Anghofiwch News Agents a The Rest is Politics… mae podlediad Hiraeth am wleidyddiaeth Cymru wedi cymryd y fantell fel y podlediad gwleidyddol gorau.

Fe wnaeth cynulleidfa o ryw 85 o bobol fwynhau sgwrs fyw rhwng y cyflwynydd Matthew Hexter a Lee Waters, Aelod Llafur o’r Senedd dros Lanelli, yn Porters yng Nghaerdydd neithiwr (nos Iau, Hydref 24), lle datgelodd Waters na fydd yn sefyll eto ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026 – tipyn o sgŵp i’r podlediad hwnnw!

Roedd y digwyddiad yn gyfle i golwg360 siarad â rhai o’r unigolion tu ôl i’r podlediad llwyddiannus.

Hiraeth yn “llenwi bwlch”

Yn bersonol, roedd podlediad Hiraeth yn elfen bwysig o’m haddysg wrth astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru.

Bu Richard Martin a Matthew Hexter yn cyfrannu at fy ymchwil, oedd yn ffocysu ar ddiffyg gwybodaeth yng nghyd-destun y cyfryngau Cymreig. Ers hynny, dwi wedi medru troi fy angerdd yn swydd.

Ond wrth ddod i weld podlediad byw am wleidyddiaeth Cymru mewn lleoliad oedd mor llawn, roedd yn amser cyfleus i werthfawrogi’r hyn sydd gennym o fewn y cyfryngau gwleidyddol yng Nghymru.

“Bum mlynedd yn ôl, roedden ni [podlediad Hiraeth] jest yn meddwl llenwi’r bwlch lle doedd dim digon o drafodaethau ac adroddiadau yng Nghymru,” meddai Richard Martin, cynhyrchydd Hiraeth a rheolwr Canolfan Llywodraethant Cymru, wrth golwg360.

“Ac rydyn ni a That’s Devolved [cyfrif sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â datganoli], yn trio creu rhywbeth sydd yn creu diwylliant iachus.

“Dydyn ni ddim yn adrodd englynion neu rywbeth fel yna, ond mae beth rydym yn ei wneud yn bwysig.”

Gwell cynrychiolaeth i fenywod yn wleidyddiaeth

Y peth mwyaf adfywhaol am y noson oedd yr amryw o bobol – a phobol o bob oedran – oedd yn barod i drafod gwleidyddiaeth yng Nghymru.

“Mae pobl yn y ’stafell yma yn arweinwyr yfory. Mae rhaid i ni gael rhyw fath o ysbrydoliaeth ac uchelgais i’r bobol yma,” meddai Richard Martin.

“A dyma ydi gwleidyddiaeth – trafod y pynciau anodd efo pobol eraill, ac efallai y byddwch chi’n cytuno neu’n anghytuno, ond mae rhaid cael y ddadl.”

Er ei fod yn meddwl bod y noson wedi bod yn un lwyddiannus, mae modd gwella o ran cynrychiolaeth, meddai.

“Rwy’n edrych ar yr analytics, ac mae ond un ym mhob pump o wrandawyr yn fenywod.

“Mae rhaid i ni dorri’r traddodiad yna o fewn gwleidyddiaeth Cymru.

“Mae yna ofod ar gyfer arweinwyr sy’n fenywod yng Nghymru i lenwi’r bwlch yma.”