Mewn rhaglen newydd Cysgu Efo Ysbrydion, fe fu’r cyflwynydd a dylanwadwr Iwan Steffan a’i ffrind Aimee Fox yn ymweld â mannau mwyaf arswydus Cymru i ddarganfod pa fwganod sy’n byw tu ôl i ddrysau caeëdig.
Dros gyfnod o dair pennod, fe fu’r ddau yn aros yn y White Lion Royal yn y Bala, ym Mhlas Tan yr Allt yn Nhremadog, a charchar Rhuthun.
Mae Iwan Steffan eisoes wedi cyflwyno Sêr Steilio gyda Mirain Iwerydd, ac yn dilyn trafodaeth â Cwmni Da, bachodd ar y cyfle i gyflwyno rhaglen am bwnc sydd o gryn ddiddordeb iddo.
“Ar y pryd, roedden nhw eisiau rhywun efo fi oedd yn eithaf gwahanol i fi, rhywun oedd yn eithaf sceptical a heb gael lot o brofiad,” meddai.
“Mi wnes i feddwl am fy ffrind Aimee Fox; mae ei hesthetig hi yn hollol wahanol i fi,” meddai wrth golwg360.
“Mae hi’n rili Chanel, a dwi’n rili Dr Martens!”
Carchar Rhuthun
Carchar Rhuthun oedd canolbwynt pennod olaf y gyfres, a’r uchafbwynt i Iwan Steffan hefyd.
“Roedd y sŵn yn nyts! Roedd o’n swnio fel tafarn yn llawn pobol yn sgwrsio,” meddai.
“Mi wnaethon ni ddal hynny ar y camera er mai dim ond ni oedd yn yr adeilad.
“Doedd o ddim yn scary, roedd o fel llwyth o bobol yn siarad, dyna i gyd.
“Roedd o’n rili, rili rhyfadd.
“Mi o’n i hefyd yn licio Plas Tan yr Allt yn Nhremadog, achos mi oedden ni’n ganol nunlle.
“Doedd yna ddim byd yno o gwbl, ac mi roeddwn i wrth fy modd efo’r setting.”
Wrth obeithio am ail gyfres, mae ganddo lefydd arswydus eraill yr hoffai ymweld â nhw.
Byddai wrth ei fodd yn dilyn ôl troed y gyflwynwraig Siân Eleri, oedd wedi ymchwilio i hanes fferm Penyffordd yn y gyfres The Girl, the Ghost and the Gravestone ar BBC iPlayer.
“Does yna ddim byd rili yn dychryn fi, ond fe wnaeth y rhaglen yna!” meddai.
“Fyswn i hefyd yn licio mynd i Gastell Penrhyn, achos mae o o gwmpas yr ardal dwi’n dod yn wreiddiol.
“Roedd fy chwaer i, Manon, yn arfer gweithio yno ac mi roedd hi wastad yn dweud fod yna straeon ysbrydion yna.”
Ysbrydion ddim wastad yn “edrych fel pobol”
Dydi Iwan Steffan ddim yn credu bod ysbrydion wastad yn edrych fel pobol, a’u bod yn gallu cyfathrebu mewn amryw o ffyrdd gwahanol.
“Ychydig flynyddoedd yn ôl, mi oeddwn i mewn canolfan iechyd meddwl ac mi oeddwn i mewn ystafell efo’r ffenestri a’r drws wedi’u cau, ac mi wnaeth yna bili pala ddod i mewn a glanio ar fy llaw,” meddai.
“Wnes i ddim meddwl lot amdano yn gyntaf, ond tra wnes i drio ei chwythu i ffwrdd, doedd o ddim yn mynd o fy llaw.
“Pan oedd Mam yn fyw, dyna oedd hi’n ei hoffi – pili palas.
“Rwy’ wedi cael fy holi lot wrth wneud y gyfres os ydw i’n coelio fod ysbrydion yn edrych fel pobol, a dydw i ddim yn gwybod os ydw i.
“Dwi’n meddwl fod ysbrydion yn gallu bod yn egni, neu’n arwydd, neu’n unrhyw beth.
“Mae’n rili cŵl.”
Dod o hyd i gynnwys sy’n gweithio
Ers tro byd, mae Iwan Steffan wedi dangos diddordeb brwd yn yr anhysbys, ac mae wrth ei fodd gyda “phethau dydi pobol ddim yn gallu eu hesbonio”.
Mae ganddo bron i 180,000 o ddilynwyr ar ei gyfrif TikTok, lle mae’n adrodd straeon arswyd o amgylch Lerpwl.
Roedd yn gwybod ei fod o eisiau bod yn ddylanwadwr, ond doedd creu cynnwys harddwch a ffasiwn ar Instagram ddim i’w weld yn ddigon unigryw iddo gael sefyll allan.
Wrth “edrych am y niche” ar TikTok yn ystod y cyfnod clo, dechreuodd wneud fideos yn adrodd hanes gwahanol adeiladau yn Lerpwl.
“Mi es i i hen ysbyty yn Lerpwl i ffilmio y tu allan a dweud hanes yr ysbrydion dros voiceover ar TikTok – a gweld lle mae’n mynd.
“Mi wnes i ddeffro yn y bore, a dwi’n meddwl roedd [y fideo] ar dros 366,000 o views.
“Felly o fan yna, o’n i’n meddwl, ‘reit, dyma be’ dwi angen ei wneud’.
“Mae pobol yn licio’r unknown a be’ dydyn nhw ddim yn gallu ei weld.
“Mae lot o bobol yn dweud, ‘O, mae hyn yn gelwydd’, ac efallai ei fod o.
“Dydw i erioed wedi dweud fod [y straeon] yn wir, ond mae pobol yn eu gyrru nhw, a dwi’n gweithio efo’r wybodaeth maen nhw wedi’i rhoi i mi.
“Dydw i ddim yn sefyll yma yn dweud fod bob dim yn wir, ond mae o’n gwneud entertainment rili da.
“Mae pobol yn mwynhau pethau dydyn nhw ddim yn gallu eu deall.
“Be’ dw i’n ei wneud ar TikTok ydi dweud straeon am ysbrydion, ond yn y rhaglen, dw i’n mynd i edrych am ysbrydion.
“Ar bapur, dydyn nhw ddim yn bell o’i gilydd, ond i fi’n bersonol, maen nhw.
“Dw i wedi caru pethau fel hyn erioed, ac mae wedi bod yn fraint cael gallu gwneud [Cysgu efo Ysbrydion] yn fy iaith gyntaf.
“Allan o unrhyw beth, dyma oedd y gôl, a dw i wedi gwneud y gôl, ac felly mae fy nghalon i’n llawn!”
Mae’r gyfres bellach ar gael i’w gwylio ar S4C Clic, iPlayer a sianel YouTube Hansh.