Mae’n “siom” na chafodd categori Newyddion a Materion Cyfoes ei gynnwys yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni, yn ôl rhai sydd yn gweithio yn y maes.

Yn ôl BAFTA, cafodd y categori ei ohirio eleni gan na ddaeth digon o geisiadau i law.

Mae llyfr rheolau’r gwobrau ar gyfer 2024 yn dweud na fyddai’r ceisiadau’n cael eu hystyried ar gyfer y categori eleni pe bai llai na deg cais, ond y byddan nhw’n cael eu hystyried yn 2025.

Mae BBC Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi rhoi cynnig arni yn y categori, ac mae golwg360 yn deall bod wyth ymgais i gyd gan wahanol gwmnïau.

Dywed llefarydd ar ran BAFTA fod “trothwy lleiafswm wedi bodoli ers sawl blwyddyn, er mwyn sicrhau bod cystadleuaeth a chydraddoldeb dros bob categori”.

Categori “eithriadol o bwysig”

Yn sgil y diffyg gwobrwyo eleni, dywed llefarydd ar ran ITV Cymru Wales eu bod yn “siomedig” nad oedd y gwobrau eleni’n cynnig cyfle i ddathlu’r maes.

“Mae Newyddion a Materion Cyfoes yn chwarae rhan hanfodol yn y dirwedd newyddiadurol yng Nghymru, ac mae’n siomedig nad oedd gwobrau eleni yn cynnig y cyfle i ddathlu’r cyfraniad pwysig gaiff ei wneud yn y maes hwn,” meddai’r llefarydd.

“Rydym yn mawr obeithio y bydd y categori hwn yn dychwelyd ac yn cael ei ddathlu fel rhan o wobrau’r flwyddyn nesaf.”

Dywed S4C fod cynnal y categori yn y gwobrau yn “eithriadol o bwysig” iddyn nhw fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, “er mwyn dathlu a chydnabod safon uchel y newyddiaduraeth sy’n cael ei chynhyrchu yng Nghymru”.

“Rydyn ni wir yn gobeithio y bydd yna wobrwyo yn y maes yma yng ngwobrau BAFTA Cymru 2025,” medden nhw.

Mae BBC Cymru wedi cadarnhau bod ymgais wedi bod ganddyn nhw, ac ychwanega llefarydd ar eu rhan fod dathlu cyfraniad newyddiadurwyr Cymreig a’u gwaith ar gynnwys newyddion a materion cyfoes yn “hollbwysig”.

“Mae’n bwysig ein bod ni fel diwydiant yn parhau i gydnabod y cyfraniad allweddol gaiff ei wneud yn y maes hwn,” meddai llefarydd.

‘Siomedig iawn’

Yn ôl Gwenfair Griffith, newyddiadurwr a chynhyrchydd sy’n darlithio yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwydiant (JOMEC) Prifysgol Caerdydd, mae’n “siomedig iawn” fod y categori wedi cael ei ohirio eleni.

“Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n siomedig iawn, oherwydd mae’r gwobrau i fod i ddathlu’r diwydiant creadigol sy’n creu rhaglenni ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru, ac mae newyddiadurwyr Cymru’n gweithio’r un mor galed â’r bobol eraill sy’n gweithio yma yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.

“Pam na ddylen nhw gael eu cydnabod fel yr holl weithwyr creadigol eraill?

“Mae newyddiadurwyr yn gweithio o fewn cyllidebau bach yn creu rhaglenni gwych, a faint o oriau darlledu sydd ar ein cyfryngau ni sydd wedi cael eu creu o ran newyddion – mae hwnna efallai’n fwy na’r categorïau eraill, ond eto dim cydnabyddiaeth am waith newyddiadurwyr sy’n gweithio’n galed iawn.

“Mae BAFTA wedi ateb yn dweud eu bod nhw’n gobeithio’i gynnal y flwyddyn nesaf, felly mae hwnna’n galonogol iawn ond dw i’n credu’n bendant y dylai e ddigwydd.”

‘Adlewyrchu ansawdd anhygoel y rhaglenni’

Dywed llefarydd ar ran BAFTA y byddan nhw’n ymgynghori â’r diwydiant er mwyn gweld sut i gynyddu’r ceisiadau ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

“Gan na fu digon o geisiadau i gyrraedd y trothwy ar gyfer lleiafswm y ceisiadau yn 2024, cafodd y categori Newyddion & Materion Cyfoes ei ohirio am flwyddyn tra ein bod ni’n ymgynghori gyda’r diwydiant ac yn ystyried yr holl ffyrdd i gynyddu nifer y ceisiadau,” meddai.

“Rydyn ni eisiau i’r ffordd rydyn ni’n hyrwyddo newyddion a materion cyfoes Cymru adlewyrchu ystod ac ansawdd anhygoel y rhaglenni sy’n cael eu creu yng Nghymru, ac fel rhan o’n hadolygiad gwobrau blynyddol, byddwn ni’n ymgynghori er mwyn deall y ffyrdd fedrwn ni annog mwy o geisiadau yn y blynyddoedd nesaf.”