Mae gwaith ar yr A470 yn Nhalerddig wedi’i ohirio tan y flwyddyn newydd yn sgil y gwrthdrawiad rhwng dau drên ym Mhowys ddechrau’r wythnos hon.

Roedd disgwyl i’r gwaith ddechrau ar Hydref 31, ond mae’r penderfyniad i’w ohirio wedi’i wneud yn dilyn y gwrthdrawiad nos Lun (Hydref 21), pan fu farw un dyn.

Yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, gohirio’r gwaith yw’r “peth iawn i’w wneud ar hyn o bryd i roi amser i’r gymuned ddod i delerau â’r digwyddiadau trist”.

Dywed y byddai dechrau’r gwaith yn brydlon “wedi dod ag ansicrwydd ar adeg anodd”, ac y bydd amserlen newydd ar gyfer y gwaith yn cael ei chyhoeddi’n ddiweddarach.

Bydd goleuadau traffig ar y ffordd am weddill y flwyddyn, gydag un lôn ynghau, a bydd y ffordd yn cael ei monitro’n rheolaidd, meddai.

Rhagor o oedi yn dilyn gwrthdrawiad rhwng trenau

Tarodd dau drên yn erbyn ei gilydd ddydd Llun (Hydref 21)