Fe wnaeth aelodau Cymdeithas yr Iaith adael hen garafán, â’r geiriau ‘Hawl i Gartref’ a symbol tafod y ddraig arni, tu allan i swyddfa’r Llywodraeth yng Nghaerfyrddin neithiwr (nos Iau, Hydref 24).
Roedd y weithred yn rhan o brotest y Gymdeithas yn erbyn y Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd y Llywodraeth, gafodd ei gyhoeddi ddoe.
Yn ôl y mudiad, mae’r Papur Gwyn yn rhy wan i fynd i’r afael â’r argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau Cymru.
‘Symbol o fethiant polisi tai’
“Bwriad y weithred heno yw gofyn yn symbolaidd i’r Llywodraeth a ydyn nhw’n disgwyl i lawer o’n pobol ifanc fyw mewn hen garafanau gan na allan nhw fforddio tai yn eu cymunedau,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith.
“Mae’n symbol hefyd o fethiant polisi tai Llywodraeth Cymru dros 25 mlynedd: anaddas, annigonol a thymor byr.
“Mae cymunedau ar hyd a lled Cymru’n wynebu argyfwng; mae teuluoedd a phobol ifanc yn cael eu gorfodi i adael oherwydd y bwlch cynyddol rhwng costau tai i’w rhentu neu brynu a chyflogau lleol.
“Yn lle cydnabod maint yr argyfwng a methiant y farchnad dai agored, mae ein Llywodraeth yn glynu at ymyriadau bychain fan hyn a fan draw.
“Sefydlu’r hawl i gartref trwy Ddeddf Eiddo drawsnewidiol, a sicrhau bod tai yn cael eu trin fel angen cymunedol yn lle asedau masnachol, yw’r unig ffordd i ddatrys yr argyfwng yma.
“Yn anffodus, nid yw cynlluniau’r Llywodraeth yn dod yn agos at hynny.”
‘Fframwaith clir a mesuradwy’
Mae Jayne Bryant, Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Thai Cymru, yn dweud bod y “Papur Gwyn yn nodi cynigion ar gyfer datblygu strategaeth dai hirdymor i ddarparu fframwaith clir a mesuradwy i gefnogi’r gwaith o ddarparu tai digonol i bawb”.
“Mae’r Papur Gwyn hwn yn gam arwyddocaol arall ymlaen ar ein taith flaengar tuag at ddarparu tai digonol i bawb yng Nghymru,” meddai.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i fwrw ymlaen â’r ystod eang o fesurau sy’n cwmpasu darparu tai digonol tai.”