Gobaith elusen newydd yw “creu byddin o gogyddion” i newid y ffordd mae pobol ledled Cymru’n meddwl am fwyta ac am fwyd.

Bydd Cegin y Bobl yn estyniad o waith sydd wedi bod ar y gweill yn Sir Gaerfyrddin i gynnal cyrsiau coginio a bwyd gyda grwpiau cymunedol ac oddeutu 500 o blant.

Yno, mae grwpiau, disgyblion ysgol ac athrawon wedi bod yn dysgu mwy am fwyd gan gogyddion proffesiynol.

Fe wnaeth y prosiect yng Nghaerfyrddin arwain at gyn-ddefnyddwyr banciau bwyd yn magu’r hyder a’r sgiliau i goginio hefyd.

Menter gan gogyddion megis Simon Wright a Carwyn Graves yw Cegin y Bobl, a bydd yr elusen yn cael ei lansio yn yr Eglwys Norwyeg ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Iau, Hydref 24).

Mae Carwyn Graves yn arbenigwr ar hanes bwyd ac yn un o sylfaenwyr yr elusen, ac mae wedi cyhoeddi cyfrolau gan gynnwys Tir: The Story of the Welsh Landscape a Welsh Food Stories.

Dywed fod y prosiect yn Sir Gaerfyrddin wedi dechrau fel model i hyfforddi pobol ar gyfer y byd gwaith o fewn lletygarwch, gan fanteisio ar gogyddion proffesiynol.

“Pam ddim defnyddio pobol sy’n rhedeg bwytai llwyddiannus, sy’n gwneud bwyd lleol a fforddiadwy a blasus, i hyfforddi pobol?” meddai wrth golwg360.

“Wrth i hynny ddigwydd, dyma nhw’n dechrau cael gwahoddiadau i fynd mewn a rhedeg yr un mathau o gyrsiau i’r cyhoedd – i grwpiau cymunedol, goroeswyr trais domestig…

“Erbyn hyn, beth sydd wedi datblygu yw cyrsiau gyda banciau bwyd a phobol sydd mewn creisis neu sefyllfa ansefydlog.

“Mae hwnna wedi bod yn syfrdanol o lwyddiannus – mwy nag oedd neb yn ddisgwyl.

“Erbyn y diwedd, dydy deg allan o ddeuddeg cohort y grŵp yn Llanelli yn yr haf ddim angen y banc bwyd mwyach.

“Mae dau brif reswm am hynny; mae’r sgiliau yn rhan o’r peth, ond hefyd yr hyder i allu dweud, ‘Dw i’n gwybod sut i wneud hyn’.”

Y cogydd Simon Wright, sy’n cadw Wright’s Food Emporium yn Llanarthne, yw un o sylfaenwyr Cegin y Bobl

‘Newid agwedd plant’

Mae Cook24 wedi bod yn gweithio gyda phlant mor ifanc â chwech a saith oed mewn ysgolion, gan gyflwyno cyrsiau chwe wythnos iddyn nhw ar fwyd a choginio.

“Beth oedd neb yn disgwyl yw bod e wedi gwirioneddol newid agwedd llawer iawn o’r plant, a hyd yn oed rhieni, tuag at fwyd ffres,” meddai Carwyn Graves, gan ddweud bod cogyddion megis Polly Baldwin, Jen Goss a Simon Wright yn rhan o’r gwaith.

“Mae’r athrawon, yr ysgolion, y Cyngor Sir, y grwpiau cymunedol wedi dweud, fwy neu lai, ein bod ni’n methu gadael i hyn ddod i ben pan fydd arian y prosiect – sef £1m dan Ffyniant Bro – yn dod i ben.

“Os yw e’n gwneud y fath wahaniaeth yma yn Sir Gâr, pam na allai e weithio yn unrhyw le yng Nghymru?

“Dydyn ni ddim yma i ddweud wrth bobol beth i’w fwyta, ond dw i’n meddwl ei bod hi’n deg i ddweud ein bod ni’n canolbwyntio ar bethau ffres, eu bod nhw’n lleol lle bynnag bo hynny’n bosib, a bod digon o lysiau.

“Y cwestiwn yw, sut mae gwneud y llysiau hynny’n ddeniadol ac yn flasus ac yn fforddiadwy ac yn y blaen; rydyn ni yn gwthio’r neges yna, ond mewn ffordd [hwyliog].”

Y gogyddes Pally Baldwin yn coginio ar dân

Gadael gwaddol

Dywed Carwyn Graves fod Barny Haughton, cogydd o Fryste sydd wedi derbyn MBE am ei waith yn addysgu pobol am fwyd, wedi symud ei fywyd i orllewin Cymru er mwyn bod yn rhan o’r gwaith.

“Mae e’n gweld bod hyn yn mynd yn gyflymach ac yn bellach yma nag oedd e wedi gweld yn digwydd yn Lloegr,” meddai Carwyn Graves.

Syniad Barny Haughton yw ‘Arweinyddiaeth Bwyd’, sy’n golygu bod rhaid gwneud mwy na rhoi chwe wythnos o gwrs i blant er mwyn gwneud newid.

“Mae tua 60 neu 70 o athrawon y sir wedi cael wythnos allan o’r ysgol yn gwneud hyfforddiant mewn swydd gyda ni,” meddai Carwyn Graves.

“Maen nhw wedi cael y sgiliau wrth y cogyddion yma, a dysgu sut allen nhw gymryd rhywbeth fel torth o fara neu afalau a dysgu’r cwricwlwm cyfan, ar unrhyw lefel yn yr ysgol, drwy’r bwydydd hyn.

“Wedyn maen nhw’n gadael yn deall os ydyn ni’n rhoi bwyd yn y canol, rydyn ni’n gallu gwneud gymaint o ddaioni o ran yr economi, yr amgylchedd, iechyd, iechyd meddwl…”

Carwyn Graves

‘Gwahaniaeth anhygoel’

Ychwanega Jen Goss, cogydd o Aberteifi, eu bod nhw wedi cael plant mor ifanc â saith oed yn gweithio gyda chyllyll miniog a gwres uchel i greu pryd bwyd blasus gyda chynhwysion syml, lleol.

“Mae’r gwahaniaeth mae wedi gwneud wedi bod yn anhygoel,” meddai.

“Mae llawer o’r plant bellach yn fodlon blasu bwydydd newydd, y rhieni’n dweud bod y profiad wedi newid perthynas y plant â bwyd yn gyfangwbl, ac athrawon wedi gweld agwedd plant yn newid yn llwyr.”

Mae Cegin y Bobl wrthi’n codi arian er mwyn gallu cyflwyno’r gwaith ledled y wlad.

Maen nhw wedi codi bron i £25,000 hyd yn hyn, ond er mwyn sicrhau dyfodol yr elusen mae angen iddyn nhw godi £250,000 erbyn y Nadolig.