Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi amlinellu cynlluniau i dacluso a symleiddio’r gyfraith yng Nghymru, gyda’r nod o wneud deddfwriaeth yn hygyrch drwy glicio botwm.
Rhoddodd Julie James, prif ymgynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, ddatganiad i’r Senedd ddoe (dydd Mawrth, Hydref 22) yn dilyn cyflwyno’r Bil Deddfwriaeth.
Dywedodd Julie James, gafodd ei phenodi ym mis Medi, y bydd y bil technegol yn rhan bwysig o’r isadeiledd sy’n tanlinellu’r gyfraith yng Nghymru.
Dywedodd y cyn-gyfreithiwr y bydd rhan gynta’r bil yn symleiddio gweithdrefnau “gorgymhleth” ar ddeddfwriaeth israddol, sef cyfraith sy’n cael ei chreu gan weinidogion yn unol â phwerau sy’n cael eu trosglwyddo drwy ddeddf.
Dywedodd wrth y Senedd y bydd yr ail ran yn moderneiddio’r rheolau ar gyhoeddi cyfraith Gymreig sy’n “dameidiog ac wedi dyddio”, gyda “bylchau ym mynediad y cyhoedd a thryloywder”.
‘Wedi darfod’
Dywedodd y byddai’r bil yn arwain at system gydlynus wedi’i theilwra – gyda dyletswydd yn cael ei gorfodi ar Argraffwr y Brenin yng Nghymru, fyddai’n goruchwylio cyhoeddi deddfwriaeth.
Eglurodd Julie James y byddai’r bil yn sefydlu’n ffurfiol ddosbarth o ddeddfwriaeth sy’n cael ei adnabod fel ‘offeryn statudol Cymreig’ am y tro cyntaf, gan wneud y wefan legislation.gov.uk yn haws i’w phori.
Ychwanegodd y Cwnsler Cyffredinol fod y drydedd rhan yn diddymu hen ddarpariaethau.
“Pan fydd pobol eisiau gweld a darllen y gyfraith, mae angen iddi fod ar gael iddyn nhw drwy glicio botwm,” meddai.
“Mae angen iddyn nhw fod yn hyderus eu bod nhw’n darllen y fersiwn gywir… a pheidio poeni a yw darpariaethau wedi cael eu haddasu a’u diweddaru neu… wedi darfod.”
Dywedodd y bydd hi’n cyflwyno bil ar wahân i atgyfnerthu’r gyfraith ar gynllunio, gan awgrymu y bydd hynny’n digwydd yn ystod tymor presennol y Senedd “os gallwn ni roi trefn ar ein hamserlenni deddfwriaethol”.
‘Awyddus iawn’
Fe wnaeth Mark Isherwood, Cwnsler Cyffredinol cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, godi galwadau Cymdeithas y Gyfraith am gefnogaeth i’r sector cyfreithiol ac ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd sy’n canolbwyntio ar y gyfraith yng Nghymru.
Awgrymodd e hefyd y gellid gwella prosesau’n ymwneud â deddfwriaeth “gweithdrefnau negyddol”, lle mae canfyddiad fod Aelodau’r Senedd yn cydsynio iddi ond nad ydyn nhw o reidrwydd yn ymwybodol ohoni.
Dywedodd Adam Price fod gwefan Cyfraith Cymru yn fwy hygyrch na legislation.gov.uk ond nad yw rhai o’r tudalennau wedi cael eu diweddaru ers pedair blynedd, tra bod eraill yn wag.
Galwodd llefarydd cyfiawnder Plaid Cymru ar i’r Senedd allu pasio gwelliannau i ddeddfwriaeth israddol er mwyn gwella atebolrwydd democrataidd.
Cododd e bryderon fod offerynnau statudol ar gael yn Saesneg yn unig.
‘Dal allan’
Dywedodd Julie James, sy’n aelod o’r Pwyllgor Senedd y Dyfodol newydd, ei bod hi’n “awyddus iawn” i edrych ar offerynnau statudol mae modd eu haddasu ac arallgyfeirio deddfwriaeth eilradd i bwyllgorau polisi.
Fe wnaeth Rhys ab Owen, sy’n Aelod Annibynnol o’r Senedd, groesawu’r bil fel cam pwysig ymlaen i sicrhau cydraddoldeb i’r gyfraith yng Nghymru a’i bod hi’n fwy hygyrch.
Fe wnaeth y cyn-fargyfreithiwr adrodd hanes seilio dadl yn y llys ar ddeddfwriaeth oedd wedi cael ei thynnu’n ôl, gan “wylltio” barnwr yng Nghanolfan Llysoedd Sifil Abertawe.
“Dw innau hefyd wedi cael fy nal allan yn y modd yna pan oeddwn i’n dal i ymarfer,” meddai Julie James.
“Dw i hefyd yn cofio’n iawn y pili-pala yn y stumog wrth i chi gyflwyno cynnig gwahanol heb sicrwydd mai honno yw’r gyfraith ddiweddaraf.”
‘Gwendid’
Galwodd Alun Davies o’r Blaid Lafur am rôl fwy cyfoethog i’r Senedd wrth graffu, ynghanol niferoedd cynyddol o fesurau “fframwaith” mae Llywodraeth Cymru’n mynd ar eu hôl.
Cytunodd Julie James fod angen adolygu prosesau, gan gyfeirio at enghraifft, sef Deddf Isadeiledd 2024 fydd yn “dod yn fyw” drwy ddeddfwriaeth eilradd.
Dywedodd ei bod hi ond yn cofio un cynnig i atal cyflwyno deddfwriaeth eilradd yn ystod ei thair blynedd ar ddeg yn y Senedd.
Ddydd Llun (Hydref 21), dywedodd y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford wrth y Pwyllgor Cyfiawnder fod gan y Senedd oruchwyliaeth sylweddol eisoes o ddeddfwriaeth israddol.
“Pe bawn i’n nodi gwendid yn y system, byddai’n ymwneud llai â’r ffordd mae deddfwriaeth yn creu ffyrdd israddol o wneud pethau a mwy â’r ffaith nad yw’r Senedd hithau bob amser yn gwneud defnydd llawn o’r pwerau craffu sydd ganddi.”