Ar drothwy dadl hanesyddol yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Hydref 23), mae golwg360 wedi bod yn holi gwleidyddion ac ymgyrchwyr o blaid ac yn erbyn cymorth i farw.
Roedd ystadegau ar ddechrau’r flwyddyn yn dangos bod 75% o bobol yn cefnogi ei gwneud hi’n gyfreithlon i roi cymorth i rywun farw.
Mae dwy ochr y ddadl emosiynol yn mynnu “tegwch” – tegwch ar un ochr i roi’r hawl i rywun ddewis pryd a sut i farw, a thegwch ar yr ochr arall bod bywyd ei hun yn “sanctaidd” a bod newid y gyfraith yn debygol o gael effaith hirdymor anfwriadol.
Bydd y Senedd yn trafod cynnig sy’n cefnogi egwyddorion cymorth i farw, ac yn pleidleisio ar gefnogi San Steffan i gyflwyno deddf dosturiol o ran cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr.
Angen cyfraith sy’n “fwy trugarog”
Mae’r cynnig yn cael ei gyflwyno gan Julie Morgan, Aelod Llafur o’r Senedd dros Ogledd Caerdydd, fu’n siarad â golwg360 yn y Senedd ar drothwy’r ddadl.
“Mae’n bwysig iawn fod mater sy’n bwysig i gymaint o bobol yn cael ei drafod yng nghorff etholiadol democrataidd Cymru,” meddai Julie Morgan.
“Oherwydd dyma lle mae angen trafodaethau a dadleuon arnom ynglŷn â phenderfyniadau sydd mor bwysig.
“Dw i’n credu hefyd y gallen ni gael cyfraith sydd llawer mwy trugarog na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd.”
Dywed Mick Antoniw, yr Aelod Llafur dros Bontypridd, ei fod yn cydymdeimlo bod hwn yn fater mor “emosiynol a sensitif”, ond ei fod yn teimlo bod y dystiolaeth yn cefnogi’r cynnig.
“Wnaethon ni ddadlau ar yr union bwnc yma ddeng mlynedd yn ôl,” meddai wrth golwg360.
“Ac fe ddes i i mewn i’r ddadl yn gefnogol, ond yn y diwedd pleidleisiais yn erbyn y cynnig gan fy mod yn credu bod angen mwy o amser i feddwl sut i reoli darpariaeth cymorth i farw mewn ffordd sy’n diogelu pobol.
“Dw i’n meddwl ein bod ni nawr yn edrych ar hyn o safbwynt categori bach o bobol – rhai sydd wedi cael diagnosis o fod yn derfynol sâl.”
Y gyfraith bresennol
Ar hyn o bryd, mae’r gyfraith yn datgan ei bod yn anghyfreithlon rhoi cymorth i rywun farw.
Mae’r ddeddfwriaeth sydd yn cael ei chynnig ar hyn o bryd yn San Steffan yn trafod rhoi cymorth i bobol sydd â salwch terfynol i farw, ond does amserlen bendant o ran pryd allai hyn gael ei gytuno.
O dan y ddeddfwriaeth, byddai pobol yn gallu defnyddio cyffuriau sy’n cael eu rhoi gan feddyg i ddod â’u bywyd i ben.
Does gan y Senedd ddim pwerau uniongyrchol dros yr hawl i farw, ond gan fod iechyd wedi’i ddatganoli mae’r ddadl heddiw yn un hanesyddol arwyddocaol, ac o ran yr egwyddor y bydd y Senedd yn ei fabwysiadu.
‘Llwybr llithrig’
Er bod ystadegau yn dangos mai dim ond 15% o bobol yng ngwledydd Prydain sydd yn erbyn cyflwyno cyfraith i alluogi cymorth i farw, bu nifer o ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu yn y Senedd hefyd.
Ymhlith y grwpiau hyn mae Christian Concern, fu’n protestio tu allan i’r Senedd â cherrig beddau yn dangos ystadegau sy’n cyfleu peryglon cyfreithloni cymorth i farw.
Yn ôl yr ystadegau hynny, mae 5.4% o’r holl farwolaethau yn yr Iseldiroedd bob blwyddyn o ganlyniad i ewthanasia, lle mae doctor yn terfynu bywyd rhywun, sy’n wahanol i roi cymorth i rywun farw.
