Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi cynnig diweddariad ynghylch y gwrthdrawiad rhwng dau drên ym Mhowys ddydd Llun (Hydref 21).
Ar ôl i’r ymchwilwyr cyntaf ddweud ei bod hi’n ymddangos bod y trên wedi llithro wrth frecio, mae’r ddau gorff am atgoffa’r cyhoedd bod y digwyddiad yn dal i fod yn destun ymchwiliad y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd (RAIB) ar hyn o bryd.
Bydd lein y Cambrian rhwng Machynlleth ac Amwythig, lle digwyddodd y gwrthdrawiad, ar gau nes o leiaf ddiwedd y dydd fory (dydd Gwener, Hydref 25), wrth i waith adfer fynd yn ei flaen i glirio’r ddau drên.
Bydd gwasanaethau bws yn disodli’r gwasanaethau trên sydd wedi’u heffeithio.
Bydd gwasanaethau trên rhwng Machynlleth ac Aberystwyth a Phwllheli, yn ogystal â’r rheiny rhwng Amwythig a Birmingham International, yn parhau yn ôl yr arfer.
Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi diolch i aelodau’r gymuned leol am eu holl gefnogaeth.