Wrth i Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ddathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed fis nesaf, mae yna alwad yr wythnos hon – yr Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol (Hydref 21-27) – ar i ragor o bobol ystyried mabwysiadu plant.
Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae’r Gwasanaeth wedi helpu i leoli 3,000 o blant gyda 2,300 o deuluoedd, ac wedi cynnig cefnogaeth a chyngor drwy gydol y broses i’r rheiny sy’n mabwysiadu.
Codi ymwybyddiaeth a rhannu profiadau
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu’n cynnig cymorth ac adnoddau i deuluoedd neu aelwydydd sy’n ystyried mabwysiadu, ac i gefnogi plant sydd wedi’u mabwysiadu.
Maen nhw’n cydlynu holl asiantaethau llai ac awdurdodau lleol Cymru, ac yn rhan allweddol o’r broses o leoli plant a recriwtio ac asesu pobol sy’n ystyried mabwysiadu.
Ymhlith eu gwasanaethau mae fframwaith ‘gwaith taith bywyd’, sydd yn helpu plant sydd wedi cael eu mabwysiadu i ddeall eu hunaniaeth.
Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cynnig cymorth i bobol gael mynediad i’w cofnodion geni ac i olrhain perthnasau coll neu deuluoedd geni.
Mae’r Gwasanaeth a’u partneriaid yn gwneud ymdrech i godi ymwybyddiaeth ac i ateb cwestiynau’r cyhoedd am fabwysiadu, fel bod y rheiny sy’n ystyried y broses yn cael clywed cyngor gan bobol sydd â phrofiadau tebyg.
Yn y podlediad Truth Be Told, sydd wedi ennill gwobrau di-ri, mae rhieni a phlant yn cael cyfle i rannu’u profiadau a’r heriau maen nhw wedi’u hwynebu wrth fabwysiadu neu wrth gael eu mabwysiadu.
‘Ar eich liwt eich hunan’
Yn ogystal, mae’r Gwasanaeth a’u partneriaid yn trefnu nosweithiau gwybodaeth ar gyfer pobol sy’n ystyried mabwysiadu.
Mynychu noson wybodaeth oedd cychwyn taith Guto a’i ŵr tuag at fabwysiadu eu mab.
Yn ôl Guto, mae’r broses o fabwysiadu yn un “hynod bositif” ac yn un “i’w glodfori”.
“Roedd clywed straeon gan deuluoedd gwahanol yn hynod gadarnhaol ac yn gysur drwy gydol y broses,” meddai wrth golwg360.
Wedi’r noson wybodaeth, fe benderfynodd Guto a’i ŵr oedi am ddwy flynedd cyn mynd ati i fabwysiadu, am nad oedden nhw wedi gwneud popeth roedden nhw’n dymuno ei wneud fel cwpwl heb blant.
Roedd yn werthfawr cael deall nad oedd unrhyw bwysau amser ar fabwysiadu, meddai, a’u bod nhw’n medru cymryd pob cam pan oedden nhw’n barod i’w cymryd.
“Un o’r mythau sydd i’w cael o amgylch mabwysiadu yw’r syniad yma eich bod chi’n sownd at y broses unwaith dych chi wedi cychwyn arni, bod rhyw fath o effaith belen eira.
“Ond y gwir ydy, rydych chi’n medru mynd drwy’r broses ar eich liwt eich hunan, ar eich cyflymder eich hunan – a dych chi’n medru rhoi saib i’r broses pryd bynnag dych chi’n dymuno.”
Teuluoedd amrywiol
Mae’r teuluoedd sy’n mabwysiadu yng Nghymru heddiw’n fwy amrywiol nag erioed o’r blaen, yn ôl Cyfarwyddwr y Gwasanaeth.
“Yn y ddeng mlynedd ers sefydlu’r gwasanaeth, rydym wedi ymateb i dueddiadau newidiol o fewn y maes mabwysiadu a gwasanaethau cymdeithasol,” meddai Suzanne Griffiths.
“Mae nifer y plant ag anghenion cymhleth rydym bellach yn eu cefnogi wedi cynyddu, ynghyd â nifer y grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant hŷn.
“Mae’r gronfa o ddarpar fabwysiadwyr rydyn ni’n eu cefnogi hefyd wedi newid.
“Rydym yn gweld llawer mwy o fabwysiadwyr LHDTC+, gyda chwarter y mabwysiadau yng Nghymru bellach gan gyplau o’r un rhyw, o gymharu â dim ond un ym mhob deg yn 2012.
“Rydym hefyd yn gweld mwy o fabwysiadwyr un rhiant, ac amrywiaeth ehangach o oedrannau ymhlith y rheiny sy’n dechrau ar eu taith fabwysiadu.”
Mabwysiadu drwy’r Gymraeg
Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cynnig cymorth i rieni sydd am fagu plant mabwysiedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae gan y Gwasanaeth grŵp cefnogaeth ar gyfer rhieni sy’n siarad Cymraeg, ac maen nhw’n darparu adnoddau Cymraeg megis llyfrau i rieni gael esbonio mabwysiadu i’w plant.
Maen nhw hefyd yn gwneud ymdrech i leoli plant sydd ddim eto’n medru siarad mewn aelwydydd Cymraeg sy’n dymuno hynny, er mwyn hwyluso’r broses drochi.
Dywed Guto, oedd wedi mabwysiadu’i fab gan rieni geni di-Gymraeg, fod gallu ieithyddol wedi bod yn bryder yn ystod y broses fabwysiadu, ond fod cymorth y Gwasanaeth yn gysur.
“Un o’r pethau pwysig ar ein cyfer ni fel teulu oedd ein bod ni’n cael plentyn oedd yn ddigon ifanc fel bodd modd ei drochi fe mewn iaith ar wahân i Saesneg.
“Tŷ Cymraeg ydyn ni, a dyn ni moyn magu ein plentyn drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Roedd y ffaith ei fod e’r oed yna’n golygu’n bod ni’n gallu ei drochi fe yn y Gymraeg.
“Gaethon ni gyngor gan y Gwasanaeth am sut i drafod ein pryderon ni am y Gymraeg gyda’r asiantaeth aethon ni drwyddi, oherwydd dydy nifer o asiantaethau llai ddim yn adnabod pam fyddai hynny’n ofid teilwng.”
Yn sgil y cyngor hwn, fe lwyddodd Guto i gael magu’i fab yn siarad Cymraeg.
“A chwarae teg iddo fe, mae wedi codi pethau’n hynod gyflym ac yn gwneud cynnydd gwych.
Yn ôl Suzanne Griffiths, maen nhw’n “annog ceisiadau gan fabwysiadwyr Cymraeg-eu-hiaith”.
Ddylai iaith yr aelwyd ddim bod yn rhwystr i fedru mabwysiadu, meddai.
Casglu gwybodaeth yw’r cam cyntaf
Mae Suzanne Griffiths yn pwysleisio mai “un opsiwn” ymhlith nifer ydy mabwysiadu.
“Dewis personol ydy benthyg croth neu ddefnyddio technoleg IVF yn hytrach na mabwysiadu,” meddai wrth golwg360.
“Ond, os oes gan bobol ddiddordeb mewn mabwysiadu, mae’r wybodaeth gennym ni yma.”
Neges debyg sydd gan Guto hefyd.
“Mae ystyried mabwysiadu’n medru bod yn beth brawychus iawn.
“Roedd y broses yn hynod gadarnaol i fi a’m gŵr.
“Ond y cam cyntaf, wastad, yw cael mwy o wybodaeth.”