Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi sêl bendith i gynlluniau i godi premiwm o 150% ar dreth gyngor perchnogion ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

Yn ystod cyfarfod yr wythnos hon, fe wnaeth y Cabinet ategu’r penderfyniad gafodd ei wneud yn ystod tymor yr hydref y llynedd.

Cytunodd y Cyngor fis Medi y llynedd y byddai perchnogion ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn talu 100% dros ben y dreth gyngor safonol o fis Ebrill eleni – gyda phremiwm ychwanegol o 50% ar gyfer cartrefi gwag heb gelfi ers pum mlynedd neu fwy.

Fe wnaethon nhw gytuno hefyd y byddai’r premiwm safonol ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn codi i 150% fis Ebrill y flwyddyn nesaf, gyda 50% ychwanegol i’r eiddo hynny sy’n wag ers dros bum mlynedd.

Ddydd Mawrth (Hydref 22), fe wnaeth aelodau’r Cabinet gymeradwyo’r polisi’n unfrydol, a chytuno i’w adolygu ar gyfer 2026-27.

‘Cadarnhad’

“Fel y cofiwch chi, fe wnaethon ni benderfyniad ar ein strategaeth dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor fis Medi 2023,” meddai’r Cynghorydd Gwyneth Ellis, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Dai, mewn cyfarfod ym mhencadlys y Cyngor yn Neuadd y Sir, Rhuthun.

“Mae hyn wedi cael ei benderfynu.

“Yr hyn rydan ni’n gofyn amdano fo heddiw ydy cadarnhad ein bod ni am barhau â’r hyn wnaethon ni ei benderfynu bryd hynny.

“Rydan ni hefyd yn gofyn am adolygu gweithredu’r polisi ar gyfer 2026-27.

“I’ch atgoffa chi, mae’r premiwm am godi o 100% fel ag y mae ar hyn o bryd, i 150% ar gyfer y ddau fath yma o eiddo – gyda 50% ychwanegol ar gyfer cartrefi fu’n wag ers dros bum mlynedd.

“I’ch atgoffa chi, y pwrpas ydy cynyddu nifer y tai fforddiadwy yn Sir Ddinbych er mwyn hybu cymunedau cynaliadwy.

“Dyna’r elfen bwysig.”

Penderfyniad

Fe wnaeth y Cynghorydd Elen Heaton alw’r penderfyniad yn un synhwyrol, gan ddweud nad ar chwarae bach y dylid gwneud y penderfyniad hwnnw.

Fe wnaeth Cyngor Sir Conwy gymhwyso’u premiwm eu hunain yr wythnos ddiwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi’r hawl i gynghorau godi premiwm hyd at 300%, ond clywodd cynghorwyr fod yna ryddhad drwy ddisgresiwn ac eithriadau ar gael.