Bydd Amgueddfa Carchar Rhuthun yn croesawu teuluoedd unwaith yn rhagor yr wythnos nesaf (Hydref 28 i Dachwedd 1), wrth iddyn nhw ddathlu Calan Gaeaf.

Ond roedd y carchar fel sefydliad yn Oes Fictoria yn beth digon arswydus ei hun, yn ôl Philippa Jones, rheolwr yr amgueddfa.

Mae hi mor bwysig i ymwelwyr ag Amgueddfa Carchar Rhuthun gael dysgu am hanes y system gosb “oherwydd y ffordd roedd y carchar yn crisialu’r gymdeithas ehangach”, meddai.

Y system gosb cyn-fodern

Mae’r athronydd ac hanesydd Michel Foucault yn cyfeirio at y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel cychwyn y “gymdeithas ddisgyblaethol” yng ngorllewin Ewrop.

Mae’r math yma o gymdeithas yn ceisio ysgogi unigoliaeth ac arbenigedd economaidd ym mhob aelod, meddai’r Ffrancwr.

Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i bob unigolyn fod wedi’i arsylwi, ei fesur a’i reoli’n fanwl gan sefydliadau disgyblaethol y wladwriaeth fodern, ac mae’r carchar yn un o’r sefydliadau hynny.

Cyn y cyfnod hwn, roedd y system gosb yn gweithredu mewn ffordd dra gwahanol.

Roedd troseddwyr cyn-fodern yn cael eu dienyddio, eu harteithio’n gyhoeddus yn y stociau, neu’n cael eu hanfon i drefedigaethau yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia.

Dim ond ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif gafodd sefydliadau sy’n gyfarwydd i ni heddiw, fel carchardai, eu cyflwyno.

Bryd hynny, roedd cloi troseddwyr mewn celloedd ar eu pennau eu hunain yn syniad arloesol.

Diwygio Carchar Rhuthun

Dyma oedd hanes Carchar Rhuthun, hefyd.

Mae ‘tŷ cywiro’ wedi bod yn Rhuthun ers 1654, ond nid carchar fel sy’n gyfarwydd i ni oedd hwn.

Dim ond fel lle i gadw troseddwyr cyn iddyn nhw fynd gerbron y llys i gael eu dedfrydu fyddai’r ddalfa bryd hynny.

“Doedd cael eich deddfrydu i’r carchar ddim yn bodoli yn y cyfnod hwnnw,” meddai Philippa Jones wrth golwg360.

“Roedd yr amodau yn y ‘tai cywiro’ yma’n sâl ofnadwy; byddai pawb yn cael eu dal mewn neuaddau cymunol – dynion, menywod a phlant.”

Ond yn 1775, fe ddechreuodd y gwaith i foderneiddio’r carchar, ac mae rhan hyna’r adeilad sydd yn dal i sefyll yn Rhuthun yn dyddio o’r cyfnod hwn.

“Roedd hyn yn adlewyrchu newidiadau ar draws y wlad a’r cyfandir,” meddai wedyn.

“Cafodd dynion a menywod eu gwahanu, ac roedd hynny’n galluogi staff i gael mwy a mwy o reolaeth.”

Yn yr 1820au, cafodd y gwasanaeth carchar ei sefydlu’n genedlaethol, ac erbyn 1837 roedd lle i 37 o droseddwyr mewn celloedd unigol.

Yn y 1840au, cafodd carchardai fel Pentonville eu cyflwyno, a’r rhain yn “cynrychioli ethos ac egwyddor hollol radical”, meddai Philippa Jones, gan ychwanegu bod carcharorion yn cael eu cadw ar wahân yn llwyr.

Carchar Rhuthun ydy’r unig garchardy tebyg i Pentonville sy’n hygyrch i’r cyhoedd ac sydd dal â’r un wedd Fictorianaidd.

Syniadaeth newydd i reoli’r unigolyn

Yn ôl Michel Foucault, roedd y dull hŷn o drin troseddwyr yn ymgorffori grym eang, diymwad y brenin.

Roedd cosb yn cael ei darparu wyneb yn wyneb â’r cyhoedd, mewn modd oedd yn ddidrugaredd ac yn aml yn afresymol ar gyfer y drosedd.

Cafodd yr hen syniadaeth ei disodli gan syniadaeth newydd, oedd yn blaenoriaethu rheolaeth fanwl a threfnus y wladwriaeth dros yr unigolyn, fel yn system Pentonville o gadw carcharorion ar wahân.

