Calan Gaeaf traddodiadol Cymru ydy testun cân ddiweddaraf Carys Eleri, sy’n ailbwysleisio gwreiddiau ysbrydol yr ŵyl.
Mae’r gân ‘Nos Calan Gaeaf’, sydd wedi’i chyhoeddi ar bob platfform digidol ers yr wythnos ddiwethaf, yn cyfuno sain emosiynol gyfarwydd yr artist o Lanelli â lleisiau corol o’r fro.
Yn ogystal, bydd Carys Eleri yn cyflwyno rhaglen ddogfen arbennig ar BBC Radio Wales heno (nos Iau, Hydref 31) yn trafod hanes Calan Gaeaf yng Nghymru.
Mae Nos Calan Gaeaf: The Welsh Halloween ar gael ar wefan BBC Sounds yn barod.
‘Mwy na losin a gwisgo lan’
Nod y gân a’r rhaglen ddogfen ydy tynnu sylw oddi ar yr Halloween Americanaidd, ac ailymweld â hen arferion y Cymry.
Yn rhan o’i hymchwil, fe fu Carys Eleri yn hyfforddi i fod yn dderwyddes neo-baganaidd yng nghwmni Kristoffer Hughes, Prif Dderwydd Urdd Derwyddon Môn.
Dywed ei bod hi’n “gobeithio y bydd pobol yn darganfod bod cymaint mwy i’r noson yma na losin a gwisgo lan – mae’r un faint o hwyl i’w gael drwy ddathlu Calan Gaeaf ag sydd i Halloween, jyst llai o sugar rush a bach mwy o ddyfnder.
“Ystyr gwreiddiol Calan Gaeaf oedd nodi diwedd yr haf a’r cynhaeaf, gan baratoi ar gyfer dechrau’r gaeaf, gyda nifer o arferion a defodau yn adlewyrchu’r cysylltiad dwfn rhwng pobol a’r byd naturiol, yn ogystal â’r byd ysbrydol.
“Roedd yr arferion yn cynnwys pobol yn goleuo coelcerthi i gadw ysbrydion draw ac yn gwisgo fel cewri ac ysbrydion i ddrysu’r byd arall, gan hefyd gofio ac anrhydeddu’r meirw a hynafiaid drwy weddïau a defodau arbennig i ddathlu’r cenedlaethau a fu.”
Y gân
Mae’r gân wedi’i chynhyrchu gan Branwen Munn a’i chyhoeddi gan label Coco & Cwtsh.
Mae hefyd yn cynnwys cantorion o Gôr Meibion Mynydd Mawr a Chôr Seingar, a lleisiau disgyblion Ysgol Gynradd Llannon, lle bu mam Carys Eleri yn dysgu am 30 o flynyddoedd.
Yn ogystal, mae Amanda Owen, cyfnither ei diweddar dad, yn chwarae’r soddgrwth ar y trac.
“Gyda’r gred bod y llen rhwng y byw a’r meirw yn denau ar y noson hudolus hon, mae’r gân yn galw ar yr ysbrydion i ymuno â ni mewn cariad a chynhesrwydd,” meddai Carys Eleri.
“Roedd yn bwysig iawn i mi gynnwys pobol sy’n agos ataf ar y trac yn ogystal ag ystod eang o oedrannau, gan fod y cyfnod yma o’r flwyddyn yn berthnasol i bawb – nid jyst i blant yn chware ‘trick or treat!’
“Mae’n amser i glosio ac i gofio’r rhai a luniodd ein bywydau, ein gorffennol a’n dyfodol.
“Mae sawl gwlad yn parhau i ddathlu’r cyfnod arbennig hwn mewn ffordd ysbrydol sy’n dathlu ein hynafiad a’n hanwyliaid a fu ond yn anffodus, ni wedi colli’r traddodiad hyfryd yma hyn yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ar y cyfan”