Mae Ysgol Tryfan ym Mangor wedi cau ei drysau oherwydd llygod mawr.

Mewn llythyr sydd wedi’i weld gan golwg360, dywed yr ysgol eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad i gau’r ysgol ddydd Iau (Hydref 24) yn dilyn trafodaethau â swyddogion o Adran Amgylchedd y Cyngor Sir.

Y gobaith yw y bydd modd ailagor yr ysgol ar ôl hanner tymor, ar Dachwedd 4.

Mae dydd Gwener (Hydref 25) yn ddiwrnod hyfforddiant staff, ac felly bydd yr ysgol ynghau beth bynnag.

“Credwn ei bod yn briodol i ni gau ddiwrnod ynghynt er mwyn delio’n llawn gyda’r broblem ar unwaith, fel y gallwn ailagor yn dilyn gwyliau’r hanner tymor, ddydd Llun 04/11/24,” meddai’r ysgol yn y llythyr.