Mae nifer o fudiadau’n cydweithio i gynnig cwrs Merched yn Gwneud Miwsig er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched i fentro i’r diwydiant.

Mae’r Urdd, Eisteddfod Genedlaethol, Maes B a Chlwb Ifor Bach wedi dod ynghyd i gynnig y cwrs ‘Merched yn Gwneud Miwsig’ i bobol ifanc Blwyddyn 10 hyd at 25 oed.

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal rhwng Hydref 30 a Tachwedd 1 yng Nglan-Llyn Isa’.

Yr Eisteddfod, Maes B a Chlwb Ifor Bach sy’n berchen ar y brand ‘Merched yn Gwneud Miwsig’, ac ers 2021 maen nhw bellach yn cydweithio â’r Urdd i gynnal y cyrsiau preswyl.

Mae’r cwrs yn cynnig y cyfle i ferched ddysgu am gyfansoddi, perfformio a recordio dan arweiniad rhai o ferched mwyaf profiadol y sin Gerddoriaeth Cymraeg – Elan Evans, Hana Lili, a Marged Gwenllian o’r band Y Cledrau.

Dechrau gigio

Yn ôl Marged Gwenllian, sydd hefyd yn gweithio fel Swyddog Cymunedol ardal Meirionnydd i’r Urdd, mae’r ymateb mae hi a gweddill y tiwtoriaid wedi’i gael drwy gynnal y cyrsiau yn yn y gorffennol wedi bod yn wych, gyda thros hanner y merched wedi mynychu mwy nag un cwrs.

“Ers y cwrs cyntaf, rydym ni wedi cael tua deuddeg o aelodau bob tro, sydd yn rif rili neis i weithio hefo fo,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna rai ohonyn nhw’n mynychu mwy nag un cwrs.

“Maen nhw’n dod i un ac yn lyfio fo, ac felly’n dod i’r nesaf, ac wedyn ti’n eu gweld nhw’n datblygu.

“Mae’r rhai sy’n cychwyn yn ifanc ym Mlwyddyn 10 yn dueddol o ddod ym Mlwyddyn 11 ac yn y Chweched.

“Dw i wastad yn gofyn os ydyn nhw eisiau dod eto, ac weithiau mae rhai yn dweud, ‘Fedra i ddim sori, mae gen i gig’, ac mae hynny’n amazing!

“Dyna ydi holl bwrpas y cwrs.”

‘Dangos ffrwyth dy lafur’

Gyda hyd at bymtheg wedi gwneud cais am y cwrs sydd ar y gweill, a’r tiwtor gwreiddiol Heledd Watkins yn methu mynychu, cafodd Marged Gwenllian y syniad i wahodd cyn-fynychwyr y cwrs sydd bellach mewn bandiau i’w helpu.

Un sydd wedi mynychu yn y gorffennol ac sy’n dychwelyd i roi help llaw yw Nel Thomas, sy’n aelod o’r bandiau Buddug a Mynadd.

Bydd Ceirios Bebb, sy’n aelod o’r bandiau Gwenu a Francis Rees, hefyd yn dod yn ôl i diwtora.

Mae’r elfen diwtora yn rhoi boddhad i Marged Gwenllian, gan ddangos “ffrwyth dy lafur” yn dilyn yr holl waith trefnu a recriwtio.

Agor drysau drwy wneud ffrindiau

Mae Mirain Iwerydd, Mali Elwy, Llywela Edwards, Francis Rees ac Alis Glyn ymhlith y merched ifainc sydd wedi treulio amser ar y cyrsiau.

Yn ôl Marged Gwenllian, mae’r cwrs yn gyfle i ferched ddarganfod ffrindiau sydd yn rhannu’r un diddordebau cerddorol, ac felly dydy pellter ddim yn broblem.

“Pan ti’n cynnal y cyrsiau mae’n eithaf rewarding i weld y merched yn mwynhau beth bynnag, ond wedyn pan ti’n gweld bod yna fandiau yn dod allan ohono fo, mae o hyd yn oed yn well!”

“Ti’n gallu profi wedyn fod [y cwrs] yn gweithio.”

Cafodd hi gyfle i feirniadu Brwydr y Bandiau Maes B y llynedd, gan weld wyth o ferched oedd wedi mynychu’r cwrs yn cystadlu.

Datblygu diwydiant cerddorol teg i ferched

Hana Lili

Un arall sydd wedi tiwtora ar y cwrs ers y cychwyn yw’r gantores Hana Lili.

Mae ‘Merched yn Gwneud Miwsig’ wedi bod yn brosiect “ffantastig” sydd yn rhoi cyfle i ferched ac i bobol anneuaidd arbrofi â chreu cerddoriaeth a dysgu mwy am y diwydiant, meddai wrth golwg360.

“Fy rôl i ar y cwrs yw dangos i bawb sut i gynhyrchu, ond holl bwrpas y cwrs yw i fagu hyder ac i ganiatáu bod gofod saff ar gael i bobol drio pethau newydd gyda cherddoriaeth, heb gael eu beirniadu.

“Mae e mor ffantastig wedyn gweld pobol yn dod allan o’r prosiect yn perfformio ym Maes B neu’n cael eu chwarae ar Radio Cymru.”

Pan fentrodd Hana Lili i’r byd cynhyrchu cerddoriaeth, roedd hi’n teimlo ei bod hi’n feirniadol iawn ohoni hi ei hun oherwydd y “stereoteip” o fewn y diwydiant sy’n dweud nad yw’r rolau traddodiadol ar gael i ferched.

“Mae’r prosiect hefyd yn bodoli er mwyn caniatáu gwneud camgymeriadau,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod hynny’n rhan bwysig o fod yn greadigol – creu camgymeriadau, trio pethau ma’s a chael yr hyder i fynd lan ar lwyfan a pherfformio.”

Mae hi’n gobeithio bod y prosiect yn chwarae rhan fach wrth ddatblygu diwydiant sy’n decach i ferched yma yng Nghymru, boed hynny o flaen neu’r tu ôl i’r llen.

“Y peth mwyaf cyffrous yw gweld y merched yma yn perfformio mewn gwyliau, yn Tafwyl, Maes B…

“Ti’n eu gweld nhw’n chwarae mewn bandiau ac yn cynhyrchu.

“I fi, mae e’n gyffrous eu gweld nhw’n cymryd rhywbeth o’r cwrs ac yn parhau ar y tu allan.

“Dyna’r peth pwysicaf amdano fe.”

Caiff y cwrs ‘Merched yn Gwneud Miwsig’ ei gynnal bob hanner tymor (mis Hydref a mis Chwefror).