Mae Mark Drakeford wedi beirniadu cynnig ‘Mystic Meg’ ar Gyllideb y Deyrnas Unedig, fydd yn cael ei chyhoeddi’r wythnos nesaf.
Roedd Ysgrifennydd Cyllid Cymru’n ymateb i ddadl Plaid Cymru yn y Senedd, wythnos union cyn Cyllideb gyntaf Llywodraeth Lafur newydd y Deyrnas Unedig ar Hydref 30.
“Collais i gyfri ar sawl gwaith ddefnyddiodd Aelodau Plaid Cymru y gair ‘gofynion’, fel pe bai pa mor uchel yw ein llais yn bwysicach nag ansawdd ein dadl,” meddai.
“Ac, ochr yn ochr â’r dull ‘Undeb Myfyrwyr’ hwnnw o ddadlau, mae gennych chi ryw fath o ddull Mystic Meg tuag at adeiladu cynigion ar gyfer dadl.
“Dydyn ni ddim yn gwybod, ac mewn gwirionedd dydych chi ddim yn gwybod beth sy’n mynd i fod yn y Gyllideb yr wythnos nesaf – ond mae eich cynnig yn dweud wrthym eisoes ei fod e wedi gadael Cymru i lawr.”
‘Glastwreiddio’
Ond pwysleisiodd Heledd Fychan, llefarydd cyllid Plaid Cymru, mai pwrpas y ddadl oedd ceisio dylanwadu ar y Gyllideb yn hytrach na cheisio’i darogan.
Roedd ei chynnig yn galw am £4bn o arian HS2, datganoli Ystad y Goron, fformiwla ariannu newydd i Gymru, tro pedol ar lwfans tanwydd y gaeaf, a therfyn ar y cap dau blentyn ar gyfer budd-dal plant.
“Yn arwain i fyny at yr etholiad cyffredinol, cafodd Cymru addewid o newid,” meddai.
“Ers blynyddoedd, rydan ni wedi clywed gweinidogion y llywodraeth yn y lle hwn yn dweud drosodd a throsodd, ‘Unwaith fydd gennym ni Lywodraeth Lafur yn San Steffan, bydd pethau’n wahanol i Gymru’.
“Hyd yn hyn, dydy’r bartneriaeth honedig o ran grym heb gyflawni.”
Mi wnaeth hi feirniadu Llywodraeth Cymru am “lastwreiddio” gofynion blaenorol a cheisio dileu’r pum alwad o’r cynnig.
Wrth grybwyll enghraifft HS2, dywedodd fod Llywodraeth Cymru bellach yn “gwneud cais am ymrwymiad i drafod ymhellach” yn hytrach nag ategu galwadau blaenorol am £4bn.
‘Twyll’
Fe wnaeth Peter Fox gytuno â llawer o gynnwys cynnig Plaid Cymru, ac eithrio datganoli Ystad y Goron – rhywbeth roedd e’n dadlau na fyddai er lles Cymru.
Dywedodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr y bydd y Gyllideb “hirddisgwyliedig” yr wythnos nesaf yn dilyn yn ôl troed “hynod siomedig” can niwrnod cyntaf Llafur.
“Dydyn ni ddim wedi gweld dim byd ond sbin, twyll a throeon pedol gan weinidogion Llafur yn San Steffan, ac yn drist iawn mae eu cydweithwyr yn y Senedd fel pe baen nhw’n neidio i mewn i’r rhes,” meddai.
Fe wnaeth Peter Fox grybwyll rhybudd gan Gomisiynydd Pobol Hŷn Cymru y gallai torri taliadau tanwydd y gaeaf arwain at 4,000 o farwolaethau anrhagweladwy.
Fe wnaeth e hefyd gyhuddo Rachel Reeves o wneud tro pedol ar addewid maniffesto, gan mai’r disgwyl yw y bydd Canghellor San Steffan yn codi cyfraniadau cyflogwyr tuag at Yswiriant Gwladol.
‘Lladrad trên mawr Cymru’
Dywedodd Luke Fletcher fod asedau Ystad y Goron yn cynhyrchu cannoedd o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn, ond “dydy’r cyfoeth hwnnw ddim yn aros yng Nghymru, mewn gwirionedd”, wrth iddo alw am ddatganoli pwerau.
Fe wnaeth Peredur Owen Griffiths, ei gydweithiwr ym Mhlaid Cymru, ganolbwyntio ar HS2, yr oedd yn ei ddisgrifio fel “lladrad trên mawr Cymru”, ynghyd â galwadau blaenorol Llafur ar i Gymru dderbyn biliynau o bunnoedd.
Ac fe wnaeth Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, gyhuddo Llafur o roi eu buddiannau eu hunain uwchlaw buddiannau pobol Cymru.
Fe wnaeth Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, feirniadu agwedd “ofnadwy, pen yn y tywod’ Llafur tuag at y cap “creulon” o ddau blentyn ar gyfer budd-dal plant.
Gan alw am drethi ar gyfer pobol gyfoethog i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, dywedodd na ddylai’r baich o lanhau gwaddol y Ceidwadwr o ddinistr economaidd gwympo ar ysgwyddau pobol gyffredin.
‘Amnesia cilyddol’
“Mae’n sicr yn dda gweld Plaid Cymru’n mynegi eu siom ynghylch Cyllideb nad yw eto wedi cael ei chyflwyno,” meddai Alun Davies, sy’n aelod o feinciau cefn Llafur.
“Byddwn i’n sicr yn cynghori unrhyw un heddiw i wrando ar y Gyllideb cyn iddyn nhw ei chondemnio.”
Wrth ymateb i’r ddadl ddoe (dydd Mercher, Hydref 23), cytunodd Mark Drakeford â Jane Dodds o ran “amnesia cilyddol” y Ceidwadwyr.
“Dw i’n credu y bydd y Gyllideb yr wythnos nesaf yn fan cychwyn ar drwsio difrod y 14 o flynyddoedd hynny o amddifadu ein gwasanaethau cyhoeddus,” meddai’r cyn-Brif Weinidog.
Pleidleisiodd y Senedd yn erbyn cynnig Plaid Cymru ac yn erbyn gwelliant y Ceidwadwyr.
Cafodd gwelliant Llywodraeth Cymru i “ddileu’r cyfan” ei wrthod hefyd, o 28 pleidlais i 27, gyda David Rees, y Dirprwy Lywydd, yn defnyddio’i bleidlais fantol yn unol â’r confensiwn.