Dw i wrth fy modd efo Ynys Môn – y cefn gwlad diddiwedd, yr arfordir hardd a’r cysur o fod adref. Môn yw fy angor i. Ond nawr, bob wythnos, dw i’n cael fy ngalw i wneud y daith i Lundain, wrth newid bywyd tawel yr Ynys am sŵn a phrysurdeb San Steffan.
Wrth i’r trên ddechrau cyflymu, mae fy meddwl yn gwneud yr un peth. Mae gadael yr Ynys yn dod â theimlad o hiraeth bob tro; teimlad nad ydw i byth yn dod i arfer ag o. Mae agosatrwydd Ynys Môn yn diflannu’n sydyn wrth i arfordir gogledd Cymru gael ei newid gan fwrlwm anghyfarwydd dinasoedd de Lloegr.
‘Llawn hanes, ac eto’n gaeth i draddodiad’
Mae’r Senedd yn fyd hollol wahanol – yn llawn hanes, ac eto’n gaeth i draddodiad. Gyda’i gweithdrefnau hynafol, mae fel rhywbeth o oes arall. Oes, mae yna deimlad o ddifrifoldeb a gwerth i fod yma, ond gall hefyd deimlo’n eithaf datgysylltiedig o realiti bywyd bob dydd yn fy nghymuned. Yn ddiweddar, rwy’ wedi ymuno ag APPGs, sy’n sefyll am ‘Grwpiau seneddol hollbleidiol’. Mae’r grwpiau hyn yn caniatáu i mi archwilio polisi a gofyn cwestiynau am sectorau penodol. Ar hyn o bryd, rwy’ wedi ymuno â thri grŵp, sef Niwclear, Twristiaeth ac Ynni Morol. Mae’r rhain i gyd yn sectorau hanfodol i Ynys Môn, ac rwy’ wedi cyffroi o gyfrannu a sicrhau y bydd ein cymuned yn elwa’n uniongyrchol yn y sectorau hyn.
Mae Llundain yn ddinas llawn bywyd, yn symud ac yn esblygu’n ddi-stop, y strydoedd llawn pobol o bedwar ban byd. Mae’r adeiladau’n ymestyn yn ddiddiwedd i’r cymylau, gyda datblygiadau newydd yn cael eu hadeiladu’n ddyddiol. Mae yna deimlad o egni a chyfle yma, lle mae pob cornel yn gaddo rywbeth newydd a chyffrous. Mae’n le deinamig, gyda siopau llawn cwsmeriaid, y caffis bob amser yn brysur, a phobol yn edrych ymlaen at y peth mawr nesaf. Ond yng nghanol yr holl weithgarwch, mae’n hawdd teimlo bod rhannau eraill o’r wlad yn cael eu gadael tu ôl.
‘Stori wahanol i drefi Ynys Môn’
Tra bod dinasoedd fel Llundain yn ffynnu, gyda buddsoddiad yn arllwys i mewn a phrosiectau newydd yn cael eu lansio yn gyson, gall y stori fod yn wahanol i drefi Ynys Môn. Wrth gerdded trwy strydoedd tawel Amlwch neu Gaergybi, mae’r cyferbyniad yn anodd ei anwybyddu. Mae’r diffyg egni a gwefr sy’n tanio Llundain yn amlwg. Nid bod yr ynys heb botensial o bell ffordd, ond mae gwir angen mwy o fuddsoddiad a chyfleoedd i roi bywyd newydd i’n cymunedau.
Er gwaetha’r heriau, mae pob rheswm i ni yn Ynys Môn aros yn bositif. Gyda phrosiectau ynni adnewyddadwy byd-enwog fel Morlais, mae Môn Mam Cymru ar y map ac yn arwydd neu’n symbol o botensial gwych ein hynys. Rwy’ wedi ymrwymo i bobol Ynys Môn ac rwy’ am sicrhau dyfodol mwy disglair i bob un ohonom.
Yn fy 100 diwrnod cyntaf, rydw i wedi cael fy syfrdanu gan y gefnogaeth a charedigrwydd. Mae unigrywiaeth ein cymuned yn rhywbeth arbennig, ac mae’n fy ysgogi bob dydd i weithio’n galetach dros ein hynys. Mae gennym gymaint i fod yn falch ohono, a hyd yn oed mwy i edrych ymlaen ato.
Ar gyfer unrhyw gwestiynau neu bryderon, gallwch fy nghyrraedd ar llinos.medi.mp@parliament.uk. Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i wneud Ynys Môn yn le rydym i gyd yn ei adnabod ac yn ei garu.