Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cadarnhau bod eu harweinydd wedi cyfeirio’i hun at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Fe gymerodd y Cynghorydd Sean Morgan y cam hwnnw “er mwyn bod yn dryloyw”, meddai llefarydd ar ran y Cyngor.
Mae’r mater gafodd ei gyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymwneud â “gohebiaeth ddiweddar” rhwng y Cynghorydd Sean Morgan “a phreswylydd”.
Fe adroddodd Newyddion BBC Cymru ddoe (dydd Mercher, Hydref 23) fod yr ohebiaeth yn ymdrin â manylion setliad y cyn-Brif Weithredwr, Christina Harrhy, oedd wedi gadael ei swydd yn gynharach y mis hwn.
Dydy’r Cyngor ddim wedi cadarnhau manylion y setliad yn swyddogol, na chynnig sylw arnyn nhw.
Cafodd y setliad ei gytuno mewn cyfarfod caeëedig, ac fe gafodd y rheiny oedd yn bresennol eu rhybuddio i beidio â rhannu’r wybodaeth gafodd ei thrafod.
Ond mae sôn bod y cytundeb cudd yn cynnwys ffigwr o £209,000 i’w dalu i Christina Harrhy, ac mae Archwilio Cymru wedi cadarnhau ers hynny eu bod nhw am graffu ar y cytundeb.
Ymateb yr Archwilydd Cyffredinol
“Bydd y taliad am adael gafodd ei wneud i Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhan o ddatganiadau ariannol 2024/25,” meddai Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, mewn datganiad.
“Bydd fy nhîm archwilio, fel rhan o’u harchwiliad o’r cyfrifon hynny, yn ystyried y trafodyn hwn ac yn penderfynu faint o waith archwilio fydd yn angenrheidiol.
“Cyn hynny, mi fyddwn ni’n siarad gyda’r Cyngor er mwyn deall y rheswm tu ôl i’r taliad, ac a oes angen unrhyw waith pellach ar hyn o bryd.”
Cefndir
Mae’n debyg y bu Christina Harrhy ar gynllun absenoldeb arbennig hirdymor gan Gyngor Caerffili am unarddeg mis cyn gadael ei swydd â’r awdurdod lleol.
“Mae modd i ni gadarnhau bod Christina Harrhy wedi gadael yr awdurdod ac y bydd y dirprwy brif weithredwr, Dave Street, yn brif weithredwr dros dro wrth i’r cyngor ystyried y camau nesaf o ran apwyntio prif weithredwr newydd parhaol,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor ar ôl y cyfarfod i gytuno ar y setliad.
Mae sôn y cafodd cynghorwyr oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw ar Hydref 7 eu rhybuddio i beidio â thrafod manylion y trafodion gyda’r wasg, rhag ofn iddyn nhw hefyd gael eu cyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.