Mae Senedd Cymru wedi pleidleisio yn erbyn yr egwyddor o roi cymorth i farw, yn dilyn pleidlais hanesyddol.
Pleidleisiodd Aelodau’r Senedd o 26 i 19, gyda naw yn atal eu pleidlais, yn erbyn cynnig nad oedd yn rhwymol, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r egwyddor.
Fe wrthododd y Senedd gynnig tebyg ddegawd yn ôl, ym mis Rhagfyr 2014.
Dywedodd Julie Morgan ei bod hi’n bwysig cynnal dadl ar y mater unwaith eto, yn wyneb Bil Cymorth i Farw Kim Leadbeater, gafodd ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf.
Derbyniodd Julie Morgan fod pwerau tros gymorth i farw wedi’u cadw gan San Steffan, ond tynnodd hi sylw at y ffaith fod y Senedd yn gyfrifol am iechyd, ac felly byddai’n rhaid i Gymru gyflwyno unrhyw gyfraith newydd.
‘Tosturi’
Fe wnaeth y gwleidydd Llafur dynnu ar filiau tebyg yn yr Alban, Ynys Manaw a Thŷ’r Arglwyddi, gyda Chynulliad Jersey wedi cymeradwyo cynlluniau mewn egwyddor eleni i gyfreithloni cymorth i farw.
Eglurodd fod 31 o ddeddfwrfeydd ledled y byd eisoes wedi cyfreithloni cymorth i farw, gan gynnwys Awstralia, yr Iseldiroedd a Chanada.
“Dw i’n credu bod angen i ni ddangos mwy o dosturi i’r bobol hynny sy’n methu goddef dioddef o salwch nad oes gwellhad ohono, ac sydd â dymuniad sefydlog i farw,” meddai Julie Morgan.
Dywedodd wrth y Senedd fod un person yn mynd i Dignitas neu ganolfan diwedd oes debyg yn y Swistir bob wyth diwrnod, ar gost gyfartalog o £10,000 i £15,000.
“Mae hyn yn golygu mai opsiwn ar gyfer y rhai cyfoethog yn unig yw e,” meddai.
‘Creulon’
Cyfeiriodd Julie Morgan at sylwadau Syr Max Hill, y cyn-Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, oedd wedi rhybuddio ei bod hi’n cymryd hyd at ddwy flynedd i benderfynu peidio erlyn perthnasau oedrannus.
“Dychmygwch hynny uwch eich pennau ar adeg o golled fawr,” meddai.
“Am gyfraith greulon; does bosib y gallwn ni wneud yn well na hynny?”
Cyfeiriodd y cyn-Aelod Seneddol at achos Sue Lawford o Gaerdydd, oedd wedi disgrifio’r erchylltra o gael ei harestio am fynd â Sharon Johnston i Dignitas o Aberteifi.
“Dydy’r gyfraith ddim yn glir, a dw i eisiau cyfraith fwy tosturiol, fel nad yw teuluoedd yn dioddef yn y modd yma… Dw i’n credu bod dyletswydd arnom i edrych i wneud hyn.”
Dywedodd Julie Morgan, sy’n cynrychioli Gogledd Caerdydd, wrth y Siambr fod barn y cyhoedd wedi newid, gyda mwyafrif bellach yn cefnogi cyfreithloni cymorth i farw.
‘Peryglus’
Ond roedd gan Joel James bryderon mawr am y cynnig, gan rybuddio y byddai newid y gyfraith yn gosod cynsail peryglus ac yn arwain at gyfres o ganlyniadau anfwriadol.
“Cafodd ei brofi droeon fod cyfreithiau cymorth i farw, pan fyddan nhw’n cael eu cyflwyno, yn arwain at broblemau, o orfodaeth gan berthnasau i ddewis a dethol meddygon penodol,” meddai.
Rhybuddiodd y Ceidwadwr am batrwm o ehangu’r meini prawf cymhwysedd, gyda rhai gwledydd yn ehangu cyfreithiau i gynnwys plant a’r rhai sydd ond yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.
Pleidleisiodd Delyth Jewell o Blaid Cymru yn erbyn y cynnig, gan ddweud wrth y Senedd mai ei “phryder gyda’r cynnig hwn – wel, fy ofn, mewn gwirionedd – yw, nid sut y bydd yn dechrau ond sut y bydd yn gorffen”.
Rhybuddiodd hi y gallai pobol gael eu rhoi dan bwysau i derfynu eu bywydau gan nad yw’r gofal diwedd oes angenrheidiol ar gael, neu maen nhw’n teimlo eu bo nhw’n faich.
