Mae’n bwysig “ehangu gorwelion” unigolion sy’n awtistig ac sydd ag ADHD, yn ôl un o’r rhai sydd wedi cyfrannu at gyfrol newydd sydd wedi’i chyhoeddi yn ystod mis codi ymwybyddiaeth o ADHD.

I nodi’r mis, mae Dynol Iawn wedi’i golygu gan Non Parry ac wedi’i chyhoeddi gan wasg Y Lolfa.

Daeth y syniad ar gyfer y llyfr gan Meleri Wyn James, golygydd gyda’r Lolfa oedd yn awyddus i dynnu sylw at ADHD ac awtistiaeth drwy amryw o leisiau Cymraeg.

Mae’r llyfr yn adrodd profiadau 13 o bobol sy’n byw fel unigolion awtistig neu ag ADHD, ac un sydd wedi adrodd ei phrofiadau personol hi wedi diagnosis o awtistiaeth y llynedd yw Vicky Powner o Sir Benfro.

Mae’n bwysig cael mis i godi ymwybyddiaeth o ADHD, meddai, ac yn “beth da” bod amseroedd gwahanol o’r flwyddyn yn cael eu neilltuo i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth.

Ond dywed fod angen ei wneud yn “fwy o beth”.

“Rwy’n meddwl fod lot o bobol erbyn hyn yn dechrau dysgu mwy am niwrowahaniaeth yn gyffredinol ac, achos hynny, rwy’n credu bod eisiau defnyddio hwnna mewn ffordd bositif i ehangu dealltwriaeth pobol, ac yn amlwg i godi ymwybyddiaeth ar yr un pryd,” meddai wrth golwg360.

“Mae angen sicrhau bod cyfleoedd yn codi i’w drafod e, a bod pobol yn gallu gofyn cwestiynau ac i rannu gwybodaeth ac adnoddau.

“Mae pobol yn mynd drwy’r broses o ddiagnosis drwy gydol y flwyddyn, ac mae eisiau cymorth ar bobol o hyd.”

Er ei bod yn cydnabod fod y broses o gael diagnosis yn gallu bod yn anodd, mae hi o’r farn fod y broses o hunanddiagnosis hefyd yn bwysig ac yn rhywbeth sydd yr un mor ddilys â diagnosis meddyg.

Agoriad llygaid i fyd niwrowahaniaeth

Penderfynodd Vicky Powner adrodd ei stori bersonol hi o fyw fel unigolyn awtistig yn Dynol Iawn fel ffordd o ehangu dealltwriaeth eraill o awtistiaeth, er ei bod yn gwneud synnwyr iddi hi’n bersonol.

Ers cael ei diagnosis, mae hi wedi bod yn brysur yn codi ymwybyddiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, ar y radio a thrwy gyfrannu at flogiau, gan fod llawer o’r wybodaeth sydd ar y we yn gallu bod yn “stereotypical”, meddai.

“Yn hytrach na phobol yn edrych arna i a meddwl, ‘O, dyw hi ddim yn un sydd ddim yn siarad, dyw hi ddim yn un sydd angen cymorth gyda’i haddysg’ a phethau fel yna, roeddwn i’n teimlo ei fod yn bwysig dangos i bobol beth mae awtistiaeth yn gallu edrych fel i bobol fel fi.

“Pan wnaeth Non [Parry] ofyn i mi gyfrannu, doedd dim doubt gyda fi ’mod i’n mynd i gymryd rhan achos, eto, mae’n bwysig i rannu’r stori rili; mae’n helpu pobol i weld beth mae e fel tu ôl i’r llen, fel petai.”

Pwysleisia bwysigrwydd annog pobol i gael “agoriad llygaid” o ran sut beth yw byw gydag awtistiaeth neu ADHD, gan fod dealltwriaeth gywir yn cynnig “chwarae teg” i unigolion.

Drwy godi ymwybyddiaeth, mae modd “ehangu gorwelion” y rhai sy’n byw fel unigolion awtistig neu ag ADHD hefyd, meddai.

“Beth oedd yn rili neis i weld oedd bod amrywiaeth o bobol [wedi cyfrannu].

“Roedd yna unigolion awtistig ac unigolion yn byw gydag ADHD yn cyfrannu, wrth gwrs, ond hefyd roedd yna rieni yn cyfrannu, a phobol ifanc yn siarad am eu chwiorydd ac yn y blaen.

“Roedd edrych arno fe o bersbectif gwahanol yn eithaf gwerthfawr.

“Os oedd hwnna yn agoriad llygad i fi fel person awtistig, yn amlwg i bobol eraill sydd yn darllen y llyfr, boed rheiny yn niwrowahanol neu’n niwrotypical, mae e’n mynd i fod yn agoriad llygad, ac mae e’n mynd i fod yn rywbeth lle mae pobol yn gallu dysgu ohono fe.

“Felly gobeithio fod pobol yn gallu gweld pan mor onest a pha mor agored mae pobol wirioneddol wedi bod.”

Grŵp ‘Merched awtistig ac ADHD Cymraeg’

Ar y cyd ag aelod o’r wefan meddwl.org, mae Vicky Powner wedi sefydlu’r grŵp ‘Merched awtistig ac ADHD Cymraeg’ ar Facebook, i gynnig cymorth i ferched, i ferched trawsryweddol, ac i bobol anneuaidd sy’n byw fel unigolion awtistig neu ag ADHD.

Roedd hi’n gyfnod “eithaf unig” yn dilyn ei diagnosis wrth iddi geisio darganfod yr hyn oedd yn gweithio iddi hi, meddai, a hynny heb gymorth nac adnabod rhywun arall oedd yn deall.

“Aethon ni ati i greu y grŵp er mwyn i griw o bobol ddod at ei gilydd i ffeindio eu pobol nhw, fel petai,” meddai.

“Mae’r grŵp i bobol sydd wedi cael diagnosis, sydd ar y daith o gael diagnosis, neu i’r rhai sydd wedi gwneud hunanddiagnosis o awtistiaeth yn wreiddiol, ond mis yma rydyn ni wedi ehangu’r grŵp ar gyfer merched awtistig ac unigolion ADHD.

“Mae yna gyswllt mawr rhwng y ddau, a beth rydyn ni wedi gweld yn digwydd yw bod lot o bobol yn cael diagnosis o un ac wedyn yn dysgu efallai bod yna dipyn o’r llall hefyd.”

Er bod y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd ddefnyddiol iawn i gynnig platfform sy’n hyrwyddo grwpiau cefnogol megis ‘Merched awtistig ac ADHD Cymraeg’, mae Vicky Powner yn cydnabod ei bod yn gallu bod yn “broblematig” hefyd.

“Mae e’n gallu bod yn rywle ble mae pobol yn gweld gwybodaeth, ond dyw e ddim wastad yn gywir,” meddai.

“Gyda niwrowahaniaeth, mae e’n rywbeth eithaf newydd; mae’r derminoleg yn eithaf newydd, ac yn aml iawn mae’n rywbeth sy’n cael ei gamddefnyddio.

“Er bod e’n bwerus, mae’n gallu bod yn heriol hefyd.”