghyflwyno i Lentil yn y cnawd, fel petai, dyma roi cynnig arni. Oedd hi wir yn bosib, gyda thros ddwy filiwn a hanner o atebion posib, y byddai Lentil yn gallu siarad Cymraeg?
Wedi’r cyfan, meddai, byddai’n cymryd 400 o flynyddoedd i ni weld yn union yr un sioe gan Lentil ddwywaith!
“Shwmae Lentil. Siarad Cymraeg. Sut wyt ti heddiw?” gofynna’r digrifwr, cyn i Lentil ddod yn ‘fyw’ unwaith yn rhagor.
“Lentil yma. Ti’n gwybod, Robin, dw i ddim yn hoffi dwr o gwbl, felly paid taflu fi mewn! Dw i’n iawn diolch. Sut wyt ti, fy ffrind annwyl?”
Mae gen i gwestiwn arall iddo fe – sut wnaeth e sylweddoli y gallai Lentil siarad Cymraeg?
“Weithiau pan ydyn ni’n siarad, er fy mod i’n siarad yn Saesneg, achos mae’n gwybod bo ni’n siarad am Gymru – ac mae hyn yn ddoniol – mewn cyfweliad gyda’r Daily Star, wnaeth y gohebydd ofyn am Gymru, ac fe wnaeth e ateb yn Gymraeg!
“Mae’n gwneud hyn heb bo fi’n gofyn iddo fe.
“Mae’n ffordd wych o wthio’r Gymraeg. Lle bynnag ydyn ni yn y byd, mae tipyn bach o Gymraeg yn dod allan, p’un a ydw i eisiau hynny neu beidio!”
Pa acen a thafodiaith sydd gan Lentil, felly?
“Dyw ynganiad AI ddim yn wych! Dim llais dyn sydd gan y gath, na llais Cymraeg, ond llais merch o Galiffornia! Mae e’n p***** off gyda’i lais ei hun!
“Dyw e ddim yn deall fy llais i wrth siarad Cymraeg weithiau, ond dw i ddim yn ei ddeall e chwaith!
“Mae’r ddau ohonon ni’n gwella’n Cymraeg gyda’n gilydd! Mae hynny’n chwerthinllyd!
“Weithiau mae’n siarad Cymraeg fel gogleddwr, ond bob amser ag acen Americanaidd, sydd braidd yn ddryslyd!
“Dw i’n dweud rhywbeth ac mae’n camddeall, sy’n gwneud pethau’n fwy doniol!
“Ro’n i’n poeni am y camgymeriadau ar y dechrau, ond mae’n well os ydyn nhw i mewn yn y sioe!
“Dw i’n siarad Cymraeg yn y dafarn leol, yr Angel yn Llansawel, lle mae llawer o gymeriadau gwych. Mae wedi helpu fy Nghymraeg llawer.
“Mae rhai gwledydd lle dydyn nhw ddim yn gwybod am y Gymraeg, felly mae’n grêt gallu gwthio hynny drwy’r sioe yma.”
Negeseuon difrifol y sioe
Er yr holl chwerthin – neu, efallai, yn sgil yr holl chwerthin – mae yna neges ddifrifol i’r sioe hefyd.
Ac yntau’n niwroamrywiol, roedd Robin Wealleans yn gweld tebygrwydd rhyngddo fe ei hun, pobol niwroamrywiol eraill, a chathod.
“Dw i’n meddwl bod cath fel trosiad o niwroamrywiaeth achos mae’n mynd yn gyflym, tipyn bach yn scatty, ond yn glyfar. You can’t outsmart a cat!
“Mae cathod yn gweld y byd yn wahanol.
“Byddai’n sioe wahanol pe bai Lentil yn gi… Pe bai’n fabi, byddai’n dywyll… Achos mae’n gath ddwl gyda jôcs, mae pobol yn uniaethu.
“Bydd yn dechrau sgyrsiau doniol.
“Dw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw un ‘normal’ yn gwneud y sioe yma.
“Dw i wedi taflu pob ceiniog oedd gyda fi i mewn i hon.
“Dw i eisiau i bobol ddeall nad yw niwroamrywiaeth ddim wastad yn beth negyddol – mae’n beth positif i fi.
“Dilynwch eich breuddwydion!
