Mae aelod o blaid unoliaethwyr y DUP sy’n Weinidog Addysg Gogledd Iwerddon wedi’i ganmol i’r cymylau am roi cynnig ar ei sgiliau Gwyddeleg mewn canolfan ieuenctid yng ngorllewin Béal Feirste yr wythnos hon. Cafodd Paul Givan MLA (Aelod o’r Cynulliad Deddfwriaethol) hwyl ar archebu paned o goffi yn Gaelige, mewn ymweliad a ddisgrifiwyd fel “carreg filltir hanesyddol” gan ymgyrchwyr iaith yn y Belfast Telegraph. Aeth draw i ganolfan Glór na Móna i ganfod barn pobl ifanc ac arweinwyr cymunedol i’w bolisi newydd sydd wedi clustnodi £36m i’r sector ieuenctid. Ac mewn cyfweliad gyda BBC NI wedyn, dywedodd na ddylai pobl ofni hunaniaeth nac ieithoedd eraill, boed yn siarad Saesneg, Gwyddeleg, Sgoteg Wlster neu unrhyw un o ieithoedd niferus arall yn y dalaith. “Mae fy Ngogledd Iwerddon i’n ddigon mawr i groesawu pawb”, meddai. Hyn ychydig fisoedd wedi iddo bechu mudiad iaith arall am wrthod cyfarfod â nhw ym mis Medi cyn cwrdd ag aelodau o grŵp â chysylltiadau parafilwrol i drafod pryderon am godi ysgol cyfrwng Wyddeleg yn nwyrain Belffast. Stori wahanol iawn i ran orllewinol y ddinas, sy’n gartref i chwe ysgol gynradd Gaelige ac un uwchradd Coláirste Feirste, un o’r ysgolion uwchradd sy’n tyfu gyflymaf yng Ngogledd yr ynys.
Tra mae’r diwydiant llyfrau Cymraeg ar ei gliniau, mae’n ymddangos bod pethau’n dipyn mwy llewyrchus i awduron a chyhoeddwyr Gwlad y Basg. Dywed Etxepare Euskal Instituta fod mwy o sylw nag erioed o’r blaen i lenyddiaeth Fasgeg yn ffair lyfrau bwysicaf America Ladin yn Guadalajara, Mecsico yr wythnos hon. Un o’r awduron sydd wedi elwa ar y daith fasnachol yw Arantxa Urretabizkaia, yr oedd ei sgyrsiau wedi gwerthu allan cyn gyflymed â’r fersiynau Sbaeneg o’i nofelau euskara gwreiddiol. Meddai: “Am 400 mlynedd, ni chyfieithwyd ein llyfrau. Rydyn ni wedi profi pethau nad oedd gennym o’r blaen – cyfieithiadau a chyfranogiad gweithredol ar draws y cenedlaethau. Mewn ffordd fach, rydyn ni’n debyg i’r holl lenyddiaeth o’n cwmpas.”
Ac mae rhagor o newyddion da i un o ieithoedd eraill Sbaen ddatganoledig. Cyhoeddodd Agència Catalana de Notícies mai eleni oedd y flwyddyn orau erioed ers dau ddegawd o safbwynt gwerthiant tocynnau ffilmiau Catalaneg – gyda bron i filiwn o docynnau sinema wedi’u gwerthu am ffilmiau gwreiddiol a rhai wedi’u trosleisio neu eu hisdeitlo i’r iaith. Un o’r cynyrchiadau mwyaf llwyddiannus oedd ‘El 47’ yn seiliedig ar ddigwyddiad go iawn ym 1978, pan wnaeth gyrrwr lleol o’r enw Manolo Vital herwgipio bws rhif 47 er mwyn cynnig cludiant i un o gymdogaethau dosbarth gweithiol mwyaf angof Barcelona, ar ôl i’r awdurdodau lleol wrthod gwasanaethu’r ardal. Stori boblogaidd am fudiad llawr gwlad wnaeth sbarduno newid ehangach a helpu i greu’r Barcelona fodern yn y pen draw. A stori sydd wedi taro tant gweddill Sbaen, gan wneud €2.9 miliwn o elw hyd yma.
Draw yn yr Alban, mae’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yn brolio £800,000 o fuddsoddiad dros ddwy flynedd mewn cynhyrchiad Gaeleg digidol-yn-gyntaf. Nod y prosiect ar y cyd rhwng BBC Alba a BBC Scotland ydi creu cynnwys sy’n adlewyrchu doniau a diwylliant Ucheldiroedd ac Ynysoedd y wlad. Ac mae taer angen drama gyfoes newydd yn yr iaith, gan fod BBC Alba yn dal i ddarlledu penodau o’r sioe sebon bymtheg mlwydd oed Machair yr wythnos hon rhwng y myrdd o gartwnau plant, cyfresi gwerin a bwletinau nosweithiol An Là.
Does dim cymaint o ewyllys da i iaith frodorol Corsica, yn ôl adroddiad France24 am ddyfarniad llys ym Marseille wythnos diwethaf. Penderfynodd y barnwyr wahardd y defnydd o’r iaith Gorseg yng nghynulliad Assemblea di Corsica, gan fynnu taw “Ffrangeg yw iaith y wladwriaeth” yn adlais o gyfansoddiad Ffrainc ym 1958. Mae’n ergyd pellach i nod mudiad annibyniaeth Corsica dros fwy o rym ieithyddol, mewn ynys lle tua 150,000 o boblogaeth o 360,000 yn dweud eu bod nhw’n medru’r iaith. Mewn ymateb, dywedodd Gilles Simeoni, llywydd y Cynulliad fod penderfyniad y llys “yn groes i gyfraith Ewropeaidd a rhyngwladol sy’n gwarchod hawliau ieithyddol sylfaenol”. Mae’n rhan o bolisi cyson Arlywydd Macron a’i wladwriaeth o wrthod cydnabyddiaeth swyddogol i ieithoedd rhanbarthol eraill megis Llydaweg ac Alsáseg hefyd, rhag peryglu undod Ffrainc.
Mae’r mudiad iaith Culture Vannin yn prysur hybu hen draddodiadau Ynys Manaw y Dolig hwn. Bydd criw ‘Ny Guillyn Baney’ (y Bois Gwyn) yn perfformio’r ddrama mudchwarae mewn sawl tref a phentref yn arwain at y Nadolig, lle mae marchogion mewn lifrai gwynion yn ymladd a lladd ei gilydd cyn cael eu hatgyfodi gan feddyg mewn sbloets o ddawns a chân gyda chleddyfau. Ac ar ŵyl San Steffan, bydd ‘Helg yn Dreean’ yn ymweld â chartrefi’r ynys gan ganu a dawnsio o amgylch polyn deiliog â model o ddryw bach. Traddodiad nid yn annhebyg i ‘Hela’r Dryw’ ni ar nos Ystwyll ers talwm, lle byddai pobl yn dal y dryw bach, ei gadw mewn caets a elwid yn ‘elor’ a’i gludo’n fyw neu’n farw mewn gorymdaith drwy’r gymdogaeth gan foli’r dryw fel Brenin yr Adar.
Diolch i’r drefn am ddeddfau gwarchod adar heddiw…