Yn ôl un o ymgyrchwyr Christian Concern, dyma sy’n crisialu ei phryderon hi.
“Mae e’n llwybr llithrig,” meddai Carys Moseley wrth golwg360.
“Rydyn ni eisiau parhau i warchod bywyd.
“Y risg yw y bydd ein diwylliant yn dod yn un o angau.
“Mae Kim Leadbeater [yr Aelod Seneddol sydd wedi cyflwyno’r cynnig yn San Steffan] yn gwadu bod hyn yn wir.
“Ond mae 38 o Aelodau Seneddol o’i phlaid ei hun yn cefnogi ehangu’r meini prawf, ond dydyn nhw ddim wedi cyflwyno testunau eu gwelliant i’r mesur eto.”
Dywed Carys Moseley fod yr ymgyrch yn rhoi cyfle i bobol “ystyried” yr hyn mae cyfreithloni cymorth i farw wir yn ei olygu.
Ond mae yna resymau gwleidyddol dan yr wyneb hefyd, gyda Carys Moseley yn dadlau y byddai cyfreithloni cymorth i farw yn “tanseilio” gwaith yn y maes iechyd yma yng Nghymru.
“Dw i ddim yn gwybod beth ar wyneb y ddaear mae Julie Morgan yn ei wneud yn ceisio cefnogi’r mesur i newid y gyfraith, achos bydd hyn yn tanseilio gwaith iechyd a gofal yng Nghymru,” meddai.
“Mwyaf manwl yw’r cwestiynau, y mwyaf mae pobol yn dechrau cael amheuon,” meddai wrth drafod yr arolygon barn, gan rybuddio bod angen bod yn ofalus.
“Cyfyngder” yw’r boen fwyaf nad oes modd ei stopio
Ond i gefnogwyr y ddeddfwriaeth, fel Trevor Moore, mae’r ddadl heddiw yn “achlysur enfawr”.
Dywed cadeirydd grŵp My Death, My Decision wrth golwg360 fod y grŵp wedi bod “yn ymgyrchu dros gymorth trugarog i farw ers amser hir”.
“Rydym i gyd yn gwneud penderfyniadau ar agweddau eraill o’n triniaeth,” meddai.
“Yn wir, rydym yn gallu gwrthod triniaeth i gynnal bywyd, ac mae rhaid i ddoctoriaid barchu hynny, felly ydy o lawer mwy i ofyn eu bod nhw’n helpu i ddod â dioddefaint diangen i ben?”
Yn ôl Trevor Moore, oedd wedi gweld ei fam-yng-nghyfraith yn wynebu marwolaeth boenus, mae’n llawer mwy na “dim ond gwella gofal lliniarol”.
Yn hytrach, mae’n defnyddio’r gair “cyfyngder” i ddisgrifio’r boen nad oes modd ei stopio.
“Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau’r Senedd yn gallu gweld hyn, ac yn teimlo’i fod o’n rywbeth y byddan nhw yn gallu ei gymeradwyo.”
Un arall sy’n cefnogi’r ddadl oedd Tim Leyshon, sy’n byw yn Sir Fynwy.
“Dw i’n cefnogi, oherwydd os oes gan rywun boen fawr, dylsen nhw gael y gallu i bennu eu bywyd,” meddai wrth golwg360.
“Achos, ar hyn o bryd, mae pobol mewn poen ofnadwy ac mae eu teulu nhw’n gorfod eu gweld nhw yn y boen yma.”
Dywed ei bod yn “annheg” fod pobol ar hyn o bryd yn gorfod mynd i’r Swistir, lle mae’n gallu costio dros £10,000 i ddod â’u bywydau i ben.
“Yn y pen draw, ni ddylai allu bod yn gyfrifol i ddewis sut mae ein bywydau ni’n bennu,” meddai.
Dywed Julie Morgan fod y ddadl heddiw “yn un dda” er mwyn “clywed beth sydd gan bobol i’w ddweud, ac i gymryd hynny ymlaen”.
Ychwanega nad yw hi’n gwybod beth fydd yn digwydd nesaf, gan fod y pleidiau wedi cytuno ar bleidlais rydd heb eu chwipio, ac nad oes “neb yn gofyn i bobol beth maen nhw’n ei feddwl”.
- Dilynwch Rhys Owen am y newyddion diweddaraf o’r Senedd wrth i’r ddadl fynd rhagddi.