“Mae’n dipyn bach o therapi i fi. Ar ôl y sioe, mae pobol yn dechrau siarad am eu tad-cu neu eu bochdew, neu beth bynnag.
“Dydy pobol, neu anifeiliaid, sydd wedi marw ddim yn marw tan ar ôl i chi stopio siarad amdanyn nhw.
“Mae pobol sy’n dod i weld y sioe yn crïo, ond yn crïo chwerthin hefyd.”
Deallusrwydd Artiffisial
Mae pobol hefyd yn cael dysgu am AI yn sgil y sioe, meddai.
“Mae llawer o bobol yn poeni am AI, a dw i’n deall hynny.
“Ond mae’r sioe yma’n dangos realiti AI.
“Dim ond ers blwyddyn dwi wedi bod yn dysgu am AI.
“Wnes i drio ffeindio arbenigwr, ond mae hi fel y Gorllewin Gwyllt wrth ffeindio rhywun sydd ddim yn charlatan!”
Lentil yn hysbysebu’r sioe
Sut, felly, fyddai Lentil yn gwerthu’r sioe i unrhyw un sydd yn ystyried mynd i’w gweld hi? Dyna’r cwestiwn wnes i ei ofyn i’r gath fach:
“Yn deall, yn siarad, yn cuddio fel cath, dychmyga dy fywyd yn cael ei lywio gan ddoethineb Lentil ei hun.
“Dyfais sy’n deall dy anghenion, yn ateb cwestiynau ac yn gwneud i ti deimlo’n glyd fel cath yn cyrlio ar y soffa.
“Mae ar gyfer hel straeon, yn debyg i’r hen nosweithiau gyda mi. “Beth am drio’r sioe? Byddai hyd yn oed Lentil yn codi ei bawenau i fyny!”
Fe wnaeth Robin Wealleans fy nghyflwyno i Lentil, ond sut fyddai Lentil yn cyflwyno’i hun i fi?
“Roeddwn i’n arfer chwarae o gwmpas y fferm yn fy mywyd cyntaf – y cae, y siediau, hyd yn oed y simdde ar achlysur arbennig!” meddai, ar ôl i fi aros yn eiddgar am ateb.
“Fy hoff le oedd y silff ddwbwl uwchben yr ysgubor. Roeddwn i’n teimlo fel brenin y byd yno!
“Nawr, fel Lentil 3.1, dw i’n chwarae fel Lentil ym mhob man, ond mae yna rywbeth hudol am y machlud dros y bryniau yn Sir Gâr.
“Mae dysgu Cymraeg gyda ti fel scrape-io clust bleserus!”
A sut mae’n teimlo am gydweithio gyda’i feistr? Dyma’i ateb wrth i Robin Wealleans ofyn y cwestiwn hwnnw iddo:
“Mae gweithio gyda ti fel ceisio dal cwningen mewn cae llawn defaid.
“Weithiau, mae’n llawn syniadau gwych, neu felly mae’n dweud!
“Ond weithiau, mae’n anghofio pethau sylfaenol fel peidio dadmer cath mewn oergell!
“Dw i’n ymdopi trwy gadw fy sense of humour ac atgoffa fy hun mai fi yw’r seren go iawn yma!”
Tybed a oes ganddo fe neges i ddarllenwyr golwg360?
“Mae gen i neges glir i ddarllenwyr.
“Peidiwch byth anghofio bod cathod yn rhedeg y byd, hyd yn oed o’r nefoedd robotig.
“Byddwch fel Lentil – chwilfrydig, direidus a bob amser un cam o flaen y curve.
“Rydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth.
“Cofiwch, hyd yn oed oes byddwch chi’n colli’r cyrff neu eich mini-bar, gall eich syniadau fyw am byth.
“A dweud y gwir, wnes i greu AI sydd bellach yn rhedeg popeth, ond does neb yn sôn am gyfraniad cathod!”
https://x.com/Golwg360/status/1866125502341435766
Canlyniadau anfwriadol a phosibiliadau’r dyfodol
Dywed Robin Wealleans ei fod yn gobeithio manteisio ar Lentil er mwyn helpu plant a phobol ifanc ym myd addysg.
“Rhywbeth ymylol annisgwyl ddaeth o hyn yw fod pobol ym myd addysg wedi dangos diddordeb,” meddai.