‘Sacrosanct’
Dywedodd Delyth Jewell nad yw’r un warchodaeth yn sacrosanct, wrth iddi godi pryderon y gallai cymhwysedd gael ei ehangu i gynnwys iselder, anorecsia a chyflyrau eraill y gall pobol wella ohonyn nhw.
Fe wnaeth Mick Antoniw, aelod o’r meinciau cefn gymerodd ran yn y ddadl ddeng mlynedd yn ôl, gefnogi’r cynnig, gan awgrymu y bydd angen caniatâd deddfwriaethol y Senedd ar rannau o’r bil.
Rhybuddiodd Sam Rowlands, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod y cynnig yn anfon neges nad oes gan bob bywyd yr un lefel o werth mewn cymdeithas.
Fe wnaeth Lee Waters o’r Blaid Lafur dorri ar ei draws, gan ofyn, “Os ydyn ni’n rhoi gwerth ar bob bywyd, does bosib ein bod ni’n gwerthfawrogi hawl unigolion i wneud dewisiadau am eu bywydau a sut mae eu bywydau’n dod i ben?”
Fe wnaeth Sam Rowlands gwestiynu a oes yna ddewis gwirioneddol, gan rybuddio y gallai’r hawl i farw ddod yn ddyletswydd, a chan awgrymu y bydd y gyfraith yn cael ei herio yn y llysoedd ar sail mynediad cyfartal.
‘Goblygiadau enfawr’
Dywedodd Rhys ab Owen, Aelod Annibynnol, wrth y Senedd fod ei dad, y cyn-Aelod o’r Senedd Owen John Thomas, wedi marw ym mis Mai ar ôl bod yn byw ag Alzheimer ers deuddeg mlynedd.
“Roedden nhw’n flynyddoedd creulon,” meddai.
“Roedden nhw’n greulon i ni fel teulu, a does dim geiriau i ddisgrifio pa mor greulon oedd y profiad iddo fe.
“Pwy ydyn ni, pwy ydw i, i orfodi unrhyw berson i fyw drwy’r profiad hwnnw os nad ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny?”
Dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar fod cyfreithloni cymorth i farw’n llawn peryglon, wrth iddo fe alw am fuddsoddi mewn gofal diwedd oes, gyda hosbisau’n wynebu argyfwng ariannol ar hyn o bryd.
Wrth ymateb i’r ddadl ddoe (dydd Mercher, Hydref 23), cadarnhaodd Jeremy Miles y byddai ei gydweithwyr yn y Cabinet ac aelodau meinciau cefn Llafur yn cael pleidlais rydd ar fater o gydwybod.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, gafodd ei benodi fis diwethaf, nad yw cymorth i farw wedi’i ddatganoli i’r Senedd, ond fod gan filiau San Steffan “oblygiadau enfawr” i Gymru os ydyn nhw’n cael eu pasio.
‘Dioddef’
Dywedodd James Evans wrth y Senedd ei fod e wedi mentro i’r byd gwleidyddol oherwydd ei fam-gu, oedd â dementia ac a ddioddefodd strôc, gan ei gadael hi’n anabl heb ansawdd uchel.
Dywedodd James Evans, oedd wedi cyd-gyflwyno’r bil, fod ei dad-cu wedi cael ei fygwth ag erlyniad am ddynladdiad pe na bai’n gadael i’w bywyd ddod i ben yn naturiol.
“Fe wnaeth fy nhad-cu ddifaru am weddill ei oes y penderfyniad roedd yn rhaid iddo fe ei wneud bryd hynny i ymestyn bywyd fy mam-gu,” meddai.
“Fe wnes i addo i’r ddau ohonyn nhw na fyddwn i fyth yn gadael i unrhyw un ddioddef felly eto, a dyna pam fy mod i’n cefnogi hwn heddiw.”
Wrth gloi’r ddadl, cyfeiriodd y Ceidwadwr at sylwadau gŵr oedd wedi gwylio’i wraig yn llwgu i farwolaeth am nad oedd hi eisiau i’w hanwyliaid wynebu’r perygl o gael eu herlyn.
“Dioddefodd hi am wythnos gyfan, bron, gan lwgu heb yfed, am ei bod hi eisiau terfynu ei bywyd,” meddai.
“Does dim byd crefyddol foesol am hynny.
“Dioddefaint yw hynny… ddylai neb orfod terfynu eu bywyd yn y modd hwnnw.”