Roedd diwygwyr Oes yr Oleuadigaeth, megis John Howard a Jeremy Bentham, yn benderfynol o newid yr amodau welon nhw yng ngharchardai’r oes, a chyflwyno systemau modern.

Yn y carchar, roedd modd sicrhau bod y gyfundrefn yn rheoli ac yn disgyblu’r unigolyn yn llwyr, mewn modd corfforol, cnawdol.

Roedd system panopticon Bentham, oedd yn gynsail ar gyfer carchardai fel Pentonville, yn awgrymu y dylai’r carchar weithredu ar sail yr egwyddor y byddai carcharorion wastad dan fygythiad o gael eu harsylwi.

Byddai hyn yn golygu y byddai’r carcharorion yn fwy ymwybodol o’u hunain ac yn dilyn y drefn yn fwy manwl, meddai Foucault.

Yn wahanol i’r arddangosfa gyhoeddus gyn-fodern, oedd yn canolbwyntio ar rym yn fwy na dim arall, roedd y carchar modern yn ymdrech i lywio a siapio’r carcharorion a’u hunanweledigaethau tuag at ffurfiau mwy dof.

“Cyfundrefn gas” Carchar Rhuthun

Yng Ngharchar Rhuthun, wedi’r diwygiadau ar sail Pentonville, byddai carcharorion yn cael eu cloi mewn celloedd ar eu pennau eu hunain am 23 awr y dydd.

Yn ôl Philippa Jones, roedden nhw’n wynebu “cyfundrefn gas” yn y system arwahanu hon.

Byddai carcharorion yn gorfod gweithio’n hollol ddistaw yn eu celloedd.

Bydden nhw’n gwnïo neu’n gweu, neu’n datglymu rhaffau oddi ar ddarnau pren o hen gychod – tarddiad yr ymadrodd Saesneg “money for old rope”.

“Yna, yn ystod yr un awr bob dydd, byddai’r carcharorion yn cael eu rhyddhau o’u celloedd, a bydden nhw’n cael mynd i’r capel neu i wneud ymarfer corff ar yr iard,” meddai Philippa Jones wedyn.

“Hyd yn oed yn ystod yr awr honno, roedd eu bywydau nhw wedi’u rheoli.

“Doedden nhw ddim yn cael siarad gyda neb, yn gorfod gwisgo mygydau er mwyn bod yn hollol anhysbys, a dim ond yn cael cerdded mewn cylchoedd bellteroedd penodol o’i gilydd.”

‘Rheoli bywydau’r carcharorion yn llwyr’

Dydy hi ddim yn anodd gweld tebygrwydd rhwng egwyddor y system arwahanu a’r rheolaeth gorfforol lwyr mae ‘cymdeithas ddisgyblaethol’ Foucault yn ei mynnu.

“Roedd yr holl system arwahanu, a phensaernïaeth math Pentonville, i gyd wedi’i dylunio er mwyn ynysu pobol fel nad oedd modd iddyn nhw ddylanwadu ar ei gilydd na chamymddwyn,” meddai Philippa Jones.

“Prif bwrpas hyn oedd gorfodi’r carcharorion i dreulio’r cyfnod dan glo yn meddwl am yr hyn wnaethon nhw o’i le, a cheisio’u hatgyweirio.

“Dyna oedd yr egwyddor y tu ôl i’r system gosb newydd, fanwl, lem hon oedd yn rheoli bywydau’r carcharorion yn llwyr.”

Mae hi’n cydnabod fod yr isadeiledd hwn, a’r cysyniad o gloi troseddwyr mewn cell, wedi para mewn carchardai hyd heddiw.

“Mae’r bensaernïaeth yr un fath,” meddai.

“Cafodd nifer o’r carchardai eraill math Pentonville eu troi’n garchardai modern.”

Arddangosfa Calan Gaeaf

Bydd Amgueddfa Carchar Rhuthun ar agor i deuluoedd dros hanner tymor Calan Gaeaf wythnos nesaf, fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru.

Bydd digwyddiadau addysgiadol yn cael eu cynnal yno, fydd yn rhoi gwybod i blant a theuluoedd am hanes a thraddodiadau Calan Gaeaf yng Nghymru.

Enillodd yr Amgueddfa wobr Trysor Cudd Croeso Cymru yn 2023.