Bydd Anthony Slaughter yn cael trydydd tymor yn arweinydd ar y Blaid Werdd yng Nghymru, wrth i’r blaid anelu i gael Aelod yn y Senedd am y tro cyntaf.
Cafodd ei ethol unwaith eto gan aelodau’r blaid, gyda Philip Davies a Linda Rogers wedi’u hethol yn ddirprwy arweinwyr.
Dywed Slaughter ei fod e’n “falch ac wedi cyffroi” o gael ei ethol unwaith eto.
“Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio â’n hymgyrchwyr a’n haelodau ledled Cymru i dyfu’r blaid a thorri drwodd i’r Senedd,” meddai.
“Mae ein hail safle hanesyddol yn Ne Caerdydd a Phenarth yn yr etholiad cyffredinol yn dangos ein bod ni ar fin cyflawni hyn.
“Dw i eisiau llongyfarch Philip Davies a Linda Rogers ar eu hethol yn ddirprwy arweinwyr.
“Gyda’i gilydd, maen nhw’n dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth i’r tîm arweinyddol, a byddan nhw’n chwarae rhan hanfodol yn ein hymgyrch ar gyfer y Senedd yn 2026.”
Dirprwy arweinwyr
Dywed Linda Rogers ei bod hi “wedi cyffroi” o gael cydweithio â “grymoedd blaengar” y Blaid Werdd yng Nghymru.
“Yn yr amseroedd tymhestlog hyn sy’n newid yn gyflym iawn, dw i’n edrych ymlaen at gydweithio â’n cymunedau i greu dyfodol sy’n addas i’n pobol ifanc, yma a ledled y byd,” meddai.
Dywed Philip Davies ei fod yntau hefyd yn “falch” o fod wedi cael ei ethol.
“Dw i’n edrych ymlaen at barhau i weithio’n galed gyda gweddill y tîm i dyfu’r blaid ym mhob cymuned ledled Cymru,” meddai.
“Mae’r niferoedd isel bleidleisiodd yn etholiad diwethaf San Steffan yn dangos bod pobol Cymru wedi diflasu gyda phleidiau ‘yr un hen drefn’, a’u bod nhw’n ceisio opsiwn amgen positif.
“Gallwn ni, ac mi fyddwn ni yn torri trwodd yn etholiadau’r Senedd yn 2026, gan gynnig y weledigaeth bositif hono ar gyfer dyfodol gwell i bawb.”