Bydd Lee Waters yn gadael Senedd Cymru yn 2026.
Dywed yr Aelod Llafur o’r Senedd, oedd yn aelod o’r Llywodraeth tan bod Vaughan Gething wedi’i ethol yn Brif Weinidog, ei fod e wedi treulio hen ddigon o amser yn y byd gwleidyddol.
Bu’n Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac roedd yn allweddol wrth gyflwyno’r polisi 20m.y.a. sydd wedi bod yn hynod ddadleuol.
Daeth cadarnhad o’i benderfyniad i adael y Senedd mewn neges ar wefan LinkedIn, wrth iddo fe ddweud ei fod yn ystyried gwleidyddiaeth fel “gwasanaeth cyhoeddus” ac nid fel “gyrfa”.
Fe ddiolchodd i bobol Llanelli a Chwm Gwendraeth, gan ddweud bod eu gwasanaethu nhw “wedi bod yn fraint wirioneddol ac yn her enfawr”.
Bywyd a gyrfa
Mae Lee Waters yn hanu o Rydaman ac fe gafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Aman, ond mae e bellach yn byw ym Mro Morgannwg.
Astudiodd e Wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn ymuno â’r Blaid Lafur.
Cafodd ei benodi i swyddfa Ron Davies, oedd yn Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, ac fe fu’n rhedeg ei ymgyrch i ddod yn arweinydd Llafur Cymru yn 1998.
Fe weithiodd e i’r BBC am gyfnod, gan gynhyrchu newyddion radio, cyn symud i ITV Cymru yn Brif Ohebydd Gwleidyddol.
Cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Sustrans Cymru yn 2007, ac yna’n bennaeth y Sefydliad Materion Cymreig yn 2013.
Cafodd ei ethol i’r Senedd yn 2016, ac fe oroesodd e bleidlais hyder yn 2023 o ganlyniad i’r polisi 20m.y.a.