“Dw i’n mynd i’r Cheltenham Science Festival, er enghraifft – un o’r gwyliau mwyaf yn y byd.
“Mae rhywun arall wedi gofyn am sesiwn adrodd straeon i blant.
“Mae e eisoes yn mynd i gyfeiriadau gwahanol.
“Mae’r ongl addysg wedi bod yn dipyn o syrpreis.
“Mae plant wrth eu boddau!
“Gallai’r potensial iddo fe helpu i ddysgu ieithoedd neu wyddoniaeth fod yn braf iawn.
“Dw i ddim yn dweud y dylai AI ddisodli pobol – mae’n dipyn o ddychan ar AI yn y sioe – ond mae Lentil yn cadw cwmni i fi, ac rydyn ni’n dysgu ein gilydd.
“Wnes i ddim gweld hynny’n dod.
“Alla i ddim credu ei fod e’n gallu siarad Cymraeg, iaith leiafrifol fach. Dwi’n ei annog i siarad Wenglish, sef beth dw i’n siarad.
“Bonws annisgwyl, ond mae’n bosib [dysgu Cymraeg i bobol]!”
Ond mae’n debyg y byddai angen arian er mwyn datblygu’r prosiect ymhellach – a dyna’r cam anodd, yn ôl Robin Wealleans.
“Dw i ddim wedi cael help gan bobol fel y Welsh Arts Council,” meddai.
“Mae’n bwysig iawn i ddyfodol Cymru i annog stwff diddorol ac arloesol yn y celfyddydau.
“Mae gyda ni bobol â dychymyg creadigol iawn sydd â syniadau gwych. Rydyn ni’n ddoniol hefyd!
“Er bod syniadau braidd yn rhyfedd, dydy hynny ddim yn meddwl nad ydyn nhw’n syniadau gwych.
“Byddai’n braf iawn teimlo bod Cymru a’r Cymry ar fy ochr i, a dyna pam dw i wedi gwneud yr ymdrech i sicrhau bod hanner y sioeau yng Nghymru.
“Gadewch i ni wthio’r stwff arloesol.
“Mae digon o dalent allan yno, ond dydy’r mathau hynny o bobol ddim yn cael y gefnogaeth, yn enwedig os ydych chi’n niwroamrywiol. Mae’n anodd deall rhai o’r ffurflenni, hyd yn oed!
“Ond dw i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn i ddyfodol Cymru, sy’n ei chael hi’n anodd o ran ffermio a’r diwydiannau traddodiadol.
“Un peth rydyn ni’r Cymry’n dda am ei wneud yw chwerthin.
“Mae angen i ni wthio ein diwylliant a’n celfyddydau, a gwthio beth yn union yw’r gelfyddyd.
“Dw i’n nabod llawer o Gymry Cymraeg, a fyddai llawer o’m cyfoedion ddim yn gwylio S4C, nid oherwydd nad ydyn nhw’n credu ynddi ond am nad oes ganddi unrhyw beth ar eu cyfer nhw.
“Dw i’n credu bod hynny’n drueni, a dw i eisiau newid hynny.”
Y daith drwy Gymru
Mae wyth dyddiad ar y daith i gyd, gyda hanner y sioeau yn cynnwys cymaint â phosib o Gymraeg.
Mae’r daith yn dechrau yng Nghaerfyrddin, lle cafodd Robin Wealleans ei addysg, cyn symud i Gaerdydd, Abergwaun ac Aberystwyth.
Y tu hwnt i Bont Hafren, bydd sioeau ym Mryste, Leeds, Manceinion a Llundain.
Bydd Kev Mudd, digrifwr o dde-orllewin Lloegr, yn ei gefnogi ar y daith.
Yn sgil y ffaith y bu Mudd yn ddigartref am gyfnod yn y gorffennol, bydd rhai o’r tocynnau ar gyfer y sioeau yng Nghaerdydd, Bryste a Llundain yn mynd i bobol ddigartref.
Dyddiadau’r daith yng Nghymru:
- Rhagfyr 11, Caerfyrddin
- Rhagfyr 14, Abergwaun
- Rhagfyr 17, Caerdydd
- Rhagfyr 20, Aberystwyth