Mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Hydref 24) mai yn ardal Is-y-coed ar ochr ddwyreiniol dinas Wrecsam y bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal fis Awst nesaf.

Bydd y Maes, y maes carafanau, y meysydd parcio a Maes B yn gyfochrog â’i gilydd mewn ardal gyfleus i deithwyr o bob cyfeiriad.

Mae Llinos Roberts, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, yn “edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn fwy nag erioed yn dilyn y cyhoeddiad hwn”, meddai.

“Diolch i bawb a fu ynghlwm gyda’r trafodaethau a’r trefniadau, ac rwy’n hyderus y cawn ni Eisteddfod hynod gofiadwy yma ar gyrion dinas Wrecsam.

“Mae’r gwaith o lunio’r rhaglenni artistig yn parhau, ac rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi ymuno â’r tîm ac sy’n rhan o’r trafodaethau hyn.

“Diolch hefyd i’n holl wirfoddolwyr ym mhob cwr o’r sir sydd wrthi’n ddygn yn codi arian ac ymwybyddiaeth.

“Mae’r gwaith yn mynd yn arbennig o dda, ac mae brwdfrydedd a chefnogaeth pawb yn y tîm yn gwbl wych.

“Mae nifer o gyhoeddiadau a cherrig milltir ar y gorwel rhwng nawr a’r Nadolig, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth am bob elfen o’r gwaith paratoi dros y misoedd nesaf.

“Mae croeso hefyd i unrhyw un sy’n awyddus i ymuno â’r tîm – dyw hi ddim yn rhy hwyr o gwbl. Ewch i wefan yr Eisteddfod i gofrestru a dewch i helpu, cefnogi a chymdeithasu gyda ni!”

‘Cyfle perffaith i ddefnyddio’r Gymraeg sydd gennych chi’

Mae’n “bleser” cadarnhau lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 2025, yn ôl y Cynghorydd Hugh Jones, Pencampwr y Gymraeg Cyngor Wrecsam.

“Mae’r Eisteddfod yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei chefnogi a’i mwynhau drwy’r gweithgareddau a’r codi arian yn ystod y cyfnod paratoi, yn ogystal â’r ŵyl ei hun,” meddai.

“Dyma’r cyfle perffaith i ddefnyddio’r Gymraeg sydd gennych chi, neu ddechrau dysgu ychydig ar ein hiaith cyn i’r ŵyl ddiwylliannol fwyaf o’i bath yn Ewrop gyrraedd ardal Is-y-coed yma yn Wrecsam fis Awst nesaf,”

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal rhwng Awst 2-9, 2025.