Mewn llythyr at Aelodau’r Senedd sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Hydref 24), mae Cyhoeddi Cymru yn rhybuddio am y “sefyllfa argyfyngus” sy’n wynebu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Cafodd Cyhoeddi Cymru ei sefydlu yn 2022 fel sefydliad masnach sy’n cynrychioli cyhoeddwyr Cymreig.

Mae’r diwydiant cyhoeddi yn cynnwys busnesau sy’n cynhyrchu llyfrau yng Nghymru, ar draws bob genre, ar gyfer darllenwyr Cymraeg ac Saesneg.

Mae’n cynnwys busnesau bach a micro-fusnesau yn bennaf, a’r rheiny yn cyflogi staff llawn amser a rhan amser ledled Cymru.

Grantiau wedi gostwng hyd at 40%

Er bod rhai yn cyhoeddi yn y Gymraeg ac yn y Saesneg, ac eraill mewn un iaith yn unig, mae cyhoeddwyr Cymru bellach yn wynebu’r un dibyn ariannol ar ôl mwy na degawd, gyda chwyddiant a chostau wedi cynyddu’n gyflymach na chyllid, sydd wedi aros yn ei unfan.

Mae’r llythyr yn nodi bod y gostyngiad hwn wedi cyrraedd “man tyngedfennol” ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25.

Llywodraeth Cymru sydd yn darparu cyllid y grant drwy Gyngor Llyfrau Cymru.

Mae’r toriadau cyllid ers 2013-14 fel a ganlyn:

Grant cyhoeddi yn Gymraeg: o £1,846,50020 (2013-14) i £1,509,000 (2023-24)

Grant cyhoeddi yn Saesneg: o £748,500 (2013-14) i £620,700 (2023-24)

Mae’r llythyr yn nodi bod gwerth y grantiau wedi gostwng 40% o ystyried effaith chwyddiant.

Dioddefaint “difrifol”

“Yn gyfnewid am gymorth grant, mae’r byd cyhoeddi yng Nghymru yn creu teitlau o’r safon uchaf sydd wedi’u gwreiddio yn niwylliant Cymru ac sy’n cael eu cydnabod ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig a gweddill y byd,” meddai llefarydd ar ran Cyhoeddi Cymru.

Yn ôl Cyhoeddwyr Cymru, maen nhw hefyd yn chwarae rhan “allweddol” wrth sicrhau bod llyfrau o Gymru ac ymweliadau gan awduron ar gael mewn ysgolion.

Ond yn sgil “llymder y sector cyhoeddus a’r argyfwng costau byw”, mae gwerthiant llyfrau mewn ysgolion a llyfrgelloedd “wedi dioddef yn ddifrifol”, medden nhw.

Mae Cyhoeddi Cymru yn cydnabod arwyddocâd ‘Adnodd’, gafodd ei sefydlu yn 2022 i gomisiynu adnoddau addysgol dwyieithog i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, ac yn pwysleisio pwysigrwydd deunyddiau darllen ehangach er mwyn ehangu datblygiadau addysgol.

‘Mynd yn groes i’r graen’

Dywed Cyhoeddi Cymru hefyd fod torri grantiau ar gyfer cyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg yn “mynd yn groes i’r graen” wrth ystyried ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2025.

“Mae llyfrau’n cyflwyno geirfa ehangach a mwy amrywiol, ac yn annog darllenwyr i ddefnyddio gramadeg a strwythurau brawddegau’n gywir,” medden nhw.

“Gall llyfrau sydd wedi’u hysgrifennu’n dda ac wedi’u dylunio’n hyfryd hefyd ysbrydoli, a chreu hapusrwydd a hwyl mewn meddyliau chwilfrydig a direidus.

“Mae angen cyllid digonol a pharhaus gan y Llywodraeth ar gyfer cyhoeddi yn y Gymraeg, felly, nid yn unig er mwyn ein helpu i addysgu a diddanu, ond hefyd er mwyn galluogi’r Gymraeg i oroesi a ffynnu.”

Mae’r llythyr yn crybwyll fod Cyhoeddi Cymru wrthi’n cwblhau arolwg o’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, a’u bod yn “edrych ymlaen” i’w gyhoeddi’n fuan.

“Yn y cyfamser, mae llawer o gyhoeddwyr llyfrau Cymru eisoes yn penderfynu – o ganlyniad i’r cynnydd mawr yng nghostau deunyddiau crai a’u gorbenion, o fewn cyd-destun diwydiant hynod o gystadleuol, lle mae’r elw’n isel – torri ar nifer eu staff a’r llyfrau gaiff eu cyhoeddi ganddyn nhw.

“Mae’n anochel y bydd mwy o swyddi’n cael eu colli, hyd yn oed petai’r cyllid yn aros fel ag y mae ar y lefelau newydd.

“Pe bai yna doriad pellach mewn cyllid, bydd cyhoeddwyr sydd eisoes yn gweithredu ar gyllid pitw yn wynebu bygythiad difrifol.”

Maen nhw’n dweud bod llawer o gyhoeddwyr yn ofni y bydd yn rhaid iddyn nhw roi’r gorau i fasnachu – rhywbeth fydd yn “drychineb personol” ac yn “gadael llawer o awduron, golygyddion a darlunrwyr Cymreig heb unrhyw ddiwydiant”.

Galw am gymorth Aelodau’r Senedd

Er mwyn ceisio osgoi trychineb o’r fath, mae Cyhoeddi Cymru yn annog Aelodau’r Senedd i gefnogi eu cais i atal unrhyw doriadau pellach i’r gyllideb o 2025-26, adfer grantiau cyhoeddi i’w lefelau yn 2010-11, gan gynnwys effaith chwyddiant, ac i greu partneriaeth ystyrlon rhwng y Senedd, y Llywodraeth a’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Mewn neges at Aelodau’r Senedd, dywed Cyhoeddi Cymru fod y “sefyllfa’n enbydus”.

“Mae tynged un o ddiwydiannau hynaf Cymru yn eich dwylo chi, a gofynnwn yn barchus i chi helpu i atal y chwalfa drychinebus hon drwy fuddsoddi yn un o’n gwir drysorau cenedlaethol,” medden nhw.