Mae’r Gwasanaeth Iechyd am dderbyn £28m o gyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn lleihau’r amseroedd aros hiraf.
Heddiw (dydd Iau, Hydref 24), bydd Jeremy Miles, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn ymweld ag Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, lle mae ymdrechion ar y gweill i weithredu ar oedi.
Yno, bydd yn cyhoeddi’r £28m o gymorth i’r Gwasanaeth Iechyd.
Dywed fod “lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth genedlaethol – i bobol ledled Cymru, i ni, ac i’r Gwasanaeth Iechyd”.
‘Targedu’r amseroedd hiraf’
Pwrpas y cyllid ydy talu am apwyntiadau ychwanegol gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Bydd hefyd yn ceisio gwella darpariaeth ranbarthol mewn meysydd arbenigol, gan gynnwys orthopedeg, offthalmoleg, llawdriniaeth gyffredinol, a gynecoleg.
Yn ogystal, bydd canllawiau newydd yn cael eu cyflwyno fydd yn lleihau nifer yr apwyntiadau dilynol mae cleifion yn eu cael.
Mae’r rhain yn cael eu trefnu’n awtomatig ar hyn o bryd, er eu bod nhw’n aml yn ddiangen.
Yn ôl Jeremy Miles, bydd hyn i gyd yn “cynyddu capasiti”, ac felly’n galluogi “mwy o bobol i gael eu gweld a’u trin y tu allan i oriau a thrwy fwy o weithio’n rhanbarthol”.
“Mae hwn yn gyllid ychwanegol, ar ben yr arian adfer rydyn ni’n ei roi bob blwyddyn, i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i leihau’r arosiadau hiraf a gwella mynediad at ofal wedi’i gynllunio,” meddai.
Uned Llawenarth
Yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, mae timau Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn bwriadu sôn wrth yr Ysgrifennydd Iechyd am eu cynlluniau i fynd i’r afael ag amseroedd aros, diolch i’r cyllid newydd.
Bydd Uned Llawenarth, er enghraifft, yn dod yn ganolfan cataractau ranbarthol, ac mae ei sefydlu wedi golygu bod angen llai a llai o arosiadau hir yn y rhanbarth.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y buddsoddiad sylweddol hwn, fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran lleihau amseroedd aros i gleifion ledled Gwent,” meddai Nicola Prygodzicz, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Yn ôl Jeremy Miles, “mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gweithio’n galed iawn i leihau’r ôl-groniad o achosion, a gynyddodd yn ystod y pandemig”.