Bydd pumed ŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi yn dychwelyd nos Iau (Hydref 31) hyd at Dachwedd 2, gyda thros 90 o setiau byw mewn lleoliadau ar draws y dref, o hip-hop i werin, o roc i R&B, a phopeth yn y canol.

Rhai o’r artistiaid o Gymru fydd yn cymryd rhan yn Y Llwybr Cerdd yw Cynefin, Lleuwen, Melin Melyn, Mr Phormula, Sage Todz, Tara Bandito, a The Gentle Good, ynghyd â llu o artistiaid eraill fel prif leisydd y Manics, James Dean Bradfield, fydd yn perfformio set unigol arbennig yn Eglwys y Santes Fair.

“Mae’n anrhydedd enfawr i ni groesawu James Dean Bradfield i Aberteifi,” meddai Dilwyn Davies, Prif Weithredwr y Mwldan, sy’n cyd-gynhyrchu gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi. “Mae’n un o artistiaid enwocaf cerddoriaeth gyfoes Cymru, ac mae ei berfformiad yn yr Eglwys yn crynhoi’r hyn sydd mor hudolus am Lleisiau Eraill, sef dod â pherfformwyr anhygoel i Aberteifi.”

Mae’r artistiaid eraill yn cynnwys Charlotte Day Wilson, Nadine Shah, Melys, Fionn Regan, Victor Ray, Bill Ryder-Jones a Fabiana Palladino. Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan y DJ Huw Stephens.

Y DJ a’r cyflwynydd Huw Stephens

Clebran

Mae’r sesiynau Clebran yn dychwelyd i Theatr Mwldan, lle bydd siaradwyr blaenllaw yn dod ynghyd i rannu syniadau, ysgogi sgwrs ac archwilio safbwyntiau newydd ar rai o faterion mawr y dydd. Yn eu plith mae Carwyn Graves, Carys Eleri, Delyth Jewell, Lowri Cunnington Wynn, Laura McAllister, Noel Mooney, a’r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost.

Elfen newydd i’r ŵyl eleni yw ‘Clebran ar y Llwybr’, sef cyfres o sgyrsiau agos-atoch gyda rhai o artistiaid Y Llwybr Cerdd, fydd yn digwydd yng Nghapel a Festri Bethania. Bydd y cerddor Lleuwen yn siarad â’r cerddor a chyflwynydd radio Georgia Ruth yn un o’r sgyrsiau hyn.

Mae manylion llawn yr ŵyl yma.