Mae Hansh yn bwriadu dathlu ‘Calan Gayaf’ arbennig eleni.

Bydd sianel ieuenctid S4C yn darlledu sioe drag gan griw’r breninesau Queens Cŵm Rag ar draws eu platfformau digidol heno (nos Iau, Hydref 31).

Daw’r rhaglen o lwyfan Cabaret Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, ac mi fydd i’w gweld ar S4C Clic, iPlayer a sianel YouTube Hansh ac S4C.

“Mae Hansh yno i’n diddanu ac weithiau i godi gwrychyn, gyda thafod yn y boch bob tro – ac mae Calan Gayaf yn chwa o awyr iach, ddrygionus!” meddai Guto Rhyn, Comisiynydd Rhaglenni Hansh.

Nod Hansh, gafodd ei lansio yn 2017, ydy rhoi llwyfan i bobol ifanc Cymru gyda chomedi ac hanesion sydd at eu dant nhw.

Queens Cŵm Rag

Daeth Hansh â sylw’r genedl at y Queens Cŵm Rag mewn rhaglen ddogfen arbennig ddwy flynedd yn ôl.

Bydd nifer o’r cymeriadau ymddangosodd ar y rhaglen honno, sydd i’w gweld ar YouTube o hyd, yn dychwelyd i’r llwyfan Cabaret heno.

Bydd Bopa Rhys, Lasagne Sheets, CeCe, Nessa ac Oberon, yn ogystal â gwesteion megis Ceri Grafu ac Aneurin Heaven, yn cynnig sioe sy’n llawn canu, comedi, barddoniaeth – a braw.

“Mae angen i bawb gael profi Queens Cŵm Rag – mae’n nhw’n hollol boncyrs a gorjys ar yr un pryd.

“Ymunwch yn yr hwyl – os da chi’n mentro… Be’ well ar gyfer nos Calan Gaeaf?” meddai Guto Rhyn.

Mae Calan Gayaf ymhlith arlwy o ddanteithion arswydus i’w canfod ar S4C Clic eleni, gan gynnwys rhaglen Cysgu efo Ysbrydion Hansh.