Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddefnyddio adenillion treth ffawdelw er mwyn adfer taliadau tanwydd y gaeaf.

Daw’r alwad gan David Chadwick, dirprwy arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac Aelod Seneddol dros Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe.

Mae’n dadlau y dylai adenillion gan y cwmni ynni Octopus Energy gael eu defnyddio er mwyn ailgyflwyno’r budd-daliadau dadleuol.

Y Democratiaid Rhyddfrydol oedd y blaid gyntaf i ddadlau y dylai’r Llywodraeth gyflwyno trethi ffawdelw o’r fath ar gwmnïau ynni.

Tra bod disgwyl i’r Trysorlys dderbyn £1.5m gan Octopus Energy, £1.4m ydy amcangyfrif cost adfer y taliadau tanwydd gaeaf.

‘Angen dyfeisio datrysiad gwell’

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth Lafur ddefnyddio’r ffawdelw yma’n ddoeth drwy ailgyflwyno’r taliadau tanwydd gaeaf eleni, er mwyn rhoi amser iddi ddyfeisio datrysiad gwell ar gyfer gaeafau’r dyfodol,” meddai David Chadwick.

“Roedd amseru’r Blaid Lafur yn golygu nad oedd cyfle gan bensiynwyr i gynllunio’u cyllidon.

“Nawr, mae gan y Canghellor Llafur gyfle i ailfeddwl ac i stopio’r toriadau ergydiol rhag effeithio’r rheiny sydd ymhlith y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

“Mae’n rhaid i Rachel Reeves fanteisio ar y cyfle hwnnw.”